- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
1. Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Lles Anifeiliaid (Cludo) (Cymru) 2007. Daw i rym ar 30 Mawrth 2007 ac mae'n gymwys o ran Cymru.
2.—(1) Yn y Gorchymyn hwn ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Iechyd Anifeiliaid 1981.
(2) Mae i ymadroddion a ddefnyddir yn y Gorchymyn hwn, ac y defnyddir yr ymadroddion Saesneg sy'n cyfateb iddynt yn y Rheoliadau canlynol, yr un ystyr yn y Gorchymyn hwn ag ystyr yr ymadroddion Saesneg hynny yn y Rheoliadau hynny.
(3) Y Rheoliadau yw—
(a)Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1/2005 ar ddiogelu anifeiliaid wrth iddynt gael eu cludo a gweithrediadau cysylltiedig a'r Cyfarwyddebau diwygio, sef 64/432/EEC a 93/119/EC, a Rheoliad (EC) 1255/97(1);
(b)Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1255/97 ynghylch meini prawf y Gymuned ar gyfer mannau aros ac yn diwygio'r cynllun o'r llwybr y cyfeirir ato yn yr Atodiad i Gyfarwyddeb 91/628/EEC(2).
(4) Ystyr “awdurdod lleol” (“local authority”) mewn perthynas ag ardal yw'r cyngor sir neu'r cyngor bwrdeistref sirol ar gyfer yr ardal honno.
(5) Ystyr “Cynulliad Cenedlaethol” (“National Assembly”) yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ.
(6) Mae unrhyw gyfeiriad at y Rheoliadau y cyfeiriwyd atynt ym mharagraff (3) yn gyfeiriad at yr offerynnau hynny fel y'u diwygir o dro i dro.
3. At ddibenion y Ddeddf yn y modd y mae'n gymwys i'r Gorchymyn hwn, mae'r diffiniadau o “animals” a “poultry” yn adran 87 o'r Ddeddf yn cael eu hymestyn i gwmpasu pob anifail asgwrn cefn a phob anifail di-asgwrn-cefn â gwaed oer.
4.—(1) Mae'n dramgwydd i gludo unrhyw anifail mewn ffordd sy'n peri, neu'n debyg o beri, i'r anifail hwnnw gael ei anafu neu iddo ddioddef yn ddiangen.
(2) Mae'n dramgwydd i gludo unrhyw anifail ac eithrio yn y cynwysyddion neu'r cyfryngau cludo, o dan yr amodau (yn benodol gyda golwg ar le, awyru, tymheredd a diogelwch) a chyda'r cyflenwadau hylif ac ocsigen, sy'n briodol ar gyfer y rhywogaeth o dan sylw.
(3) Mae'r erthygl hon yn gymwys i gludo anifeiliaid di-asgwrn-cefn â gwaed oer.
(4) Mae'r erthygl hon yn gymwys i gludo anifeiliaid asgwrn cefn ac eithrio'r rhai y mae Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1/2005 yn gymwys iddynt.
5.—(1) Bydd person sy'n methu â chydymffurfio ag unrhyw un o ddarpariaethau canlynol Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1/2005 yn euog o dramgwydd yn erbyn y Ddeddf—
(a)Erthygl 3 (amodau cyffredinol ar gyfer cludo anifeiliaid);
(b)Erthygl 4(1) (mae Erthygl 4 yn ymwneud â dogfennaeth gludo);
(c)Erthygl 5(1) (mae Erthygl 5 yn ymwneud â rhwymedigaethau cynllunio i gludo anifeiliaid);
(ch)Erthygl 6(1) (mae Erthygl 6 yn ymwneud â chludwyr);
(d)o 5 Ionawr 2008 ymlaen, Erthygl 6(5);
(dd)Erthygl 7 (arolygu cyfrwng cludo ymlaen llaw a'i gymeradwyo ymlaen llaw);
(e)pwyntiau 1.8, 1.9 neu 1.11 Pennod III o Atodiad I (mae Pennod III yn ymwneud ag arferion cludo).
(2) Ni chaiff neb dynnu ymaith, difwyno, dileu na newid unrhyw farc a wneir o dan baragraff (3) o erthygl 24 (pwerau arolygwyr);
(3) Rhaid cadw copïau o'r ddogfennaeth y cyfeirir ati yn Erthygl 4 o Reoliad y Cyngor (EC) Rhif 1/2005 am 6 mis o'r dyddiad y cwblhawyd y daith.
6. Bydd cludwr sy'n methu â chydymffurfio â darpariaethau canlynol Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1/2005 yn euog o dramgwydd yn erbyn y Ddeddf—
(a)Erthygl 4(2) (mae Erthygl 4 yn ymwneud â dogfennaeth gludo);
(b)Erthygl 5(2) a (4) (mae Erthygl 5 yn ymwneud â rhwymedigaethau cynllunio ar gyfer cludo anifeiliaid);
(c)Erthygl 6(2), (3), (4), (6) ac (8) (mae Erthygl 6 yn ymwneud â chludwyr);
(ch)Erthygl 6(9)—
(i)yn achos cyfrwng cludo ar y ffordd sydd mewn gwasanaeth am y tro cyntaf ar neu ar ôl i'r Gorchymyn hwn ddod i rym; a
(ii)yn achos pob cyfrwng cludo ar y ffordd ar neu ar ôl 1 Ionawr 2009;
(d)Erthygl 12 (mae Erthygl 12 yn ymwneud â chyfyngu ar geisiadau am awdurdodiad).
7.—(1) Bydd meistr llestr gyrru mewn ac allan sy'n methu â chydymffurfio â phwynt 3.1 Pennod II o Atodiad I i Reoliad y Cyngor (EC) Rhif 1/2005 (mae Pennod II yn ymwneud â darpariaethau ychwanegol ar gyfer cludo ar lestri gyrru mewn ac allan) yn euog o dramgwydd yn erbyn y Ddeddf.
(2) Ni chaiff unrhyw gludwr gludo anifeiliaid ar lestr gyrru mewn ac allan oni bai bod meistr y llestr wedi gwirio'n gyntaf y materion y cyfeirir atynt yn y pwynt hwnnw.
8. Bydd trefnydd sy'n methu â chydymffurfio ag unrhyw un o'r rhwymedigaethau yn Erthygl 5(3) a (4) o Reoliad y Cyngor (EC) Rhif 1/2005 (mae Erthygl 5 yn ymwneud â rhwymedigaethau cynllunio i gludo anifeiliaid) yn euog o dramgwydd yn erbyn y Ddeddf.
9. Bydd ceidwad sy'n methu â chydymffurfio ag Erthygl 8 o Reoliad y Cyngor (EC) Rhif 1/2005 (ceidwaid mewn mannau ymadael, mannau trosglwyddo neu gyrchfannau) yn euog o dramgwydd yn erbyn y Ddeddf.
10. Bydd gweithredydd canolfan gynnull sy'n methu â chydymffurfio ag Erthygl 9 o Reoliad y Cyngor (EC) Rhif 1/2005 (canolfannau cynnull) yn euog o dramgwydd yn erbyn y Ddeddf.
11.—(1) Mae'n dramgwydd i berson weithredu safle rheoli onid yw wedi'i gymeradwyo at y diben hwnnw.
(2) Mae'n dramgwydd i unrhyw berson weithredu neu ddefnyddio safle rheoli onid yw wedi'i gymeradwyo yn unol ag Erthygl 3(1) o Reoliad y Cyngor (EC) Rhif 1255/97.
(3) Bydd gweithredydd safle rheoli sy'n methu â chydymffurfio ag unrhyw un o ddarpariaethau canlynol Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1255/97 yn euog o dramgwydd yn erbyn y Ddeddf—
(a)Erthygl 4 (defnyddio safleoedd rheoli);
(b)Erthygl 5 (gweithredu safleoedd rheoli);
(c)Erthygl 6(1) (cadarnhau bod anifail yn ffit i barhau ar ei daith).
12. Yn unol ag Erthygl 18(4) o Reoliad y Cyngor (EC) Rhif 1/2005, mae'r rhanddirymiadau yn y Rhan hon yn gymwys mewn perthynas â chyfrwng cludo ar y ffordd a ddefnyddir ar gyfer taith nad yw'n hwy na 12 awr er mwyn cyrraedd y gyrchfan derfynol (“cyfrwng cludo ar y ffordd”).
13. At ddibenion Erthygl 18(1) o Reoliad y Cyngor (EC) Rhif 1/2005, nid oes angen tystysgrif gymeradwyaeth ar gyfrwng cludo ar y ffordd a ddefnyddir i gludo anifeiliaid ac eithrio equidae domestig neu anifeiliaid domestig o deulu'r ych, teulu'r ddafad, teulu'r afr, neu deulu'r mochyn.
14. At ddibenion pwynt 1.4(b) Pennod V o Atodiad I i Reoliad y Cyngor (EC) Rhif 1/2005, yn ystod taith—
(a)nid oes ar foch angen mynediad parhaus i ddwr ar gyfrwng cludo ar y ffordd;
(b)rhaid cynnig dwr i foch bob hyn a hyn fel y bo'n briodol a rhoi cyfle digonol iddynt yfed.
15. At ddibenion pwynt 1.1 Pennod VI o Atodiad I i Reoliad y Cyngor (EC) Rhif 1/2005, nid oes angen inswleiddio to ar gyfrwng cludo ar y ffordd.
16.—(1) At ddibenion pwynt 3.1 Pennod VI o Atodiad I i Reoliad y Cyngor (EC) Rhif 1/2005, caniateir i dymheredd ar gyfrwng cludo ar y ffordd ostwng islaw 0°C yn ystod taith—
(a)hyd at yr amser y caiff y cyfrwng cludo ar y ffordd ei symud am y tro cyntaf yn y man ymadael; a
(b)yn ystod unrhyw ddadlwytho a llwytho sy'n digwydd mewn mannau trosiannol ar y daith.
(2) Ond pan fo'r tymheredd yn gostwng islaw 0°C, rhaid darparu i foch, sy'n pwyso llai na 30kg ac nad yw eu mam yn mynd gyda hwy ar y daith, ddigon o ddeunydd sarn sy'n briodol i'r rhywogaeth er mwyn sicrhau eu bod yn ddigon cynnes a chysurus.
17. O ran y system awyru ar gyfrwng cludo ar y ffordd—
(a)nid yw'n ofynnol iddi fod â'r galluoedd a ddisgrifir ym mhwynt 3.2 Pennod VI o Atodiad I i Reoliad y Cyngor (EC) Rhif 1/2005;
(b)rhaid bod modd ei haddasu er mwyn sicrhau y cedwir at y gofynion ar gyfer tymereddau a nodir yn y pwynt hwnnw ac yn erthygl 16(1) yn ystod y daith.
18. Nid yw'n ofynnol cael y systemau monitro tymheredd, cofnodi data a rhybuddio y cyfeirir atynt ym mhwyntiau 3.3 a 3.4 Pennod VI o Atodiad I i Reoliad y Cyngor (EC) Rhif 1/2005 ar gyfrwng cludo ar y ffordd.
19. Nid yw'n ofynnol cael y system lywio y cyfeirir ati ym mhwynt 4.1 Pennod VI o Atodiad I i Reoliad y Cyngor (EC) Rhif 1/2005 ar gyfrwng cludo ar y ffordd.
20.—(1) Y Cynulliad Cenedlaethol yw'r awdurdod cymwys at ddibenion rhoi neu ddyroddi—
(a)awdurdodiadau i gludwyr yn unol ag Erthyglau 10, 11 a 13 o Reoliad y Cyngor (EC) Rhif 1/2005;
(b)tystysgrifau hyfedredd yn unol ag Erthygl 17(2) o'r Rheoliad hwnnw;
(c)tystysgrifau cymeradwyo cyfryngau cludo ar y ffordd yn unol ag Erthygl 18(1) o'r Rheoliad hwnnw;
(ch)tystysgrifau cymeradwyo llestri da byw yn unol ag Erthygl 19(1) o'r Rheoliad hwnnw.
(2) At ddibenion y Rheoliad hwnnw, y Cynulliad Cenedlaethol yw'r awdurdod cymwys ar gyfer—
(a)cael hysbysiadau o newidiadau sy'n ymwneud ag awdurdodiadau yn unol ag Erthygl 6(2);
(b)derbyn dogfennau yn unol ag Erthygl 6(5), (8) a (9) a phwynt 3(b) o Atodiad II;
(c)gwirio ac arolygu logiau teithio yn unol ag Erthygl 14(1) ac ail baragraff pwynt 5 o Atodiad II;
(ch)cyflawni gwiriadau sy'n ymwneud â theithiau hir yn unol ag Erthygl 15;
(d)cofnodi gwybodaeth ynglyn â llestri da byw yn unol ag Erthygl 19(3) a (4);
(dd)arolygu llestri da byw yn unol ag Erthygl 20;
(e)ei gwneud yn ofynnol i gamau gael eu cymryd, os na fydd cludwyr yn cydymffurfio, yn unol ag Erthygl 23;
(f)cael hysbysiadau gan awdurdodau cymwys eraill o fethiant â chydymffurfio, yn unol ag Erthygl 26(2) a (3);
(ff)cymryd camau, os bydd toriadau, yn unol ag Erthygl 26;
(g)arolygu anifeiliaid, cyfryngau cludo a'r ddogfennaeth sy'n mynd gyda hwy yn unol ag Erthygl 27(1);
(ng)cymeradwyo cymdeithasau dosbarthu yn unol â phwynt 1 Pennod IV o Atodiad I.
(3) Y Cynulliad Cenedlaethol yw'r awdurdod cymwys at ddibenion—
(a)rhoi neu ddyroddi cymeradwyaethau yn unol ag Erthyglau 3 a 4(2) o Reoliad y Cyngor (EC) Rhif 1255/97;
(b)derbyn gwybodaeth am anifeiliaid, sy'n pasio drwy safle rheoli, yn unol ag Erthygl 5(h) ac (i) o'r Rheoliad hwnnw.
(4) Y Cynulliad Cenedlaethol sy'n gyfrifol am arfer swyddogaethau Aelod-wladwriaeth at ddibenion—
(a)Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1/2005;
(b)Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1255/97,
ac am ddynodi cyrff yn unol ag Erthyglau 17(2), 18(1) a 19(1) o Reoliad y Cyngor (EC) Rhif 1/2005.
21. O ran unrhyw gymeradwyaethau, awdurdodiadau neu dystysgrifau a ddyroddir o dan y Gorchymyn hwn, Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1/2005 neu Reoliad y Cyngor (EC) Rhif 1255/97—
(a)rhaid iddynt fod mewn ysgrifen;
(b)caniateir iddynt gael eu gwneud yn destun amodau; ac
(c)caniateir iddynt gael eu diwygio, eu hatal neu eu dirymu ar unrhyw bryd.
22.—(1) Caiff y Cynulliad Cenedlaethol, drwy hysbysiad, atal neu ddiwygio cymeradwyaeth, awdurdodiad, tystysgrif gymeradwyaeth neu dystysgrif hyfedredd os yw wedi'i fodloni bod unrhyw un o'r amodau y cafodd y gymeradwyaeth neu'r dystysgrif ei rhoi odano neu y cafodd yr awdurdodiad ei roi odano wedi'i dorri neu fod unrhyw ddarpariaeth yn Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1/2005, Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1255/97 neu'r Gorchymyn hwn wedi'i thorri.
(2) O ran ataliad o dan baragraff (1)—
(a)mae'n effeithiol ar unwaith pan fo'r Cynulliad Cenedlaethol o'r farn ei fod yn angenrheidiol i ddiogelu lles yr anifeiliaid;
(b)ni fydd yn effeithiol fel arall am o leiaf 21 o ddiwrnodau ar ôl cyflwyno'r hysbysiad.
(3) Yn yr hysbysiad rhaid—
(a)rhoi rhesymau;
(b)datgan pryd y daw ei effaith i rym ac, yn achos ataliad, datgan ar ba ddyddiad neu adeg pa ddigwyddiad y mae ei effaith i ddod i ben; ac
(c)esbonio hawl derbynnydd yr hysbysiad i gyflwyno sylwadau ysgrifenedig i berson a benodir gan y Cynulliad Cenedlaethol.
(4) Pan na fo'r hysbysiad yn effeithiol ar unwaith, a bod sylwadau yn cael eu cyflwyno o dan erthygl 23, ni fydd diwygiad neu ataliad yn effeithiol tan y penderfyniad terfynol gan y Cynulliad Cenedlaethol yn unol ag erthygl 23 oni fydd y Cynulliad Cenedlaethol yn penderfynu ei bod yn angenrheidiol er mwyn diogelu lles anifeiliaid i'r diwygiad neu'r ataliad fod yn effeithiol ar unwaith a'i fod yn rhoi hysbysiad i'r perwyl hwnnw.
(5) Pan gaiff ataliad ei gadarnhau, caiff y Cynulliad Cenedlaethol, drwy hysbysiad, ddirymu cymeradwyaeth, awdurdodiad, tystysgrif gymeradwyaeth neu dystysgrif hyfedredd os caiff ei fodloni na chydymffurfir â'r Gorchymyn hwn, Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1/2005 na Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1255/97.
(6) Rhaid peidio â dyroddi hysbysiad o dan baragraff (5) hyd oni fydd y broses yn erthygl 23 (os bydd un) wedi'i chwblhau.
23.—(1) Caiff person gyflwyno i berson a benodir at y diben gan y Cynulliad Cenedlaethol sylwadau ysgrifenedig yn erbyn gwrthod, diwygio, atal neu ddirymu cymeradwyaeth, awdurdodiad neu dystysgrif neu yn erbyn amod sydd ynddi neu ynddo.
(2) Rhaid i unrhyw sylwadau gael eu cyflwyno o fewn 21 o ddiwrnodau o gael hysbysiad o benderfyniad y Cynulliad Cenedlaethol.
(3) Rhaid i'r person penodedig ystyried y sylwadau a chyflwyno adroddiad ysgrifenedig i'r Cynulliad Cenedlaethol.
(4) Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol roi hysbysiad ysgrifenedig o'i benderfyniad terfynol a'i resymau i'r person sy'n cyflwyno'r sylwadau.
24.—(1) Os yw arolygydd o'r farn bod anifeiliaid yn cael eu cludo, neu i'w cludo, mewn ffordd sydd—
(a)yn mynd yn groes i unrhyw un o ddarpariaethau'r Gorchymyn hwn; neu
(b)yn dramgwydd yn erbyn y Ddeddf yn rhinwedd y Gorchymyn hwn,
caiff gyflwyno hysbysiad i'r person y mae'n ymddangos iddo ei fod â gofal dros yr anifeiliaid yn ei gwneud yn ofynnol i'r person hwnnw gymryd unrhyw gamau sy'n angenrheidiol i sicrhau cydymffurfedd â'r Gorchymyn hwn, gan roi rhesymau dros y gofynion.
(2) Caiff arolygydd yn benodol—
(a)gwahardd cludo'r anifeiliaid, naill ai am gyfnod amhenodol neu am gyfnod a bennir yn yr hysbysiad;
(b)pennu o dan ba amodau y caniateir i'r anifeiliaid gael eu cludo;
(c)ei gwneud yn ofynnol i'r daith gael ei chwblhau, neu i'r anifeiliaid gael eu dychwelyd i'w man ymadael, gan ddilyn y llwybr mwyaf uniongyrchol, ar yr amod na fyddai'r dull gweithredu hwn yn peri i'r anifeiliaid ddioddef yn ddiangen;
(ch)ei gwneud yn ofynnol i anifeiliaid nad ydynt yn ffit i gwblhau eu taith gael eu dadlwytho, eu dyfrhau, eu bwydo neu eu gorffwys;
(d)ei gwneud yn ofynnol i'r anifeiliaid gael eu cadw mewn llety addas lle cânt ofal priodol hyd nes y bydd y broblem a nodwyd yn yr hysbysiad wedi'i datrys;
(dd)ei gwneud yn ofynnol i'r anifeiliaid gael eu cigydda neu eu lladd heb boen; neu
(e)ei gwneud yn ofynnol i gyfrwng cludo neu gynhwysydd gael ei drwsio neu ei amnewid cyn iddo gael ei ddefnyddio i gludo anifeiliaid.
(3) Pan fo'n angenrheidiol at ddibenion adnabod, caiff arolygydd farcio anifail.
(4) Caiff arolygydd gymryd copïau o unrhyw ddogfen a arolygwyd er mwyn canfod a gydymffurfiwyd â darpariaethau'r Gorchymyn hwn, Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1/2005 neu Reoliad y Cyngor (EC) Rhif 1255/97.
(5) Caiff arolygydd gyflwyno i'r perchennog, neu i unrhyw berson y mae'n ymddangos iddo ei fod â gofal dros safle rheoli, hysbysiad yn ei gwneud yn ofynnol iddo gymryd unrhyw gamau y mae'r arolygydd o'r farn resymol eu bod yn angenrheidiol i sicrhau cydymffurfedd â Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1255/97, neu i gywiro unrhyw doriad o'r Rheoliad hwnnw.
(6) Yn benodol, caiff arolygydd—
(a)ei gwneud yn ofynnol i un neu ragor o anifeiliaid ar safle rheoli gael eu symud o'r safle rheoli;
(b)pennu o dan ba amodau y caiff anifeiliaid aros yno.
(7) Wrth benderfynu a ddylid cyflwyno hysbysiad o dan yr erthygl hon, caiff arolygydd gymryd i ystyriaeth unrhyw fethiant blaenorol i gydymffurfio ag unrhyw ddarpariaeth yn y Gorchymyn hwn, unrhyw Orchymyn arall a wnaed o dan adrannau 37, 38 neu 39 o'r Ddeddf neu bwynt 8 Atodiad II i Reoliad y Cyngor (EC) Rhif 1/2005 (dychwelyd dogfennau ar ôl cwblhau taith).
(8) Pan fo person yn methu â chydymffurfio â gofynion hysbysiad a gyflwynir o dan yr erthygl hon, caiff arolygydd gymryd unrhyw gamau y mae o'r farn eu bod yn angenrheidiol i sicrhau bod y gofyniad yn cael ei fodloni.
(9) Rhaid i'r person sydd wedi methu â chydymffurfio ad-dalu unrhyw dreuliau rhesymol a dynnir gan y Cynulliad Cenedlaethol neu'r awdurdod lleol wrth gymryd camau o'r fath a gellir adennill unrhyw swm o'r fath sy'n ddyledus yn ddiannod.
25. Rhaid cydymffurfio ag unrhyw hysbysiad a gyflwynir o dan y Gorchymyn hwn ar draul y person y caiff yr hysbysiad ei gyflwyno iddo, ac eithrio os darperir fel arall yn yr hysbysiad hwnnw.
26.—(1) Rhaid i berchennog neu siartrwr unrhyw lestr sydd i'w defnyddio ar gyfer cludo anifeiliaid—
(a)dangos, os gofynnir iddo wneud hynny, i un o swyddogion y Cynulliad Cenedlaethol blaniau o'r llestr (gan gynnwys manylion ei system awyru ac unrhyw ffitiadau ar gyfer da byw); a
(b)darparu, os gofynnir iddo wneud hynny, unrhyw wybodaeth ynghylch y llestr y mae'r swyddog o'r farn ei bod yn angenrheidiol i'w alluogi i ganfod a gydymffurfir â darpariaethau'r Gorchymyn hwn yn ystod y daith arfaethedig.
(2) Ond nid oes rhaid i neb ddarparu unrhyw wybodaeth nad oes modd iddo, drwy arfer diwydrwydd rhesymol, gael gafael arni.
27. Ni chaiff neb—
(a)heb esgus rhesymol, fethu â rhoi i unrhyw berson sy'n gweithredu o dan Reoliad y Cyngor (EC) Rhif 1/2005, Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1255/97 neu'r Gorchymyn hwn unrhyw gymorth neu wybodaeth y mae ar y person hwnnw angen rhesymol amdano neu amdani at ddibenion ei swyddogaethau o dan y Rheoliadau hynny neu'r Gorchymyn hwn;
(b)darparu gwybodaeth anwir ar unrhyw lòg teithio (p'un a yw wedi'i gyflwyno i gael ei gymeradwyo, wedi'i ddychwelyd i swyddog y Cynulliad Cenedlaethol ar ôl y daith neu fel arall) na darparu gwybodaeth anwir neu gamarweiniol am unrhyw ddogfennaeth a gariwyd yn unol ag Erthygl 4 o Reoliad y Cyngor (EC) Rhif 1/2005;
(c)rhoi eitem mewn cofnod neu ddatganiad, neu roi unrhyw wybodaeth at ddibenion y Gorchymyn hwn, y mae'n gwybod ei bod yn anwir neu'n gamarweiniol mewn unrhyw fanylyn o bwys neu, at y dibenion hynny, gwneud datganiad neu roi unrhyw wybodaeth yn ddi-hid a'r datganiad hwnnw neu'r wybodaeth honno'n anwir neu'n gamarweiniol mewn unrhyw fanylyn o bwys; neu
(ch)achosi neu ganiatáu unrhyw un o'r uchod.
28.—(1) Os dangosir bod tramgwydd a gyflawnwyd o dan y Gorchymyn hwn gan gorff corfforaethol—
(a)wedi'i gyflawni drwy gydsyniad neu ymoddefiad swyddog; neu
(b)i'w briodoli i unrhyw esgeulustod ar ei ran,
bydd y swyddog, yn ogystal â'r corff corfforaethol, yn euog o'r tramgwydd a bydd yn agored i gael ei erlyn a'i gosbi yn unol â hynny.
(2) Pan fo materion corff corfforaethol yn cael eu rheoli gan ei aelodau, bydd paragraff (1) yn gymwys mewn perthynas â gweithredoedd a diffygion aelod mewn cysylltiad â'i swyddogaethau rheoli fel pe bai'r aelod hwnnw'n un o gyfarwyddwyr y corff.
(3) Ystyr “swyddog” (“officer”), mewn perthynas â chorff corfforaethol yw cyfarwyddwr, aelod o bwyllgor rheoli, prif weithredwr, rheolwr, ysgrifennydd neu swyddog cyffelyb arall i'r corff, neu berson sy'n honni ei fod yn gweithredu yn rhinwedd unrhyw swydd o'r fath.
29.—(1) Yr awdurdod lleol sy'n gorfodi'r Gorchymyn hwn.
(2) Caiff y Cynulliad Cenedlaethol gyfarwyddo, mewn perthynas ag achosion o ddisgrifiad penodol neu mewn perthynas ag achos penodol, fod unrhyw ddyletswydd a osodir ar awdurdod lleol o dan baragraff (1) i'w chyflawni gan y Cynulliad Cenedlaethol ac nid gan yr awdurdod lleol.
30.—(1) Mae Gorchymyn Cludo Anifeiliaid (Glanhau a Diheintio) (Cymru) (Rhif 3) 2003(3) wedi'i ddiwygio fel a ganlyn.
(2) Yn erthygl 3, hepgorer paragraff (2).
(3) Hepgorer erthygl 4.
(4) Yn erthygl 5, hepgorer paragraff (2).
(5) Yn erthygl 9(4), hepgor “,4”.
31. Mae'r Atodlen (Gorchmynion sydd wedi'u dirymu) yn effeithiol.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(4).
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
27 Mawrth 2007
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys