- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
4.—(1) Mae paragraff (2) yn gymwys os—
(a)oes honiad wedi cael ei wneud i Gomisiynydd Lleol yng Nghymru o dan adran 69 Deddf Llywodraeth Leol 2000(1) cyn y dyddiad y daw adran 38 o'r Ddeddf i rym, a
(b)nad yw'r honiad wedi cael ei benderfynu gan y Comisiynydd hwnnw cyn y dyddiad hwnnw.
(2) Ar y dyddiad y daw adran 38 o'r Ddeddf i rym ac ar ôl hynny, mae Rhan III o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000 a rheoliadau a gorchmynion a wnaed oddi tani yn parhau i fod yn gymwys at ddibenion yr honiad er gwaethaf darpariaethau'r Ddeddf neu'r Gorchymyn hwn.
(3) Mae paragraff (4) yn gymwys os—
(a)gallesid (heblaw am ddarpariaethau'r Ddeddf) bod wedi gwneud honiad i Gomisiynydd Lleol yng Nghymru, a
(b)yw'r honiad yn honiad bod aelod neu aelod cyfetholedig (neu gyn aelod neu gyn aelod cyfetholedig) o awdurdod perthnasol yng Nghymru wedi methu neu y gall fod wedi methu â chydymffurfio â chod ymddygiad yr awdurdod cyn y dyddiad y daw adran 38 o'r Ddeddf i rym.
(4) Ar y dyddiad y daw adran 38 o'r Ddeddf i rym ac ar ôl hynny, mae Rhan III o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000(2) a rheoliadau a gorchmynion a wnaed oddi tani yn parhau i fod yn gymwys at ddibenion galluogi i'r honiad gael ei wneud, ac at ddibenion yr honiad os y'i gwneir, er gwaethaf darpariaethau'r Ddeddf neu'r Gorchymyn hwn.
(5) Pan fo paragraffau (2) a (4) yn gymwys, mae Rhan III o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000 a rheoliadau a gorchmynion a wnaed oddi tani yn effeithiol fel pe bai cyfeiriadau at Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru wedi eu rhoi yn lle cyfeiriadau at y Comisiynydd Lleol yng Nghymru.
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys