- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
1.—(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Adolygu Penderfyniadau'n Annibynnol (Mabwysiadu) (Cymru) 2006.
(2) Maent yn dod i rym ar 31 Rhagfyr 2006.
(3) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru.
2. Yn y Rheoliadau hyn—
ystyr “ceisydd” (“applicant”)—
yn achos penderfyniad ar addasrwydd, yw darpar fabwysiadydd;
yn achos penderfyniad i ddatgelu, yw person perthnasol o fewn ystyr “relevant person” yn rheoliad 13A(7) o'r Rheoliadau Datgelu;
ystyr “cyfarfod adolygu” (“review meeting”) yw cyfarfod a gynullir yn unol â rheoliad 13 at ddibenion adolygu penderfyniad cymhwysol;
ystyr “y Cynulliad Cenedlaethol” (“the National Assembly”) yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru;
ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Mabwysiadu a Phlant 2002;
ystyr “gweithiwr cymdeithasol” (“social worker”) yw person sydd wedi'i gofrestru'n weithiwr cymdeithasol ar gofrestr sy'n cael ei chadw gan y Cyngor Gofal Cymdeithasol Cyffredinol neu Gyngor Gofal Cymru o dan adran 56 o Ddeddf Safonau Gofal 2000(1) neu ar gofrestr gyfatebol sy'n cael ei chadw o dan gyfraith yr Alban neu Ogledd Iwerddon;
ystyr “panel” (“panel”) yw panel a gyfansoddwyd yn unol â rheoliad 4(1);
ystyr “panel mabwysiadu” (“adoption panel”) yw panel a gyfansoddwyd yn unol â rheoliad 3 o'r Rheoliadau Asiantaethau;
ystyr “penderfyniad ar addasrwydd” (“suitability determination”) yw penderfyniad cymhwysol a ddisgrifir yn rheoliad 3(a);
ystyr “penderfyniad cymhwysol” (“qualifying determination”) yw penderfyniad a ddisgrifir yn rheoliad 3(a);
ystyr “penderfyniad i ddatgelu” (“disclosure determination”) yw penderfyniad cymhwysol a ddisgrifir yn rheoliad 13A(1) o'r Rheoliadau Datgelu(2);
ystyr “y Rheoliadau Adolygu Annibynnol 2005” (“the Independent Review Regulations 2005”) yw Rheoliadau Adolygu Penderfyniadau'n Annibynnol (Mabwysiadau) (Cymru) 2005(3);
ystyr “y Rheoliadau Asiantaethau” (“the Agencies Regulations”) yw Rheoliadau Asiantaethau Mabwysiadu (Cymru) 2005(4);
ystyr “y Rheoliadau Datgelu” (“the Disclosure Regulations”) yw Rheoliadau Mynediad i Wybodaeth (Mabwysiadu Ôl-gychwyn) (Cymru) 2005(5); ac
mae “y rhestr ganolog” (“the central list”) i'w dehongli yn unol â rheoliad 4.
3. At ddibenion adran 12(2) o'r Ddeddf, mae penderfyniad cymhwysol—
(a)yn benderfyniad sydd wedi'i wneud gan asiantaeth fabwysiadu yn unol â Rheoliadau 2005 fel a ganlyn:
(i)pan na fydd yr asiantaeth, o dan reoliad 28(4) o'r Rheoliadau Asiantaethau, yn bwriadu cymeradwyo darpar fabwysiadydd fel un sy'n addas i fod yn rhiant mabwysiadol.
(ii)pan fo'r asiantaeth o'r farn nad yw darpar fabwysiadydd yn addas mwyach i fod yn rhiant mabwysiadol yn dilyn adolygiad o dan reoliad 30 o'r Rheoliadau Asiantaethau.
(b)yn benderfyniad a ddisgrifir yn rheoliad 13A(1) o'r Rheoliadau Datgelu(6).
Deddf Safonau Gofal 2000, p.14.
Mae Rheoliad 13A(1) o'r Rheoliadau Datgelu yn pennu'r penderfyniadau canlynol gan yr asiantaeth fabwysiadu briodol, mewn perthynas â chais o dan adran 61 o'r Ddeddf: (a) peidio â bwrw ymlaen â chais gan unrhyw berson am ddatgelu gwybodaeth a ddiogelir; (b) datgelu gwybodaeth i geisydd pan fo'r person hwnnw wedi dal yn ôl gydsyniad i ddatgelu'r wybodaeth; ac (c) peidio â datgelu gwybodaeth am berson i'r ceisydd pan fo'r person hwnnw wedi rhoi cydsyniad i ddatgelu'r wybodaeth.
Gweler rheoliad 16 o'r Rheoliadau hyn.
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys