Newidiadau dros amser i: ATODLEN 3Ch
Statws
Golwg cyfnod mewn amser fel yr oedd ar 13/04/2010.
Newidiadau i ddeddfwriaeth:
Ar hyn o bryd nid oes unrhyw effeithiau heb eu gweithredu yn hysbys ar gyfer y Rheoliadau Hylendid Bwyd (Cymru) 2006, ATODLEN 3Ch.![Help about Changes to Legislation](/images/chrome/helpIcon.gif)
![Close](/images/chrome/closeIcon.gif)
Changes to Legislation
Efallai na fydd deddfwriaeth ddiwygiedig sydd ar y safle hwn yn gwbl gyfoes. Ar hyn o bryd mae unrhyw newidiadau neu effeithiau hysbys a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol wedi'u gwneud i destun y ddeddfwriaeth yr ydych yn edrych arni gan y tîm golygyddol. Gweler 'Cwestiynau Cyffredin' am fanylion ynglŷn â'r amserlenni ar gyfer nodi a chofnodi effeithiau newydd ar y safle hwn.
Rheoliad 17(8)
[ATODLEN 3ChLL+CGOFYNION Y CYFEIRIR ATYNT YN RHEOLIAD 17(8)
Y gofynion yw—
(a)bod y lladd-dy ar 31 Rhagfyr 2005 yn un a drwyddedwyd yn lladd-dy trwybwn isel o dan Reoliadau Cig Dofednod, Cig Adar Hela a Ffermir a Chig Cwningen (Hylendid ac Arolygu) 1995();
(b)bod y gweithredwr busnes bwyd yn naliad gwreiddiol y dofednod neu'r lagomorffiaid yn eu cludo o'r daliad hwnnw yn uniongyrchol i'r lladd-dy ac yn rhoi ymgymeriad ysgrifenedig i'r gweithredwr busnes bwyd yn y lladd-dy mai ef sydd i sicrhau bod y cyfryngau cludo yn cael eu glanhau ac, os yw'n angenrheidiol, yn cael eu diheintio ar ôl eu gwagio;
(c)bod y gweithredwr busnes bwyd yn y lladd-dy yn cadw'r ymgymeriad y cyfeiriwyd ato ym mharagraff (b) am flwyddyn; ac
(ch)bod y gweithredwr busnes bwyd yn y lladd-dy yn cydnabod wrth y milfeddyg swyddogol y gallai fod yn ofynnol iddo o dan reolau iechyd anifeiliaid ymatal rhag gweithredu yn y lladd-dy os byddai clefyd anifeiliaid yn brigo.]
Yn ôl i’r brig