xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Offerynnau Statudol Cymru

2006 Rhif 362 (Cy.48)

OMBWDSMON GWASANAETHAU CYHOEDDUS CYMRU

Gorchymyn Deddf Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) 2005 (Darpariaethau Trosiannol a Diwygiadau Canlyniadol) 2006

Wedi'u gwneud

14 Chwefror 2006

Yn dod i rym

1 Ebrill 2006

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 43(1) a (2) a 44(1) o Ddeddf Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) 2005(1) drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn canlynol:

Enwi, cychwyn, cymhwyso a dehongli

1.—(1Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) 2005 (Darpariaethau Trosiannol a Diwygiadau Canlyniadol) 2006 a bydd yn dod i rym ar 1 Ebrill 2006.

(2Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.

(3Yn y Gorchymyn hwn—

ystyr “aelod cyfetholedig” (“co-opted member”), mewn perthynas ag awdurdod perthnasol, yw person nad yw'n aelod o'r awdurdod ond sy'n—

(a)

aelod o unrhyw bwyllgor neu is-bwyllgor o'r awdurdod, neu

(b)

aelod o unrhyw gydbwyllgor neu gyd is-bwyllgor o'r awdurdod ar y cydbwyllgor neu ar y cyd is-bwyllgor hwnnw,

ac sy'n gymwys i bleidleisio ar unrhyw fater sydd i'w benderfynu mewn unrhyw gyfarfod o'r pwyllgor neu is-bwyllgor hwnnw;

ystyr “awdurdod perthnasol” (“relevant authority”) yw cyngor sir, cyngor bwrdeistref sirol, awdurdod Parc Cenedlaethol a sefydlwyd o dan adran 63 o Ddeddf Amgylchedd 1995(2) neu awdurdod tân ac achub a gyfansoddwyd gan gynllun o dan adran 2 o Ddeddf Tân ac Achub 2004(3) neu gynllun y mae adran 4 o'r Ddeddf honno yn gymwys iddo; ac

ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) 2005.

Diddymu a diwygio is-ddeddfwriaeth

2.  Mae'r is-ddeddfwriaeth y cyfeirir ati yn Atodlen 1 yn cael ei dirymu.

3.  Mae Atodlen 2 yn cynnwys diwygiadau i is-ddeddfwriaeth.

Darpariaethau trosiannol

4.—(1Mae paragraff (2) yn gymwys os—

(a)oes honiad wedi cael ei wneud i Gomisiynydd Lleol yng Nghymru o dan adran 69 Deddf Llywodraeth Leol 2000(4) cyn y dyddiad y daw adran 38 o'r Ddeddf i rym, a

(b)nad yw'r honiad wedi cael ei benderfynu gan y Comisiynydd hwnnw cyn y dyddiad hwnnw.

(2Ar y dyddiad y daw adran 38 o'r Ddeddf i rym ac ar ôl hynny, mae Rhan III o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000 a rheoliadau a gorchmynion a wnaed oddi tani yn parhau i fod yn gymwys at ddibenion yr honiad er gwaethaf darpariaethau'r Ddeddf neu'r Gorchymyn hwn.

(3Mae paragraff (4) yn gymwys os—

(a)gallesid (heblaw am ddarpariaethau'r Ddeddf) bod wedi gwneud honiad i Gomisiynydd Lleol yng Nghymru, a

(b)yw'r honiad yn honiad bod aelod neu aelod cyfetholedig (neu gyn aelod neu gyn aelod cyfetholedig) o awdurdod perthnasol yng Nghymru wedi methu neu y gall fod wedi methu â chydymffurfio â chod ymddygiad yr awdurdod cyn y dyddiad y daw adran 38 o'r Ddeddf i rym.

(4Ar y dyddiad y daw adran 38 o'r Ddeddf i rym ac ar ôl hynny, mae Rhan III o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000(5) a rheoliadau a gorchmynion a wnaed oddi tani yn parhau i fod yn gymwys at ddibenion galluogi i'r honiad gael ei wneud, ac at ddibenion yr honiad os y'i gwneir, er gwaethaf darpariaethau'r Ddeddf neu'r Gorchymyn hwn.

(5Pan fo paragraffau (2) a (4) yn gymwys, mae Rhan III o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000 a rheoliadau a gorchmynion a wnaed oddi tani yn effeithiol fel pe bai cyfeiriadau at Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru wedi eu rhoi yn lle cyfeiriadau at y Comisiynydd Lleol yng Nghymru.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(6).

John Marek

Dirprwy Lywydd y Cynulliad Cenedlaethol

14 Chwefror 2006

Erthygl 2

ATODLEN 1DIRYMU IS-DDEDDFWRIAETH

Mae'r is-ddeddfwriaeth ganlynol yn cael ei dirymu—

(a)Gorchymyn Deddf Llywodraeth Cymru (Cwynion am Gamweinyddu) (Darpariaethau Trosiannol ac Arbedion) 1999(7);

(b)Rheoliadau'r Comisiwn dros Weinyddu Lleol yng Nghymru a Chomisiynydd Lleol yng Nghymru (Swyddogaethau a Threuliau) 2001(8); ac

(c)Gorchymyn Diwygio Rheoleiddio (Comisiynydd Lleol yng Nghymru) 2004(9).

Erthygl 3

ATODLEN 2DIWYGIO IS-DDEDDFWRIAETH

Gorchymyn Deddf Cyfrinachau Swyddogol 1989 (Rhagnodi) 1990

1.  Yn y Ddeddf Cyfrinachau Swyddogol 1989 (Cyfarwyddyd) 1990(10), yn Atodlen 2 (Rhagnodi), yn y cofnod yn y golofn gyntaf ar gyfer “Officer of the Health Service Commissioner for England or Wales” hepgorer y geiriau “or Wales”.

Rheoliadau Cefnogi Plant (Gwybodaeth, Tystiolaeth a Datgeliad) 1992

2.  Yn Rheoliadau Cefnogi Plant (Gwybodaeth, Tystiolaeth a Datgeliad) 1992(11), yn Rheoliad 11 (Cyflogaeth y mae adran 50 o'r Ddeddf yn gymwys iddi)—

(a)hepgorer paragraff (d);

(b)hepgorer “and” ar ôl paragraff (h);

(c)ar ôl paragraff (i), mewnosoder—

Rheoliadau Contractau Gwasanaethau Cyhoeddus 1993

3.  Yn Rheoliadau Contractau Gwasanaethau Cyhoeddus 1993(12), yn Atodlen 3 (GPA Atodiad I Awdurdodau Contractio)—

(a)yn lle “Office of the Parliamentary Commissioner for Administration and Health Service Commissioners”, rhodder “Office of the Parliamentary Commissioner for Administration”;

(b)ar ôl y cofnod y cyfeirir ato ym mharagraph (a) uchod mewnosoder, “Office of the Public Services Ombudsman for Wales”;

(c)ar ôl y cyfeiriad at “Office of Fair Trading” mewnosoder “Office of the Health Service Commissioner for England”.

Rheoliadau Contractau Cyflenwi Cyhoeddus 1995

4.  Yn Rheoliadau Contractau Cyflenwi Cyhoeddus 1995(13), yn Atodlen 1 (GPA Atodiad I Awdurdodau Contractio)—

(a)yn lle'r cofnod ar gyfer “Office of the Parliamentary Commissioner for Administration and Health Service Commissioners”, rhodder “Office of the Parliamentary Commissioner for Administration”;

(b)ar ôl y cofnod y cyfeirir ato ym mharagraph (a) uchod mewnosoder, “Office of the Public Services Ombudsman for Wales”;

(c)ar ôl y cofnod ar gyfer “Office of Fair Trading” mewnosoder “Office of the Health Service Commissioner for England”.

Gorchymyn Deddf Awdurdodau Iechyd 1995 (Darpariaethau Trosiannol) 1996

5.  Yng Ngorchymyn Deddf Awdurdodau Iechyd 1995 (Darpariaethau Trosiannol) 1996(14), yn Erthygl 9(1) hepgorer “or Wales”.

Rheoliadau Ymchwiliadau Llywodraeth Leol (Swyddogaethau Swyddogion Monitro a Phwyllgorau Safonau) (Cymru) 2001

6.  Yn Rheoliadau Ymchwiliadau Llywodraeth Leol (Swyddogaethau Swyddogion Monitro a Phwyllgorau Safonau) (Cymru) 2001(15)

(a)Yn Rheoliadau 3(2), 5(1)(b), 7 ac 8(3)(a) yn lle “Comisiynydd Lleol yng Nghymru” neu “Gomisiynydd Lleol yng Nghymru” yn ôl y digwydd, rhodder “Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru” fel bo'n briodol;

(b)Yn Rheoliadau 7(a), 9(3) ac 13(1) yn lle “Comisiynydd Lleol yng Nghymru” neu “Gomisiynydd Lleol yng Nghymru” rhodder “Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru” fel bo'n briodol; a

(c)Yn Rheoliad 12 yn lle “Comisiynydd Lleol i Gymru ” dylid rhoi “Public Services Ombudsman for Wales”.

Rheoliadau Pwyllgorau Safonau (Cymru) 2001

7.  Yn Rheoliadau Pwyllgorau Safonau (Cymru) 2001(16), yn Rheoliad 29(2) yn lle “Comisiwn dros Weinyddu Lleol yng Nghymru” rhodder “Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru”.

Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Trefniadau Amgen) (Cymru) 2001

8.  Yn Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Trefniadau Amgen) (Cymru) 2001(17), yn Rhan I (Swyddogaethau amrywiol) o Atodlen 1, ym mharagraff 16, colofn 1, yn lle “y Comisiynydd Lleol” rhodder “Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru”.

Rheoliadau Dyfarniadau gan Dribiwnlysoedd Achos a Thribiwnlysoedd Achos Interim (Cymru) 2001

9.  Yn Rheoliadau Dyfarniadau gan Dribiwnlysoedd Achos a Thribiwnlysoedd Achos Interim (Cymru) 2001 (18), yn yr Atodlen—

(a)ym mharagraff 1, yn y diffiniad o “adroddiad” (“report”) , paragraff 2, paragraff 8 a pharagraff 16 (ym mhob lle y mae'n ymddangos) yn lle “Comisiynydd Lleol yng Nghymru” neu “Gomisiynydd Lleol yng Nghymru” rhodder “Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru” fel bo'n briodol;

(b)Ym mharagraff 2(a), yn lle “Comisiynydd Lleol” dylid rhoi “Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru”; ac

(c)Ym mharagraff 8, yn lle'r “Comisiwn dros Weinyddu Lleol yng Nghymru” rhodder “Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru”.

Gorchymyn Ymddygiad Aelodau (Cod Ymddygiad Enghreifftiol) (Cymru) 2001

10.  Yn y Gorchymyn Ymddygiad Aelodau (Cod Ymddygiad Enghreifftiol) (Cymru) 2001(19), yn Rhan II o'r Atodlen, ym mharagraff 6(1)(c), yn lle “Comisiynydd Lleol dros Weinyddu Lleol yng Nghymru” rhodder “Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru”.

Rheoliadau Trefniadau Gweithrediaeth Awdurdodau Lleol (Swyddogaethau a Chyfrifoldebau) (Cymru) 2001

11.  Yn Rheoliadau Trefniadau Gweithrediaeth Awdurdodau Lleol (Swyddogaethau a Chyfrifoldebau) (Cymru) 2001(20), yn Rhan I (Swyddogaethau amrywiol) o Atodlen 1, ym mharagraff 16, colofn 1, yn lle “y Comisiynydd Lleol” rhodder “Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru”.

Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Datgymhwyso) 2003

12.  Yng Ngorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Datgymhwyso) 2003(21)

(a)Yn Rhan 1 o'r Atodlen hepgorer y cyfeiriad at “The Commission for Local Administration in Wales”; ac

(b)Yn Rhan 2 o'r Atodlen hepgorer y cyfeiriad at “Health Service Commissioner for Wales” .

Rheoliadau Asiantaethau Mabwysiadu (Cymru) 2005

13.  Yn Rheoliadau Asiantaethau Mabwysiadu (Cymru) 2005(22), yn Rheoliad 43(1), yn is-baragraff (ch), dylid rhoi “Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru” yn lle “Gomisiynydd Gweinyddiaeth Leol yng Nghymru”.

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae'r Gorchymyn hwn yn dirymu tri offeryn statudol ac yn diwygio offerynnau statudol eraill o ganlyniad i Ddeddf Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) 2005 (2005 p.10) (“y Ddeddf”). Mae'r Gorchymyn hwn hefyd yn gwneud darpariaethau trosiannol mewn perthynas â swyddogaethau'r Comisiynydd Lleol yng Nghymru o dan Ran III o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000 (p.22).

Mae'r Ddeddf yn sefydlu swydd Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru (“yr Ombwdsmon”). Mae'r Ddeddf yn diddymu swyddi Ombwdsmon Gweinyddiaeth Cymru, Comisiynydd Gwasanaeth Iechyd Cymru ac Ombwdsmon Tai Cymdeithasol Cymru. Mae hefyd yn diddymu'r Comisiwn dros Weinyddu Lleol yng Nghymru (gan gynnwys swydd y Comisiynydd Lleol yng Nghymru). Yn fras, mae'r Ddeddf yn gwneud darpariaeth i'r Ombwdsmon ymchwilio i'r materion hynny a oedd o fewn cylch gwaith yr ombwdsmyn a'r comisiynwyr hynny yng Nghymru.

Bydd gan yr Ombwdsmon gyfrifoldeb am ymchwilio i gamweinyddu a methiant mewn gwasanaeth gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru; ei gyrff cyhoeddus a noddir (yr hyn sy'n cyfateb yng Nghymru i gyrff cyhoeddus anadrannol) a nifer o gyrff eraill a noddir gan arian cyhoeddus; cyrff gwasanaeth iechyd Cymru (Ymddiriedolaethau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Byrddau Iechyd Lleol yng Nghymru yn bennaf); darparwyr penodol y gwasanaeth iechyd yng Nghymru; cyrff llywodraeth leol yng Nghymru a landlordiaid cymdeithasol yng Nghymru. O ganlyniad bydd gwasanaeth ombwdsmon unedig yng Nghymru.

Mae'r diwygiadau a'r dirymiadau a wnaed gan y Gorchymyn hwn yn ganlyniad i'r newidiadau hynny.

(10)

O.S. 1990/200, diwygiwyd gan O.S. 1999/1042 ac O.S. 2004/1823; mae offerynnau diwygio eraill ond nid yw'r un ohonynt yn berthnasol.

(11)

O.S.1992/1812, diwygiwyd gan O.S. 2004/1823; mae offerynnau diwygio eraill ond nid yw'r un ohonynt yn berthnasol.

(12)

O.S. 1993/3228, diwygiwyd gan Ddeddf Heddlu (Gogledd Iwerddon) 2000 (p.32), a gan O.S. 2000/2009, O.S. 2001/1149, ac O.S.A. 2003/242, mae diwygiadau eraill ond nid yw'r un ohonynt yn berthnasol.

(13)

O.S. 1995/201, diwygiwyd gan Ddeddf Heddlu (Gogledd Iwerddon) 2000 (p.32), a gan O.S. 2000/209, 2002/881, ac O.S.A. 2003/242; mae diwygiadau eraill ond nid yw'r un ohonynt yn berthnasol.

(14)

O.S. 1996/709, y mae diwygiadau iddo sydd ddim yn berthnasol i'r Gorchymyn hwn.

(17)

O.S. 2001/2284 (Cy.173), diwygiwyd gan O.S. 2002/810 (Cy.90), O.S. 2004/3092, O.S. 2005/368; mae diwygiadau eraill ond nid yw'r un ohonynt yn berthnasol.

(20)

O.S. 2001/2291 (Cy.179), diwygiwyd gan O.S. 2002/783 (Cy .84) ac O.S. 2004/3093; mae diwygiadau eraill ond nid yw'r un ohonynt yn berthnasol.

(21)

O.S. 2003/437, diwygiwyd gan O.S. 2004/664.