xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
O dan adran 70 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000, (fel y'i diwygiwyd) (“Deddf 2000”), caiff Cynulliad Cenedlaethol Cymru wneud darpariaeth mewn perthynas ag ymchwiliadau safonau o dan adran 69 o'r Ddeddf honno gan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru (“Yr Ombwdsmon”). Mae'r ymchwiliadau hyn yn ymwneud ag ymddygiad aelodau neu aelodau cyfetholedig o awdurdod perthnasol yng Nghymru pan fo honiad wedi'i wneud fod aelod neu aelod cyfetholedig o'r fath wedi methu â chydymffurfio â chod ymddygiad yr awdurdod perthnasol neu y gall fod wedi methu â chydymffurfio â chod ymddygiad o'r fath.
Mae'r Gorchymyn hwn yn darparu ar gyfer cymhwyso adrannau 60 i 63 o Ddeddf 2000 ac adrannau 26 i 32 o Ddeddf Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) 2005 (“Deddf 2005”) i ymchwiliadau safonau. Mewn rhai achosion, cymhwysir darpariaethau yn yr adrannau hynny gydag addasiadau.
Mae erthygl 2 (drwy gyfeirio at Atodlen 1 i'r Gorchymyn) yn cymhwyso adrannau 60(1); 61; 62(1) i (3), (5), (6) ac (8) i (11); a 63(3) o Ddeddf 2000 at ymchwiliad safonau o dan adran 69 o'r Ddeddf honno.
Mae erthygl 3 (drwy gyfeirio at Atodlen 2 i'r Gorchymyn) yn cymhwyso adrannau 60(4) i (6), 62(4) a 63(1) a (2) o Ddeddf 2000 at ymchwiliad safonau o dan adran 69 o'r Ddeddf honno yn y ffurf wedi'i haddasu a restrir yn Atodlen 2.
Mae erthygl 4, drwy addasu'r darpariaethau yn adran 26 o Ddeddf 2005 (sy'n ymwneud â datgelu gwybodaeth gan yr Ombwdsmon), yn caniatáu i'r Ombwdsmon ddatgelu gwybodaeth a gafwyd mewn cysylltiad ag ymchwiliad o dan Ran 2 o Ddeddf 2005 at ddibenion ymchwiliad safonau o dan adran 69 o Ddeddf 2000 (ac mae Atodlen 3 i'r Gorchymyn yn cyfeirio at hynny).
Yn rhinwedd erthygl 5, mae braint absoliwt, at ddibenion y gyfraith ddifenwi, yn cael ei hestyn i ddatganiadau aelodau o staff yr Ombwdsmon, personau sy'n gweithredu ar ran yr Ombwdsmon a phersonau sy'n cynorthwyo'r Ombwdsmon gydag arfer swyddogaethau'r Ombwdsmon o dan Ran III o Ddeddf 2000.
Mae erthygl 6 yn dirymu Gorchymyn Comisiynydd Lleol yng Nghymru (Ymchwiliadau Safonau) 2001.