- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol).
7.—(1) Rhaid i unrhyw berson sy'n prynu llaeth oddi wrth berchennog buches odro yng Nghymru neu'r person a gofal amdani i'w werthu eto fel llaeth neu gynhyrchion llaeth—
(a)ddewis labordy cymeradwy i brofi'r llaeth am frwselosis;
(b)hysbysu'r Cynulliad Cenedlaethol am y labordy a ddewiswyd;
(c)unwaith bob mis ac ar draul y person hwnnw ei hun, gyflwyno sampl o laeth (sy'n cynnwys llaeth o bob buwch odro yn y fuches honno y mae ei llaeth ar gael i'w werthu) i'r labordy hwnnw i'w phrofi am dystiolaeth o fodolaeth brwselosis;
(ch)ychwanegu'r cadwolyn y mae'r person â gofal am y labordy yn gofyn amdano at y sampl; a
(d)sicrhau bod label ar y sampl ac sy'n cynnwys—
(i)cod bariau neu ddyfais arall sy'n galluogi'r labordy i adnabod y fuches neu'r rhan o fuches y cymerwyd y sampl ohoni; a
(ii)dyddiad cymryd y sampl.
(2) Mae person yn esempt o'r ddyletswydd a osodir gan baragraff (1) uchod, os nad yw'r person hwnnw ond yn prynu llaeth amrwd wedi'i ragbacio i'w werthu eto—
(a)yn y cynhwysydd y cafodd y person hwnnw ef ynddo a'r caewyr heb eu torri;
(b)o gerbyd a ddefnyddir yn gyfreithlon fel siop; ac
(c)yn uniongyrchol i'r defnyddiwr olaf.
(3) Ym mharagraff (2) uchod, ystyr “defnyddiwr olaf” yw unrhyw berson sy'n prynu llaeth heblaw at ddibenion—
(a)ei werthu eto;
(b)sefydliad arlwyo; neu
(c)busnes gweithgynhyrchu.
(4) Ni chaiff unrhyw berson mewn unrhyw ddull na modd drin, ac eithrio drwy ychwanegu cadwolyn yn unol â pharagraff (1)(ch) uchod, unrhyw sampl neu ei label, neu ymyrryd â hwy a bernir bod person wedi trin neu ymyrryd â sampl os yw'r person hwnnw yn gwneud unrhyw beth mewn perthynas â hi sy'n debygol o effeithio ar ganlyniad y profi sy'n ofynnol o dan yr erthygl hon.
(5) Rhaid i'r person â gofal am labordy cymeradwy gydymffurfio â'r darpariaethau canlynol fel amod y gymeradwyaeth—
(a)rhaid i'r person hwnnw gadw cofnod o'r buchesi yr anfonir llaeth i'w brofi oddi wrthynt o dan baragraff (1) uchod;
(b)rhaid i'r person hwnnw hysbysu'r Cynulliad Cenedlaethol ar unwaith os na cheir sampl yn ystod unrhyw fis oddi wrth un o'r buchesi a restrir yn y cofnodion a gedwir o dan is-baragraff (a) uchod;
(c)rhaid i'r person hwnnw hysbysu'r Cynulliad Cenedlaethol o fewn 24 awr pan fo sampl wedi'i phrofi am dystiolaeth o fodolaeth brwselosis a'r canlyniad yn un cadarnhaol;
(ch)rhaid i'r person hwnnw hysbysu'r Cynulliad Cenedlaethol o fewn mis pan fo sampl wedi'i phrofi am dystiolaeth o fodoloaeth brwselosis a'r canlyniad yn un negyddol; a
(d)rhaid i'r person hwnnw gadw cofnod o ganlyniadau'r holl brofion a wneir am dystiolaeth o fodolaeth brwselosis am gyfnod o flwyddyn o ddyddiad y prawf.
(6) Os yw unrhyw berson yn methu â chymryd unrhyw gam sy'n ofynnol o dan ddarpariaethau paragraff (1) uchod, caiff arolygydd milfeddygol, heb ragfarnu unrhyw achos sy'n codi o'r methiant hwnnw, gymryd y cam hwnnw, neu beri ei gymryd, a chaiff y Cynulliad Cenedlaethol adennill unrhyw dreuliau y mae wedi mynd iddynt yn rhesymol wrth wneud hynny oddi wrth y person sydd wedi methu â chymryd y cam gofynnol.
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys