Rheoliadau Hylendid Bwyd (Cymru) 2006

Esemptiadau cyffredinol rhag y gofynion cadw'n oerLL+C

3.  Nid yw is-baragraffau (1) a (3) o baragraff 2 yn gymwys o ran—

(a)bwyd—

(i)sydd wedi'i goginio neu wedi'i aildwymo,

(ii)sydd i'w arlwyo neu sy'n cael ei arddangos i'w werthu, a

(iii)y mae angen ei gadw ar dymheredd o 63ºC neu uwchlaw hynny er mwyn rheoli twf micro-organeddau pathogenig neu atal tocsinau rhag ffurfio;

(b)bwyd y caniateir ei gadw, am weddill ei oes silff ar dymereddau amgylchynol heb unrhyw risg i iechyd;

(c)bwyd y gwneir neu y gwnaed iddo fynd drwy broses megis dadhydradu neu ganio a fwriedir i atal twf micro-organeddau pathogenig ar dymereddau amgylchynol, ond nid—

(i)pan fo'r bwyd, ar ôl neu yn rhinwedd y broses honno, wedi'i gynnwys mewn cynhwysydd aerglos, a

(ii)pan fo'r cynhwysydd hwnnw wedi'i agor;

(ch)bwyd y mae'n rhaid ei aeddfedu ar dymereddau amgylchynol, ond nid pan fo'r broses aeddfedu wedi'i chwblhau;

(d)bwyd crai a fwriedir ar gyfer prosesu pellach (gan gynnwys coginio) cyn i bobl ei fwyta, ond dim ond os bydd y prosesu hwnnw, os ymgymerir ag ef yn gywir, yn gwneud y bwyd hwnnw'n ffit ar gyfer ei fwyta gan bobl;

(dd)bwyd y mae [F1Rheoliad y Comisiwn 543/2008 a Rheoliad 1308/2013] yn gymwys iddo; ac

(e)bwyd y mae [F2Rheoliad y Comisiwn 589/2008 a Rheoliad 1308/2013] yn gymwys iddo.