Chwilio Deddfwriaeth

Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol (Anifeiliaid, Bwyd Anifeiliaid a Bwyd) (Cymru) 2007

 Help about what version

Pa Fersiwn

 Help about opening options

Dewisiadau Agor

Statws

Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol).

RHAN 5Gorfodi a chosbau

Dehongli a chymhwyso Rhan 5, etc.

14.—(1Yn y Rhan hon—

(a)ystyr “archwilydd perthnasol” (“a relevant auditor”) yw archwilydd sy'n arfer ei bwerau o dan reoliad 7;

(b)mae “arolygydd perthnasol” (“a relevant inspector”) yn cynnwys unrhyw berson sy'n dod gydag arolygydd yn unol â rheoliadau 10 neu 12;

(c)nid yw “mangre” (“premises”) yn cynnwys unrhyw fangre neu ran o fangre a ddefnyddir fel annedd yn unig;

(ch)ystyr “swyddog gorfodi” (“enforcement officer”) yn cynnwys swyddog a awdurdodir i orfodi'r Rheoliadau hyn gan yr awdurdod cymwys sy'n gyfrifol am orfodi yn unol â rheoliad 15.

(2Nid yw Rheoliadau 15 i 19 yn gymwys pan fo rheoliad 9 yn gymwys.

Gorfodi

15.  Mae gorfodi'r Rheoliadau hyn yn gyfrifoldeb yr awdurdod cymwys sydd, o dan unrhyw amgylchiadau penodol, yn awdurdodi bod pwerau yn cael eu harfer o dan y Rheoliadau hyn.

Pwerau swyddogion gorfodi

16.—(1Caiff swyddog gorfodi—

(a)mynd i mewn i fangre ar unrhyw adeg resymol;

(b)gwneud unrhyw ymholiadau, arsylwi unrhyw weithgaredd neu broses, a thynnu ffotograffau; ac

(c)arolygu unrhyw eitem neu gofnodion unrhyw ddosbarth sy'n ymddangos yn berthnasol i'r swyddog gorfodi at ddibenion ei ymchwiliad, ac fe gaiff wneud copïau o'r cofnodion hynny neu ei gwneud yn ofynnol iddynt gael eu gwneud a mynd ag unrhyw gofnodion y mae arno angen rhesymol amdanynt oddi yno.

(2Rhaid i swyddog gorfodi wneud y canlynol—

(a)dangos tystiolaeth ei fod wedi'i awdurdodi pan ofynnir iddo wneud hynny;

(b)cyn gynted ag y bo'n rhesymol bosibl iddo wneud hynny, darparu i'r person y mae'n ymddangos iddo mai hwnnw sy'n gyfrifol am gofnodion y mae'r swyddog gorfodi yn mynd â hwy oddi yno o dan baragraff (1)(c) dderbynneb ysgrifenedig sy'n nodi'r cofnodion hynny; ac

(c)cyn gynted ag y bo'n rhesymol bosibl iddo wneud hynny, ar ôl penderfynu nad oes angen amdanynt mwyach, dychwelyd y cofnodion hynny, ar wahân i'r rhai a ddefnyddir fel tystiolaeth mewn achos llys.

Tramgwyddau a chosbau

17.—(1Bydd person yn euog o dramgwydd os yw heb esgus rhesymol yn rhwystro unrhyw un o'r personau canlynol, neu'n peri neu'n caniatáu iddo gael ei rwystro—

(a)archwilydd perthnasol;

(b)arolygydd perthnasol;

(c)unrhyw berson sy'n dod gydag archwilydd perthnasol neu arolygydd perthnasol o dan reoliadau 7(3), 10, neu 12; neu

(ch)swyddog gorfodi.

(2At ddibenion paragraff (1), mae rhwystro yn cynnwys—

(a)methu—

(i)â dangos cofnodion;

(ii)â darparu cofnodion; neu

(iii)â darparu cyfleusterau rhesymol ar gyfer copïo cofnodion,

fel sy'n ofynnol o dan y Rheoliadau hyn; a—

(b)methiant gan unrhyw berson i ddarparu gwybodaeth sydd yn ei feddiant pan ofynnir iddo wneud hynny gan archwilydd perthnasol, arolygydd perthnasol neu swyddog gorfodi.

(3Mae person yn euog o dramgwydd os yw'n darparu heb esgus rhesymol i archwilydd perthnasol, arolygydd perthnasol neu swyddog gorfodi, wybodaeth sy'n anwir neu'n gamarweiniol mewn unrhyw fanylyn o bwys.

(4Mae person sy'n euog o dramgwydd o dan y rheoliad hwn yn atebol, o'i gollfarnu'n ddiannod, i ddirwy nad yw'n uwch na lefel 5 ar y raddfa safonol neu i garchariad am gyfnod nad yw'n hwy na thri mis, neu'r ddau.

Tramgwyddau gan gyrff corfforaethol

18.—(1Pan brofir bod tramgwydd o dan reoliad 17 a gyflawnwyd gan gorff corfforaethol wedi'i gyflawni gyda chydsyniad neu ymoddefiad swyddog, neu os gellir priodoli'r tramgwydd hwnnw i unrhyw esgeulustod ar ei ran, bydd y swyddog, yn ogystal â'r corff corfforaethol, yn euog o'r tramgwydd ac yn agored i gael ei erlyn a'i gosbi yn unol â hynny.

(2Pan fo materion corff corfforaethol yn cael eu rheoli gan ei aelodau, mae paragraff (1) yn gymwys mewn perthynas â gweithredoedd a diffyg gweithredoedd aelod mewn cysylltiad â'i swyddogaethau rheoli fel pe bai'r aelod hwnnw yn un o gyfarwyddwyr y corff.

(3ystyr “swyddog”, mewn perthynas â chorff corfforaethol, yw cyfarwyddwr, aelod o'r pwyllgor rheoli, prif weithredwr, rheolwr, ysgrifennydd neu swyddog tebyg arall i'r corff, neu berson sy'n honni ei fod yn gweithredu yn rhinwedd swydd o'r fath.

Terfynau amser ar gyfer erlyn

19.  Caiff erlyniad am dramgwydd o dan y Rhan hon ddechrau heb fod yn hwyrach na diwedd—

(a)tair blynedd o ddyddiad cyflawni'r tramgwydd; neu

(b)blwyddyn o ddyddiad ei ddarganfod gan yr erlynydd,

p'un bynnag yw'r cynharaf.

Diwygio Rheoliadau 2006

20.—(1Mae Rheoliadau 2006 wedi'u diwygio fel a ganlyn.

(2Yn rheoliad 2(1), yn y paragraff sy'n dechrau “mae i “Rheoliad 178/2002” (“Regulation 178/2002”)” mewnosoder ar ôl y geiriau ““Cyfarwyddeb 2004/41” (“Directive 2004/41”),” y geiriau ““Rheoliad 999/2001” (“Regulation 999/2001”)”.

(3Yn Atodlen 1, ar ôl y diffiniad o ““Cyfarwyddeb 2004/41” (“Directive 2004/41”)”, mewnosoder—

“ystyr “Rheoliad 999/2001” (“Regulation 999/2001”) yw Rheoliad (EC) Rhif 999/2001 Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n gosod rheolau ar gyfer atal, rheoli a difodi enseffalopathïau sbyngffurf trosglwyddadwy penodol fel y'i diwygir(1) ac mae iddo'r un ystyr â'r diffiniad o “Rheoliad TSE y Gymuned” (“Community TSE Regulation”) yn Rheoliadau Enseffalopathïau Sbyngffurf Trosglwyddadwy (Cymru) 2006(2).

(4Ym mharagraff (a) o Atodlen 3—

(a)ar ôl is-baragraff (vi) dileer “a”;

(b)ar ddiwedd paragraff (vii)(bb) dileer “; a” ac ychwaneger—

, ac

(viii)y materion a reoleiddir o dan Atodlen 2 i Reoliadau Enseffalopathïau Sbyngffurf Trosglwyddadwy (Cymru) 2006 i'r graddau y mae'r Atodlen honno yn gymwys o ran anifeiliaid a gigyddir ar gyfer eu bwyta gan bobl, ynghyd â phwynt 2 o Ran II o Bennod A Atodiad III i Reoliad 999/2001 i'r graddau y mae'r pwynt hwnnw yn gymwys o ran anifeiliaid a gigyddir ar gyfer eu bwyta gan bobl.

(1)

OJ Rhif L147, 31.5.2001, t. 1 fel y'i diwygir gan Reoliad y Comisiwn (EC) 1041/2006 sy'n diwygio Atodiad III i Reoliad (EC) Rhif 999/2001 Senedd Ewrop a'r Cyngor ynglyn â monitro enseffalopathïau sbyngffurf trosglwyddadwy mewn anifeiliaid o deulu'r ddafad.

Yn ôl i’r brig

Options/Help

Print Options

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill
Close

Rhagor o Adnoddau

Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel gwnaed fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • slipiau cywiro

liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys

  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill