Rheoliadau Arolygu'r Gwasanaeth Gyrfaoedd a Gwasanaethau Cysylltiedig (Cymru) 2006

Arolygiadau cyntaf

3.—(1Mae'r Rheoliad hwn yn gymwys yn achos darparydd gwasanaeth neu ddarparydd perthnasol na chafodd ei archwilio o'r blaen naill ai o dan adran 35 neu 35A o Ddeddf 1998(1) nac o dan adran 55 neu 56.

(2Os yw'r rheoliad hwn yn gymwys, mae'r darparydd gwasanaeth neu'r darparydd perthnasol i gael ei arolygu o dan adran 55 neu 56 (yn ôl y digwydd), o fewn cyfnod o chwe blynedd o'r dyddiad pryd y daeth y darparydd gwasanaeth neu'r darparydd perthnasol gyntaf yn ddarparydd o'r fath.

(1)

1998 p.30. Diwygiwyd adran 35 gan baragraff 77 o Atodlen 9 i Ddeddf Dysgu a Medrau 2000, a mewnosodwyd adran 35A gan adran 81 o'r Ddeddf honno. Diddymir y ddwy adran gan Ddeddf 2005, Atodlen 19, Rhan 1, sy'n effeithiol o 1 Ebrill 2007: O.S. 2006/1338 (Cy.130) (C.45).