- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol).
11.—(1) Pan fo swyddog wedi ardystio bod unrhyw anifail buchol a gedwir mewn unrhyw fangre wedi adweithio i brawf diagnostig am frwselosis, rhaid i feddiannydd y fangre, wedi iddo gael ei hysbysu am yr ardystiad, gymryd pob cam rhesymol i atal heintio'r anifeiliaid buchol a gedwir mewn mangre gyffiniol drwy gysylltiad ag anifeiliad buchol a gedwir ym mangre'r meddiannydd.
(2) Pan fo swyddog wedi ardystio bod unrhyw anifail buchol a gedwir mewn unrhyw fangre wedi adweithio i brawf diagnostig am frwselosis neu pan fo'r swyddog yn credu'n rhesymol ei fod wedi'i heintio â'r clefyd hwnnw, caiff y swyddog gyflwyno hysbysiad i berchennog yr anifail buchol hwnnw neu i'r person a gofal amdano neu i feddiannydd y fangre ac sy'n ei gwneud yn ofynnol i'r person hwnnw sicrhau nad yw llaeth o'r anifeiliaid hynny yn cael ei fwydo i anifeiliaid eraill yn yr un fangre neu mewn unrhyw fangre arall oni bai iddo gael ei bastyreiddio, ei sterileiddio, neu ei drin ag uwch-wres.
(3) Pan fo swyddog yn credu'n rhesymol bod unrhyw anifail buchol a gedwir neu a gedwid gynt mewn unrhyw fangre wedi'i heintio â brwselosis, neu a fu yn agored i'r perygl o gael ei heintio gan y clefyd hwnnw, caiff y swyddog gyflwyno hysbysiad i berchennog yr anifail neu i'r person a gofal amdano gan ei gwneud yn ofynnol i'r person hwnnw—
(a)drefnu i unrhyw anifail neu anifeiliaid a bennir yn yr hysbysiad gael ei ynysu neu eu hynysu mewn unrhyw ran neu rannau o'r fangre a bennir yn yr hysbysiad;
(b)sichrau nad yw unrhyw anifail yn y fangre, neu unrhyw anifeiliaid a bennir, yn defnyddio unrhyw ran neu rannau o'r fangre a bennir yn yr hysbysiad;
(c)glanhau a diheintio ar draul y person hwnnw ei hun unrhyw ran neu rannau o'r fangre a bennir yn yr hysbysiad, neu unrhyw gerbyd, periannau neu gyfarpar cyn iddo ymadael â'r fangre;
(ch)trin a storio tail (tom) neu slyri o'r fath o unrhyw le a ddefnyddiwyd gan yr anifail a chyfyngu gwasgaru tail (tom) neu chwistrellu slyri yn unol â gofynion yr hysbysiad; a
(d)llosgi, diheintio, claddu neu ddistrywio unrhyw wellt, sarn (llaesodr) neu unrhyw ddeunydd arall sydd wedi dod i gysylltiad â'r anifail hwnnw, neu y gallasai ddod i gysylltiad ag ef, ynghyd â'i ffetws neu'i lo a'i frych yn unol â'r telerau a bennir yn yr hysbysiad.
(4) Caiff hysbysiad a gyflwynir yn unol â pharagraff (3) uchod ei gwneud yn ofynnol i unrhyw fuwch neu anner (heffer, treisiad) yn y fangre sydd ar fin bwrw llo gael ei hynysu i'r graddau y mae'n ymarferol oddi wrth bob anifail buchol arall yn y fangre yn ystod cyfnod bwrw'r llo.
(5) Pan fo swyddog yn credu'n rhesymol bod unrhyw anifail buchol sydd mewn lladd-dy neu mewn unrhyw fangre arall a ddefnyddir ar gyfer sioe neu arddangosfa, marchnad, arwerthiant neu ffair, neu a fu mewn mangre o'r fath, wedi'i heintio â brwselosis, caiff y swyddog gyflwyno hysbysiad i berchennog neu feddiannydd y lladd-dy hwnnw, neu'r fangre honno, ac sy'n rhagnodi'r dull o gael gwared o unrhyw dail (tom), slyri neu wastraff anifeiliaid arall, gwellt, llaesodr (sarn) neu unrhyw ddeunydd arall sydd wedi dod i gysylltiad â'r anifail hwnnw.
(6) Os yw unrhyw berson y cyflwynir hysbysiad iddo o dan yr erthygl hon yn methu â chydymffurfio ag ef, caiff y swyddog, heb ragfarnu unrhyw achos am dramgwydd sy'n codi o'r methiant hwnnw, weithredu gofynion yr hysbysiad, neu beri eu gweithredu, a chaiff y Cynulliad Cenedlaethol adennill y treuliau y mae wedi mynd iddynt wrth wneud hynny oddi wrth y person sydd wedi methu â chydymffurfio â'r hysbysiad.
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys