Chwilio Deddfwriaeth

Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol ar Fwyd Anifeiliaid a Bwyd (Cymru) 2006

Statws

Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol).

Dehongli

2.—(1Yn y Rheoliadau hyn—

ystyr “yr Asiantaeth” (“the Agency”) yw'r Asiantaeth Safonau Bwyd;

mae i “awdurdod bwyd” (“food authority”) yr ystyr sydd iddo yn rhinwedd adran 5(1A) o'r Ddeddf;

ystyr “awdurdod bwyd anifeiliaid” (“feed authority”) yw'r awdurdod y mae'n ofynnol o dan adran 67(1A) o Ddeddf Amaethyddiaeth 1970(1) iddo orfodi'r Ddeddf honno o fewn ei ardal neu ddosbarth yn ôl y digwydd;

ystyr “awdurdod cymwys” (“competent authority”) yw awdurdod sydd, yn rhinwedd rheoliad 3, wedi'i ddynodi at ddibenion unrhyw un o ddarpariaethau Rheoliad 882/2004;

ystyr “awdurdod gorfodi perthnasol” (“relevant enforcement authority”) yw corff sydd, yn rhinwedd rheoliad 17, yn cael ei wneud yn gyfrifol am weithredu a gorfodi unrhyw ddarpariaeth yn Rhan II o'r Rheoliadau hyn;

ystyr “awdurdod iechyd porthladd” (“port health authority”) o ran unrhyw ddosbarth iechyd porthladd a sefydlwyd drwy orchymyn o dan adran 2(3) o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984, yw awdurdod iechyd porthladd ar gyfer y dosbarth a sefydlwyd drwy orchymyn o dan adran 2(4) o'r Ddeddf honno;

mae i “cyfraith bwyd anifeiliaid berthnasol” (“relevant feed law”) yr ystyr a roddir i hynny yn Atodlen 2;

mae i “cyfraith bwyd berthnasol” (“relevant food law”) yr ystyr a roddir i hynny yn Atodlen 3;

mae i “cynhyrchu sylfaenol” yr ystyr sydd i “primary production” yn Rheoliad 852/2004;

ystyr “y Cynulliad” (“the Assembly”) yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru;

ystyr “y Darpariaethau Mewnforio” (“the Import Provisions”) yw Rhan II o'r Rheoliadau hyn ac Erthyglau 15 i 24 o Reoliad 882/2004;

ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Diogelwch Bwyd 1990;

mae “mangre” (“premises”) yn cynnwys unrhyw sefydliad, unrhyw le, cerbyd, stondin neu adeiladwaith symudol ac unrhyw long neu awyren;

mae i “Rheoliad 178/2002” (“Regulation 178/2002”), “Rheoliad 852/2004” (“Regulation 852/2004”), “Rheoliad 853/2004” (“Regulation 853/2004”) “Rheoliad 882/2004” (“Regulation 882/2005”), “Cyfarwyddeb 2004/41” (“Directive 2004/41”), “Rheoliad 1688/2005” (“Regulation 1688/2005”), “Rheoliad 2073/2005” (“Regulation 2073/2005”), “Rheoliad 2074/2005” (“Regulation 2074/2005”), a “Rheoliad 2076/2005” (“Regulation 2076/2005”) yr ystyr a roddir iddynt yn ôl eu trefn yn Atodlen 1;

ystyr “y Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol” (“the Official Control Regulations”) yw'r Rheoliadau hyn a Rheoliad 882/2004; ac

ystyr “swyddog awdurdodedig” (“authorised officer”)—

(a)

o ran awdurdod cymwys, yw unrhyw berson (boed yn swyddog i'r awdurdod neu beidio) sydd wedi'i awdurdodi gan yr awdurdod at ddibenion rheoliad 14; a

(b)

o ran awdurdod gorfodi perthnasol, yw unrhyw berson (boed yn swyddog i'r awdurdod neu beidio) sydd wedi'i awdurdodi'n ysgrifenedig gan yr awdurdod, naill ai'n gyffredinol neu'n arbennig, i weithredu mewn materion sy'n codi o dan Ran II o'r Rheoliadau hyn mewn perthynas â gweithredu a gorfodi rheoliad 16 gan yr awdurdod hwnnw.

(2Yn ddarostyngedig i baragraff (3), mae i unrhyw ymadrodd a ddefnyddir yn y Rheoliadau hyn, ac eithrio un a ddiffinnir ym mharagraff (1), ac y defnyddir yr ymadrodd Saesneg cyfatebol yn y Rheoliadau hyn ac yn y Ddeddf yr ystyr a roddir i'r ymadrodd Saesneg cyfatebol hwnnw yn y Ddeddf.

(3Onid yw'n ymddangos bod bwriad i'r gwrthwyneb, mae i unrhyw ymadrodd a ddefnyddir yn y Rheoliadau hyn ac y defnyddir yr ymadrodd Saesneg cyfatebol yn y Rheoliadau hyn ac yn Rheoliad 178/2002 neu Reoliad 882/2004 yr ystyr a roddir i'r ymadrodd Saesneg cyfatebol hwnnw yn Rheoliad 178/2002 neu Reoliad 882/2004 yn ôl y digwydd.

(4Pan fo unrhyw swyddogaethau o dan y Ddeddf yn cael eu priodoli—

(a)drwy orchymyn o dan adran 2 o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984(2) i awdurdod iechyd porthladd; neu

(b)drwy orchymyn o dan adran 6 o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd 1936(3) i gyd-fwrdd ar gyfer dosbarth unedig,

rhaid dehongli unrhyw gyfeiriad yn y Rheoliadau hyn at awdurdod bwyd, i'r graddau y mae'r cyfeiriad hwnnw yn ymwneud â'r swyddogaethau hynny, fel cyfeiriad at yr awdurdod y maent wedi'u priodoli iddo.

(2)

1984 p.22; amnewidiwyd adran 7(3)(d) gan baragraff 27 o Atodlen 3 i Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990 (1990 p.16).

(3)

1936 p.49; mae adran 6 i'w darllen ynghyd â pharagraff 1 o Atodlen 3 i Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990.

Yn ôl i’r brig

Options/Help

Print Options

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill
Close

Rhagor o Adnoddau

Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel gwnaed fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • slipiau cywiro

liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys

  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill