Chwilio Deddfwriaeth

Rheoliadau Addysg (Ffioedd a Dyfarniadau) (Cymru) 2007

 Help about what version

Pa Fersiwn

 Help about opening options

Dewisiadau AgorExpand opening options

Statws

Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol).

ATODLEN

1.  At ddibenion yr Atodlen hon—

ystyr “aelod o'r teulu” (“family member”) (oni nodir fel arall) —

(a)

mewn perthynas â gweithiwr ffin yr AEE, gweithiwr mudol AEE, person hunan-gyflogedig ffin yr AEE neu berson hunan-gyflogedig yr AEE yw—

(i)

ei briod neu ei bartner sifil;

(ii)

ei blentyn neu blentyn ei briod neu ei bartner sifil; neu

(iii)

perthnasau uniongyrchol dibynnol yn ei linach esgynnol ef neu yn llinach esgynnol ei briod neu ei bartner sifil;

(b)

o ran person Swisaidd cyflogedig, person Swisaidd cyflogedig y ffin, person Swisaidd hunangyflogedig y ffin neu berson Swisaidd hunangyflogedig—

(i)

ei briod neu ei bartner sifil; neu

(ii)

ei blentyn neu blentyn ei briod neu ei bartner sifil;

(c)

o ran gwladolyn o'r GE sy'n dod o fewn Erthygl 7(1)(c) o Gyfarwyddeb 2004/38 —

(i)

ei briod neu ei bartner sifil; neu

(ii)

ei ddisgynyddion uniongyrchol neu ddisgynyddion uniongyrchol ei briod neu ei bartner sifil —

(aa)

sydd o dan 21 mlwydd oed; neu

(bb)

sy'n ddibynyddion iddo neu sy'n ddibynyddion i'w briod neu i'w bartner sifil;

(ch)

o ran gwladolyn o'r GE sy'n dod o fewn Erthygl 7(1)(b) o Gyfarwyddeb 2004/38 —

(i)

ei briod neu ei bartner sifil; neu

(ii)

ei ddisgynyddion uniongyrchol neu ddisgynyddion uniongyrchol ei briod neu ei bartner sifil—

(aa)

sydd o dan 21 mlwydd oed; neu

(bb)

sy'n ddibynyddion iddo neu sy'n ddibynyddion i'w briod neu ei bartner sifil;

(iii)

perthnasau uniongyrchol dibynnol yn ei linach esgynnol neu yn llinach esgynnol ei briod neu ei bartner sifil;

(d)

o ran gwladolyn o'r Deyrnas Unedig, at ddibenion paragraff 9 —

(i)

ei briod neu ei bartner sifil; neu

(ii)

ei ddisgynyddion uniongyrchol ef neu ddisgynyddion uniongyrchol ei briod neu ei bartner sifil—

(aa)

sydd o dan 21 mlwydd oed; neu

(bb)

sy'n ddibynyddion iddo neu sy'n ddibynyddion i'w briod neu i'w bartner sifil;

ystyr “Cyfarwyddeb 2004/38” (“Directive 2004/38”) yw Cyfarwyddeb 2004/38/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor dyddiedig 29 Ebrill 2004(1) ar hawliau dinasyddion yr Undeb ac aelodau o'u teuluoedd i symud ac i breswylio'n rhydd yn nhiriogaeth yr Aelod-wladwriaethau;

ystyr “Cytundeb y Swistir” (“Swiss Agreement”) yw'r Cytundeb rhwng y Gymuned Ewropeaidd a'i Haelod-wladwriaethau, o'r naill barti, a'r Conffederasiwn Swisaidd, o'r llal, ar Rydd Symudiad Personau a lofnodwyd yn Lwcsembwrg ar 21 Mehefin 1999(2) ac a ddaeth i rym ar 1 Mehefin 2002;

ystyr “ffoadur” (“refugee”) yw person a gydnabuwyd gan lywodraeth Ei Mawrhydi fel ffoadur o fewn ystyr Confensiwn y Cenhedloedd Unedig sy'n ymwneud â Statws Ffoaduriaid a wnaed yng Ngenefa ar 28 Gorffennaf 1951(3) fel y'i hestynnwyd gan y Protocol iddo a ddaeth i rym ar 4 Hydref 1967(4);

ystyr “gweithiwr” (“worker”) o fewn ystyr Erthygl 7 o Gyfarwyddeb 2004/38 neu o Gytundeb yr AEE, yn ôl y digwydd;

ystyr “gweithiwr ffin yr AEE” (“EEA frontier worker”) yw gwladolyn o'r AEE—

(a)

sy'n weithiwr yn y Deyrnas Unedig; a

(b)

sy'n preswylio yn y Swistir neu yn nhiriogaeth Gwladwriaeth AEE ac eithrio'r Deyrnas Unedig, ac sy'n dychwelyd i'w breswylfa yn y Swistir neu'r Wladwriaeth AEE honno, yn ôl y digwydd, bob dydd neu o leiaf unwaith yr wythnos;

ystyr “gweithiwr mudol AEE” (“EEA migrant worker”) yw gwladolyn o'r AEE sy'n weithiwr, ac eithrio gweithiwr ffin yr AEE, yn y Deyrnas Unedig;

ystyr “gweithiwr o Dwrci” (“Turkish worker”) yw gwladolyn o Dwrcai—

(a)

sy'n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig; a

(b)

sydd, neu sydd wedi bod mewn cyflogaeth gyfreithlon yn y Deyrnas Unedig;

ystyr “gwladolyn o'r AEE” (“EEA national”) yw gwladolyn o Wladwriaeth AEE ac eithrio'r Deyrnas Unedig;

ystyr “gwladolyn o'r GE” (“EC national”) yw gwladolyn o Aelod-wladwriaeth o'r Gymuned Ewropeaidd;

ystyr “Gwladwriaeth AEE” (“EEA State) yw Aelod-wladwriaeth o'r Ardal Economaidd Ewropeaidd;

ystyr “hawl i breswylio'n barhaol” (“right of permanent residence”) yw hawl sy'n codi o dan Gyfarwyddeb 2004/38 i breswylio yn y Deyrnas Unedig yn barhaol heb gyfyngiad;

ystyr “person cyflogedig” (“employed person”) yw person cyflogedig o fewn ystyr Atodiad 1 i Gytundeb y Swistir;

ystyr “person hunangyflogedig” (“self-employed person”) yw —

(a)

o ran gwladolyn AEE, person sy'n hunan-gyflogedig o fewn ystyr Erthygl 7 o Gyfarwyddeb 2004/38 neu o Gytundeb yr AEE, yn ôl y digwydd; neu

(b)

o ran gwladolyn Swisaidd, person sy'n berson hunangyflogedig o fewn ystyr Atodiad 1 i Gytundeb y Swistir;

ystyr “person hunangyflogedig AEE” (“EEA self-employed person”) yw gwladolyn o'r AEE sy'n berson hunangyflogedig, ac eithrio person hunan-gyflogedig ffin yr AEE, yn y Deyrnas Unedig;

ystyr “person hunangyflogedig ffin yr AEE” (“EEA frontier self-employed person”) yw gwladolyn o'r AEE—

(a)

sy'n berson hunangyflogedig yn y Deyrnas Unedig; a

(b)

sy'n preswylio yn y Swistir neu yn nhiriogaeth Gwladwriaeth AEE ac eithrio'r Deyrnas Unedig, ac sy'n dychwelyd i'w breswylfa yn y Swistir neu'r Wladwriaeth AEE honno, yn ôl y digwydd, bob dydd neu o leiaf unwaith yr wythnos;

ystyr “person Swisaidd cyflogedig” (“Swiss employed person”) yw gwladolyn Swisaidd sydd yn berson cyflogedig, ac eithrio person Swisaidd cyflogedig y ffin, yn y Deyrnas Unedig;

ystyr “person Swisaidd cyflogedig y ffin” (“Swiss frontier employed person”) yw gwladolyn Swisaidd—

(a)

sy'n berson cyflogedig yn y Deyrnas Unedig; a

(b)

sy'n preswylio yn y Swistir neu yn nhiriogaeth Gwladwriaeth AEE ac eithrio'r Deyrnas Unedig ac sy'n dychwelyd i'w breswylfa yn y Swistir neu'r Wladwriaeth AEE honno, yn ôl y digwydd, bob dydd neu o leiaf unwaith yr wythnos;

ystyr “person Swisaidd hunangyflogedig” (“Swiss self-employed person”) yw gwladolyn Swisaidd sy'n berson hunangyflogedig, heblaw person Swisaidd hunangyflogedig y ffin, yn y Deyrnas Unedig;

ystyr “person Swisaidd hunangyflogedig y ffin” (“Swiss frontier self-employed person”) yw gwladolyn Swisaidd —

(a)

sy'n berson hunangyflogedig yn y Deyrnas Unedig; a

(b)

sy'n preswylio yn y Swistir neu yn nhiriogaeth Gwladwriaeth AEE ac eithrio'r Deyrnas Unedig ac sy'n dychwelyd i'w breswylfa yn y Swistir neu yn y Wladwriaeth AEE honno, yn ôl y digwydd, bo dydd neu o leiaf unwaith yr wythnos;

ystyr “person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu aros” (“person with leave to enter or remain”) yw person—

(a)

a gafodd ei hysbysu gan berson sy'n gweithredu o dan awdurdod yr Ysgrifennydd Gwladol dros yr Adran Gartref y tybir ei bod yn iawn caniatáu iddo ddod i mewn neu aros yn y Deyrnas Unedig er yr ystyrir nad yw'n gymwys i gael ei adnabod fel ffoadur;

(b)

a gafodd ganiatâd i ddod i mewn neu aros yn unol â hynny; ac

(c)

nad yw ei gyfnod o ganiatâd i ddod i mewn neu aros wedi dod i ben, neu ei fod wedi ei adnewyddu ac nad yw cyfnod yr adnewyddiad wedi dod i ben, neu fod apêl yn yr arfaeth (o fewn ystyr adran 104 o Ddeddf Cenedligrwydd, Mewnfudo a Lloches 2002)(5) mewn perthynas â'i ganiatâd i ddod i mewn neu aros; ac

(ch)

sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a'r Ynysoedd drwy gydol y cyfnod ers pan gafodd ganiatâd i ddod i mewn neu aros;

ystyr “wedi setlo” (“settled”) yw'r ystyr a roddir iddo gan adran 33(2A) o Ddeddf Mewnfudo 1971(6).

Personau sydd wedi setlo yn y Deyrnas Unedig

2.—(1Person sydd ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs —

(a)wedi setlo yn y Deyrnas Unedig ac eithrio am y rheswm ei fod wedi caffael yr hawl i breswylio'n barhaol;

(b)yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig;

(c)wedi bod yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a'r Ynysoedd drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs; ac

(ch)yn ddarostyngedig i is-baragraff (2), person na fu ei breswyliad yn y Deyrnas Unedig a'r Ynysoedd yn ystod unrhyw ran o'r cyfnod y cyfeirir ato ym mharagraff (c) yn llwyr neu'n bennaf at ddibenion cael addysg lawnamser.

(2Nid yw paragraff (ch) o is-baragraff (1) yn gymwys i berson a drinnir petai'n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a'r Ynysoedd yn unol â rheoliad 2(4).

3.  Person —

(a)sydd wedi setlo yn y Deyrnas Unedig yn rhinwedd caffael yr hawl i breswylio'n barhaol ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd o'r cwrs;

(b)sy'n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs;

(c)sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a'r Ynysoedd drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs; ac

(ch)mewn achos pan fu ei breswyliad fel y cyfeirir ato ym mharagraff (c) yn llwyr neu'n bennaf er mwyn derbyn addysg lawnamser, person a oedd yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth a ffurfir gan yr Ardal Economaidd Ewropeaidd a'r Swistir yn union cyn y cyfnod o breswyliad arferol y cyfeirir ato ym mharagraff (c).

Ffoaduriaid ac aelodau o'u teuluoedd

4.—(1Person —

(a)sy'n ffoadur;

(b)sy'n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a'r Ynysoedd ac nad yw wedi peidio â phreswylio felly ers pan gafodd ei gydnabod yn ffoadur; ac

(c)sy'n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.

(2Person —

(a)sydd yn briod neu'n bartner sifil i ffoadur;

(b)a oedd yn briod neu'n bartner sifil i ffoadur ar y dyddiad pan wnaeth y ffoadur gais am loches;

(c)sy'n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a'r Ynysoedd ac nad yw wedi peidio â phreswylio felly ers pan gafodd ganiatâd i aros yn y Deyrnas Unedig; ac

(ch)sy'n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.

(3Person —

(a)sy'n blentyn i ffoadur neu'n blentyn i briod neu i bartner sifil ffoadur;

(b)a oedd yn blentyn i'r ffoadur neu'n blentyn i berson a oedd yn briod neu'n bartner sifil i'r ffoadur ar y dyddiad y gwnaeth y ffoadur ei gais am loches;

(c)a oedd o dan 18 mlwydd oed ar y dyddiad y gwnaeth y ffoadur ei gais am loches;

(ch)sydd yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a'r Ynysoedd ac nad yw wedi peidio â phreswylio felly ers pan gafodd ganiatâd i aros yn y Deyrnas Unedig; a

(d)sydd yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.

Personau â chaniatâd i ddod i mewn neu aros ac aelodau o'u teulu

5.—(1Person—

(a)sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu aros; a

(b)sy'n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.

(2Person—

(a)sydd yn briod neu'n bartner sifil i berson sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu aros;

(b)a oedd yn briod neu'n bartner sifil i'r person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu aros ar y dyddiad y gwnaeth y person hwnnw ei gais am loches; ac

(c)sy'n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.

(3Person—

(a)sydd yn blentyn i berson â chaniatâd i ddod i mewn neu aros neu sy'n blentyn i briod neu i bartner sifil person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros;

(b)a oedd, ar y dyddiad y gwnaeth y person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros ei gais am loches, yn blentyn i'r person hwnnw neu'n blentyn i berson oedd yn briod neu'n bartner sifil i'r person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros ar y dyddiad hwnnw;

(c)a oedd o dan 18 mlwydd oed ar y dyddiad y gwnaeth y person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros ei gais am loches; ac

(ch)sy'n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.

Gweithwyr, personau cyflogedig, personau hunan- gyflogedig ac aelodau o'u teulu

6.—(1Person —

(a)sydd —

(i)yn weithiwr mudol AEE neu yn berson hunangyflogedig AEE;

(ii)yn berson Swisaidd cyflogedig neu'n berson Swisaidd hunan-gyflogedig;

(iii)yn aelod o deulu person a grybwyllir ym mharagraff (i) neu (ii);

(iv)yn weithiwr ffin yr AEE neu yn berson hunangyflogedig ffin yr AEE;

(v)yn berson Swisaidd cyflogedig y ffin neu'n berson Swisaidd hunangyflogedig y ffin; neu

(vi)yn aelod o deulu person a grybwyllir ym mharagraff (iv) neu (v);

(b)yn ddarostyngedig i is-baragraff (3), sy'n preswylop fel arfer yn y Deyrnas Unedig ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs; ac

(c)sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth a ffurfir gan yr Ardal Economaidd Ewropeaidd a'r Swistir drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.

(2Person—

(a)sydd yn wladolyn o'r GE ac yn dod o fewn paragraff (a)(i) neu (a)(iv) o is-baragraff (1);

(b)yn ddarostyngedig i is-baragraff (3), sy'n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs; ac

(c)sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth a ffurfir gan yr Ardal Economaidd Ewropeaidd, y Swistir a'r tiriogaethau tramor drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.

(3Nid yw paragraff (b) o is-baragraffau (1) a (2) yn gymwys os yw'r person yn dod o fewn paragraff (a)(iv), (v) neu (vi) o is-baragraff (1).

7.  Person sydd—

(a)yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs;

(b)sydd wedi bod fel arfer yn preswylio yn y diriogaeth sy'n ffurfio'r Ardal Economaidd Ewropeaidd a'r Swistir drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs; ac

(c)sydd â hawl i gymorth yn rhinwedd Erthygl 12 o Reoliad y Cyngor (EEC) Rhif 1612/68 ar rydd symudiad gweithwyr(7), fel y'i hestynnwyd gan Gytundeb yr AEE(8).

Personau sydd wedi setlo yn y Deyrnas Unedig ac sydd wedi arfer hawl i breswylio mewn man arall

8.—(1Person—

(a)sydd wedi setlo yn y Deyrnas Unedig;

(b)sydd wedi ymadael â'r Deyrnas Unedig ac wedi arfer hawl i breswylio ar ôl iddo fod wedi setlo yn y Deyrnas Unedig;

(c)sy'n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig ar y diwrnod y mae tymor cyntaf y flwyddyn academaidd gyntaf yn dechrau mewn gwirionedd;

(ch)sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth a ffurfir gan yr Ardal Economaidd Ewropeaidd a'r Swistir drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs; a

(d)mewn achos pan oedd ei breswyliad arferol y cyfeirir ato ym mharagraff (ch) yn llwyr neu'n bennaf at ddibenion cael addysg lawnamser, a oedd yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth a ffurfir gan yr Ardal Economaidd Ewropeaidd a'r Swistir yn union cyn y cyfnod o breswyliad arferol y cyfeirir ato ym mharagraff (ch).

(2At ddibenion y paragraff hwn, mae person wedi arfer hawl i breswylio os yw'n wladolyn o'r Deyrnas Unedig, yn aelod o deulu gwladolyn o'r Deyrnas Unedig at ddibenion Erthygl 7 o Gyfarwyddeb 2004/38 (neu ddibenion cyfatebol o dan Gytundeb yr AEE neu Gytundeb y Swistir) neu'n berson sydd a chanddo hawl i breswylio'n barhaol ymhob achos wedi arfer hawl o dan Erthygl 7 o Gyfarwyddeb 2004/38 neu unrhyw hawl gyfatebol o dan Gytundeb yr AEE neu Gytundeb y Swistir mewn gwladwriaeth ac eithrio'r Deyrnas Unedig neu, yn achos person sydd wedi setlo yn y Deyrnas Unedig ac sydd â hawl i breswylio'n barhaol, os yw'n mynd i'r wladwriaeth o fewn y diriogaeth a ffurfir gan yr Ardal Economaidd Ewropeaidd a'r Swistir y mae'n wladolyn ohoni, neu y mae'r person y mae ef yn aelod o'i deulu mewn perthynas yn wladolyn ohoni.

Gwladolion o'r GE

9.—(1Person —

(a)sydd naill ai —

(i)yn wladolyn o'r GE ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs; neu

(ii)yn aelod o deulu'r cyfryw berson;

(b)sydd yn dilyn y cwrs yn y Deyrnas Unedig

(c)yn achos person sy'n dod o fewn is-baragraff (1)(a)(i), sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth a ffurfir gan yr Ardal Economaidd Ewropeaidd y Swistir a'r tiriogaethau tramor drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs;

(ch)yn achos person sy'n dod o fewn is-baragraff (1)(a)(ii), sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy'n ffurfio'r Ardal Economaidd Ewropeaidd a'r Swistir drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs; a

(d)yn ddarostyngedig i is-baragraff (2), na fu'n preswylio fel arfer yn y diriogaeth berthnasol yn ystod unrhyw ran o'r cyfnod y cyfeirir ato ym mharagraffau (c) neu (ch) yn llwyr neu'n bennaf er mwyn cael addysg lawnamser.

(2Nid yw paragraff (d) o is-baragraff (1) yn gymwys i berson a drinnir fel person sydd yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth a ffurfir gan y diriogaeth berthnasol yn unol â rheoliad 2(4).

10.—(1Person—

(a)sy'n wladolyn o'r GE ac eithrio gwladolyn o'r Deyrnas Unedig ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs;

(b)sy'n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs;

(c)sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a'r Ynysoedd drwy gydol y cyfnod o dair blynedd yn union cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs; ac

(ch)mewn achos pan oedd ei breswyliad arferol y cyfeirir ato ym mharagraff (c) yn llwyr neu'n bennaf er mwyn cael addysg lawnamser, a oedd yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth a ffurfir gan yr Ardal Economaidd Ewropeaidd a'r Swistir yn union cyn y cyfnod preswyliad arferol y cyfeirir ato ym mharagraff (c).

(2Pan fo gwladwriaeth yn ymaelodi â'r Gymuned Ewropeaidd ar ôl diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs a bod person yn wladolyn o'r wladwriaeth honno, trinnir y gofyniad ym mharagraff (a) o is-baragraff (1) bod y person yn wladolyn o'r GE ac eithrio gwladolyn o'r Deyrnas Unedig ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs fel gofyniad sydd wedi'i fodloni.

Plant gwladolion o'r Swistir

11.  Person —

(a)sy'n blentyn i wladolyn o'r Swistir y mae ganddo hawl i gael cymorth yn y Deyrnas Unedig yn rhinwedd Erthygl 3(6) o Atodiad 1 i Gytundeb y Swistir;

(b)sy'n preswylio fel arfer y Deyrnas Unedig ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs;

(c)sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth a ffurfir gan yr Ardal Economaidd Ewropeaidd a'r Swistir drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs; ac

(ch)mewn achos lle'r oedd y preswyliad arferol y cyfeirir ato ym mharagraff (c) yn llwyr neu'n bennaf er mwyn cael addysg lawnamser, a oedd yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth a ffurfir gan yr Ardal Economaidd Ewropeaidd a'r Swistir yn union cyn y cyfnod preswylio arferol y cyfeirir ato ym mharagraff (c).

Plant gweithwyr o Dwrci

12.  Person —

(a)sy'n blentyn i weithiwr o Dwrci;

(b)sy'n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs; ac

(c)sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth a ffurfir gan yr Ardal Economaidd Ewropeaidd, y Swistir a Thwrci drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.

(1)

OJ L158, 30.4.2004, t77-123.

(2)

Cm. 4904.

(3)

Cmnd. 9171

(4)

Cmnd. 3906 (allan o brint; mae llungopïau ar gael, am ddim, oddi wrth yr Adran Cymorth i Fyfyrwyr, Yr Adran Addysg a Sgiliau, Mowden Hall, Staindrop Road, Darlington DL3 9BG).

(5)

2002 p.41. Diwygiwyd adran 104 gan Ddeddf Lloches a Mewnfudo (Trin Hawlwyr etc.) 2004 (p.19), adran 26 ac Atodlenni 2 a 4, a Deddf Mewnfudo Lloches a Chenedligrwydd 2006 (p.13), adran 9.

(6)

1971 p.77; mewnosodwyd adran 33(2A) gan baragraff 7 o Atodlen 4 i Ddeddf Cenedligrwydd Prydeinig 1981 (p.61)

(7)

OJ Rhif L257, 19.10.1968, t.2 (OJ/SE 1968 (II) t.475).

(8)

Ystyr “Cytundeb yr EEA” yw'r Cytundeb ar yr Ardal Economaidd Ewropeaidd a lofnodwyd yn Oporto ar 2 Mai 1992 — Cm 2073, fel y'i haddaswyd gan y Protocol a lofnodwyd ym Mrwsel ar 17 Mawrth 1993, Cm 2183.

Yn ôl i’r brig

Options/Help