- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol).
4.—(1) At ddibenion galluogi awdurdodau cymwys, awdurdodau RhSFAB (Rheolaethau Swyddogol ar Fwyd Anifeiliaid a Bwyd) eraill ac Aelod-wladwriaethau i gyflawni'r rhwymedigaethau a roddir arnynt gan Reoliad 882/2004, caiff awdurdodau cymwys gyfnewid ymhlith ei gilydd neu ddarparu i awdurdodau RhSFAB eraill unrhyw wybodaeth y maent yn ei chael wrth weithredu neu orfodi cyfraith bwyd anifeiliaid berthnasol neu gyfraith bwyd berthnasol.
(2) At ddibenion gweithredu neu orfodi cyfraith bwyd anifeiliaid berthnasol neu gyfraith bwyd berthnasol, caiff awdurdodau cymwys gyfnewid ymhlith ei gilydd unrhyw wybodaeth y maent yn ei chael wrth weithredu neu orfodi cyfraith bwyd anifeiliaid berthnasol neu gyfraith bwyd berthnasol.
(3) Caiff awdurdodau cymwys rannu gwybodaeth y maent yn ei chael wrth weithredu neu orfodi cyfraith bwyd anifeiliaid berthnasol neu gyfraith bwyd berthnasol â'r cyrff sy'n gweithredu ac yn gorfodi cyfraith bwyd anifeiliaid berthnasol neu gyfraith bwyd berthnasol yn Lloegr, Gogledd Iwerddon a'r Alban at ddibenion hwyluso gwaith gweithredu neu orfodi cyfraith bwyd anifeiliaid berthnasol neu gyfraith bwyd berthnasol yn y gwledydd hynny.
(4) Nid yw paragraffau (1), (2) a (3) yn lleihau effaith unrhyw bwer arall sydd gan awdurdodau cymwys gan neu o dan ddeddfwriaeth Gymunedol i ddatgelu gwybodaeth.
(5) At ddibenion y rheoliad hwn, ystyr “awdurdodau RhSFAB eraill” yw awdurdodau a ddynodwyd yn y Deyrnas Unedig yn awdurdodau cymwys at ddibenion Rheoliad 882/2004 ac eithrio'r awdurdodau cymwys a ddynodir o dan y Rheoliadau hyn.
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys