Chwilio Deddfwriaeth

Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol (Anifeiliaid, Bwyd Anifeiliaid a Bwyd) (Cymru) 2007

 Help about what version

Pa Fersiwn

 Help about opening options

Dewisiadau Agor

Statws

Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol).

RHAN 1Cyffredinol

Enwi, cymhwyso a chychwyn

1.—(1Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol (Anifeiliaid, Bwyd Anifeiliaid a Bwyd) (Cymru) 2007.

(2Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru ac yn dod i rym ar 31 Ionawr 2007.

Dehongli

2.—(1Yn y Rheoliadau hyn—

ystyr “arolygydd” (“inspector”), mewn perthynas ag unrhyw ddarn o ddeddfwriaeth berthnasol, yw arolygydd, arolygydd milfeddygol, neu swyddog arall a awdurdodir gan y Cynulliad Cenedlaethol neu awdurdod arall i weithredu yng Nghymru o dan y ddeddfwriaeth berthnasol honno;

mae i “yr awdurdod bwyd”, mewn perthynas ag unrhyw ddeddfwriaeth berthnasol y gwneir dynodiad ar ei chyfer o dan y Rheoliadau hyn, yr un ystyr â “the food authority” yn y ddeddfwriaeth berthnasol honno;

mae i “yr awdurdod lleol”, mewn perthynas ag unrhyw ddeddfwriaeth berthnasol y gwneir dynodiad ar ei chyfer o dan y Rheoliadau hyn, yr un ystyr â “the local authority” yn y ddeddfwriaeth berthnasol honno;

ystyr “y Cynulliad Cenedlaethol” (“the National Assembly”) yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru;

mae i “deddfwriaeth berthnasol” (“relevant legislation”) yr ystyr a roddir ym mharagraff (3);

ystyr “mangre” (“premises”) yw mangre neu eiddo arall, lle neu gyfrwng cludo;

ystyr “Rheoliad 882/2004” (“Regulation 882/2004”) yw Rheoliad (EC) Rhif 882/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor ar reolaethau swyddogol a gyflawnir i sicrhau cydymffurfedd â chyfraith bwyd anifeiliaid a chyfraith bwyd, rheolau iechyd a lles anifeiliaid(1), fel y diwygiwyd y Rheoliad hwnnw gan Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 776/2006 yn diwygio Atodiad VII o ran labordai cyfeirio'r Gymuned(2) ac fel y'i darllenir gyda'r canlynol—

(a)

Penderfyniad y Comisiwn 2006/677 yn nodi'r canllawiau sy'n gosod meini prawf ar gyfer cynnal archwiliadau o dan Reoliad (EC) Rhif 882/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor ar reolaethau swyddogol i wirio cydymffurfedd â chyfraith bwyd anifeiliaid a chyfraith bwyd, rheolau iechyd anifeiliaid a rheolau lles anifeiliaid(3);

(b)

Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 2074/2005 sy'n gosod mesurau gweithredu ar gyfer cynhyrchion penodol o dan Reoliad (EC) Rhif 853/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor ac ar gyfer trefnu rheolaethau swyddogol o dan Reoliad (EC) Rhif 854/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor a Rheoliad (EC) Rhif 882/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor, sy'n rhanddirymu Rheoliad (EC) Rhif 852/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor ac yn diwygio Rheoliadau (EC) Rhif 853/2004 ac (EC) Rhif 854/2004(4);

(c)

Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 2076/2005 yn gosod trefniadau trosiannol ar gyfer gweithredu Rheoliadau (EC) Rhif 853/2004, (EC) Rhif 854/2004, ac (EC) Rhif 882/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor ac yn diwygio Rheoliadau (EC) Rhif 853/2004 ac (EC) Rhif 854/2004(5); ac

(ch)

Rheoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n gosod egwyddorion a gofynion cyffredinol cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd fel y diwygiwyd y Rheoliad hwnnw ddiwethaf gan Reoliad (EC) Rhif 575/2006 Senedd Ewrop a'r Cyngor;

ystyr “Rheoliadau 2006” (“the 2006 Regulations”) yw Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol ar Fwyd Anifeiliaid a Bwyd (Cymru) 2006(6).

(2Yn y Rheoliadau hyn—

(a)ystyr “archwiliad” (“audit”), ac eithrio yn rheoliad 10, yw archwiliad awdurdod cymwys a gyflawnir at ddibenion Erthygl 4.6 o Reoliad 882/2004 mewn perthynas ag un darn o ddeddfwriaeth berthnasol neu fwy ohonynt; a

(b)ystyr “archwilydd” (“auditor”) yw person sy'n cynnal archwiliad o'r fath.

(3Yn y Rheoliadau hyn, ystyr “deddfwriaeth berthnasol” (“relevant legislation”) yw cyfraith bwyd anifeiliaid a chyfraith bwyd y mae Rheoliad 882/2004 yn gymwys iddynt a rheolau iechyd a lles anifeiliaid, ac eithrio—

(a)“cyfraith bwyd anifeiliaid berthnasol” (“relevant feed law”) a “cyfraith bwyd berthnasol” (“relevant food law”) fel y'u diffinnir yn Rheoliadau 2006; a

(b)Rheoliadau Meddyginiaethau Milfeddygol 2006(7) i'r graddau y maent yn rheoleiddio ychwanegion sootechnegol a bwydydd anifeiliaid â meddyginiaeth.

(4Ym mharagraff (3)(b)—

  • mae i “bwydydd anifeiliaid â meddyginiaeth” yr ystyr a roddir i “medicated feedingstuffs” yn Erthygl 1.6 o Gyfarwyddeb 2001/82/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor ar god y Gymuned sy'n ymwneud â chynhyrchion meddyginiaethol milfeddygol(8) fel y diwygiwyd y Gyfarwyddeb honno gan Gyfarwyddeb 2004/28/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n diwygio Cyfarwyddeb 2001/82/EC ar god y Gymuned ynghylch cynhyrchion meddyginiaethol milfeddygol(9); ac

  • ystyr “ychwanegion sootechnegol” (“zootechnical additives”) yw ychwanegion bwyd anifeiliaid yn y categorïau a grybwyllir yn Erthygl 6.1(d) ac (e) o Reoliad y Cyngor (EC) Rhif 1831/2003 Senedd Ewrop a'r Cyngor ar ychwanegion i'w defnyddio i roi maeth i anifeiliaid(10) ac eithrio'r rhai sy'n perthyn i'r grŵp swyddogaethol a restrir ym mharagraff 4(a), (b) ac (c) o Atodiad 1 i'r Rheoliad hwnnw.

(5Oni ddarperir fel arall yn y rheoliad hwn, mae i dermau a ddefnyddir yn y Rheoliadau hyn yr un ystyr ag a roddir i'r ymadroddion Saesneg cyfatebol yn Rheoliad 882/2004.

(6Oni fynnir fel arall gan y cyd-destun, mae cyfeiriadau yn y Rheoliadau hyn at “Erthygl” (“Article”) neu “Teitl” (“Title”) yn gyfeiriadau at Erthygl neu Deitl, yn ôl eu trefn, o Reoliad 882/2004.

(7Mae unrhyw gyfeiriad yn y Rheoliadau hyn at offeryn Cymunedol yn gyfeiriad at yr offeryn hwnnw fel y'i diwygir o dro i dro.

(1)

OJ Rhif L165, 30.4.2004, t.1; gweler y testun sydd wedi'i gywiro yn y corigendwm i'r Rheoliad a gyhoeddwyd yn OJ Rhif L 191, 28.5.2004, t. 1.

(2)

OJ Rhif L136, 24.5.2006, t. 3.

(3)

OJ Rhif L278, 10.10.2006, t.15.

(4)

OJ Rhif L338, 22.12.2005, t. 27.

(5)

OJ Rhif L338, 22.12.2005, t. 83.

(6)

OS 2006/590 (Cy.66) fel y'i diwygiwyd gan OS 2006/1704 (Cy.166), rheoliad 1(3).

(8)

OJ Rhif L311, 28.11.2001, t. 1.

(9)

OJ Rhif L136, 30.4.2004, t. 58.

(10)

OJ Rhif L268, 18.10.2003, t. 29.

Yn ôl i’r brig

Options/Help

Print Options

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill
Close

Rhagor o Adnoddau

Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel gwnaed fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • slipiau cywiro

liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys

  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill