xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Offerynnau Statudol Cymru

2007 Rhif 2438 (Cy.202)

ARDRETHU A PHRISIO, CYMRU

Gorchymyn Ardrethu Annomestig (Rhyddhad Ardrethi i Fusnesau Bach) (Cymru) (Diwygio) 2007

Wedi'i wneud

14 Awst 2007

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

17 Awst 2007

Yn dod i rym

7 Medi 2007

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 43(4B)(b), 44(9) a 143(1) a (2) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988(1) ac a freiniwyd bellach yng Ngweinidogion Cymru:

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Ardrethu Annomestig (Rhyddhad Ardrethi i Fusnesau Bach) (Cymru) (Diwygio) 2007.

(2Daw'r Gorchymyn hwn i rym ar 7 Medi 2007 ond bydd y diwygiad a osodir yn erthygl 2 yn effeithiol o 1 Ebrill 2007 ymlaen.

(3Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.

Diwygio Gorchymyn Ardrethu Annomestig (Rhyddhad Ardrethi i Fusnesau Bach) (Cymru) 2006.

2.  Yn y Gorchymyn Ardrethu Annomestig (Rhyddhad Ardrethi i Fusnesau Bach) (Cymru) 2006(2), yn Erthygl 2 (Dehongli), yn y diffiniad o “hereditament a eithrir” (“excepted hereditament”), hepgorer paragraff (dd).

Brian Gibbons

Y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol

14 Awst 2007

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Daw'r Gorchymyn hwn i rym ar 7 Medi 2007 ond bydd y diwygiad yn erthygl 2 yn effeithiol o 1 Ebrill 2007 ymlaen. Mae'r Gorchymyn yn gymwys i Gymru.

Mae erthygl 2 o'r Gorchymyn Ardrethu Annomestig (Rhyddhad Arderethi i Fusnesau Bach) (Cymru) 2006 (“Gorchymyn 2006”) yn diffinio hereditamentau a eithrir rhag y cynllun rhyddhad ardrethi i fusnesau bach a sefydlir gan y Gorchymyn hwnnw.

Mae'r Gorchymyn hwn yn diwygio'r diffiniad o hereditamentau a eithrir yn y Gorchymyn 2006 drwy ddileu'r cyfeiriad at eiddo hunan-ddarpar penodol.

(1)

1988 p.41. Cafodd y pwerau hyn eu datganoli, o ran Cymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) Gorchymyn 1999 (O.S. 1999/672), gweler y cyfeiriad at Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988 yn Atodlen 1. Yn rhinwedd adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32), a pharagraff 30 Atodlen 11 iddi, mae'r swyddogaethau hynny bellach yn arferadwy gan Weinidogion Cymru.