Chwilio Deddfwriaeth

Rheoliadau Milheintiau (Monitro) (Cymru) 2007

Statws

Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol).

Offerynnau Statudol Cymru

2007 Rhif 2459 (Cy.207)

ANIFEILIAID, CYMRU

IECHYD ANIFEILIAID

Rheoliadau Milheintiau (Monitro) (Cymru) 2007

Wedi'u gwneud

20 Awst 2007

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

22 Awst 2007

Yn dod i rym

1 Hydref 2007

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt(1) at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972(2) o ran mesurau ym maes milfeddygaeth i ddiogelu iechyd y cyhoedd, ac a freiniwyd bellach ynddynt(3) drwy'r adran honno'n gwneud y rheoliadau canlynol:

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.  Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Milheintiau (Monitro) (Cymru) 2007; maent yn gymwys o ran Cymru ac yn dod i rym ar 1 Hydref 2007.

Dehongli

2.—(1Yn y Rheoliadau hyn—

ystyr “arolygydd” (“inspector”) yw unrhyw berson a benodwyd i fod yn arolygydd at ddibenion y Rheoliadau hyn gan Weinidogion Cymru neu gan awdurdod lleol;

ystyr “awdurdod lleol” (“local authority”), o ran unrhyw ardal yng Nghymru, yw cyngor sir yr ardal neu gyngor bwrdeistref sirol yr ardal;

ystyr “y Gyfarwyddeb” (“the Directive”) yw Cyfarwyddeb 2003/99/EC ar fonitro milheintiau a chyfryngau milheintiol a honno'n Gyfarwyddeb sy'n diwygio Penderfyniad y Cyngor 90/424/EEC ac yn diddymu Cyfarwyddeb y Cyngor 92/117/EEC(4).

(2Mae i ymadroddion a ddefnyddir yn y Rheoliadau hyn ac y defnyddir yr ymadroddion Saesneg sy'n cyfateb iddynt yn y Gyfarwyddeb yr un ystyr yn y Rheoliadau hyn ag ystyr yr ymadroddion Saesneg hynny yn y Gyfarwyddeb honno.

Yr awdurdod cymwys

3.  Gweinidogion Cymru yw'r awdurdod cymwys at ddibenion Erthyglau 3(2), 6(1) ac 8(2) o'r Gyfarwyddeb i'r graddau y mae'r Gyfarwyddeb honno'n ymwneud ag anifeiliaid.

Pwerau mynediad

4.—(1Mae gan arolygydd, ar ôl dangos, os yw'n ofynnol iddo wneud hynny, ryw ddogfen sydd wedi'i dilysu'n briodol ac sy'n dangos ei awdurdod, hawl ar bob adeg resymol, i fynd i mewn i unrhyw fangre lle mae, neu lle'r oedd, unrhyw anifail neu unrhyw fwyd anifeiliaid yn bresennol er mwyn—

(a)penderfynu a oes unrhyw filhaint a restrir yn yr Atodlen neu unrhyw gyfrwng milheintiol i unrhyw filhaint o'r fath yn bodoli neu wedi bodoli yno;

(b)penderfynu a oes tystiolaeth bod ymwrthedd gwrthficrobaidd mewn unrhyw gyfrwng milheintiol o'r fath neu mewn unrhyw gyfrwng arall sy'n fygythiad i iechyd y cyhoedd;

(c)penderfynu, os yw'r sefyllfa epidemiolegol yn ei gwneud yn ofynnol—

(i)a oes unrhyw filhaint arall neu gyfrwng milheintiol arall yn bodoli neu wedi bodoli yno;

(ii)a oes tystiolaeth am ymwrthedd gwrthficrobaidd mewn unrhyw gyfrwng milheintiol o'r fath;

(iii)a yw unrhyw gyfrwng i unrhyw heintiad sy'n bodoli neu sydd wedi bodoli yn y fangre honno yn drosglwyddadwy'n uniongyrchol neu'n anuniongyrchol o anifeiliaid i bobl;

(iv)a oes unrhyw gyfrwng i unrhyw heintiad sydd, neu a all fod, yn uniongyrchol drosglwyddadwy o anifeiliaid i bobl yn bodoli yn y fangre honno; neu

(ch)gorfodi'r Rheoliadau hyn.

(2Nid yw paragraff (1) yn gymwys i gael mynediad i unrhyw fangre sy'n cael ei defnyddio fel tŷ annedd preifat yn unig oni bai bod hysbysiad, sy'n rhoi 24 awr o rybudd o'r mynediad arfaethedig, wedi'i roi i'r meddiannydd, neu fod y mynediad yn unol â gwarant a roddir o dan y rheoliad hwn.

(3Os yw Ynad Heddwch, ar ôl cael gwybodaeth ysgrifenedig ar lw, wedi'i fodloni bod sail resymol dros fynd i mewn i unrhyw fangre er mwyn gorfodi'r Rheoliadau hyn, a naill ai —

(a)bod mynediad i'r fangre wedi'i wrthod, neu y disgwylir iddo gael ei wrthod, ac (yn y naill achos neu'r llall) fod hysbysiad o'r bwriad i wneud cais am warant wedi'i roi i'r meddiannydd;

(b)y byddai gofyn am gael mynediad, neu roi hysbysiad o'r fath, yn mynd yn groes i'r amcan o fynd i mewn;

(c)bod yr achos yn achos brys; neu

(ch)bod y fangre heb ei meddiannu neu fod y meddiannydd yn absennol dros dro,

caiff yr Ynad drwy warant a lofnodir ganddo awdurdodi'r arolygydd i fynd i mewn i'r fangre, gan ddefnyddio grym rhesymol os bydd angen.

(4Bydd gwarant o dan yr adran hon yn parhau mewn grym am un mis.

(5Os bydd arolygydd yn mynd i mewn i unrhyw fangre nad yw wedi'i meddiannu, rhaid iddo ei gadael wedi'i diogelu yr un mor effeithiol rhag mynediad diawdurdod ag ydoedd pan aeth yno gyntaf.

(6Yn y rheoliad hwn:

mae “mangre” (“premises”) yn cynnwys unrhyw dir, unrhyw le, unrhyw gerbyd neu ôl-gerbyd, unrhyw gynhwysydd, unrhyw stondin neu adeiladwaith symudol, ac unrhyw long neu awyren.

Pwerau arolygwyr

5.  Caiff arolygydd sy'n mynd i mewn i fangre o dan reoliad 4 —

(a)gwneud yr ymholiadau, yr archwiliadau a'r profion a chymryd y samplau (gan gynnwys unrhyw garcas anifail neu unrhyw ran o garcas anifail, gwaed, deunydd ysgarthol, bwyd anifeiliaid, sarn a chynhyrchion anifeiliaid) y mae'n barnu eu bod yn angenrheidiol;

(b)archwilio unrhyw gofnodion ar ba ffurf bynnag y bônt a chymryd copïau neu allbrintiau o'r cofnodion hynny;

(c)marcio, neu beri iddynt gael eu marcio, at ddibenion eu hadnabod, unrhyw anifail, carcas anifail neu unrhyw beth y mae unrhyw un o'r pwerau o dan is-baragraffau (a) neu (b) wedi'u harfer mewn perthynas â hwy;

(ch)holi unrhyw berson;

(d)gosod unrhyw gyfarpar (gan gynnwys unrhyw fagl) yn y fangre er mwyn dal neu fonitro unrhyw anifail gwyllt (gan gynnwys unrhyw gludwr sy'n arthropod) neu er mwyn canfod unrhyw ficro-organedd;

(dd)cymryd gydag ef unrhyw berson, cerbyd neu gyfarpar y mae'n barnu ei fod yn angenrheidiol i roi'r Rheoliadau hyn ar waith; ac

(e)cymryd gydag ef unrhyw gynrychiolydd o'r Comisiwn Ewropeaidd.

Archwilio arunigion

6.—(1Rhaid i weithredydd busnes bwyd sy'n gyfrifol am gynhyrchu sylfaenol ac sy'n archwilio arunigyn, neu sy'n peri bod archwiliad o arunigyn yn cael ei gynnal, er mwyn canfod a oes unrhyw filhaint neu gyfrwng milheintiol yn bresennol—

(a)cymryd pob cam rhesymol i sicrhau bod yr arunigyn yn cael ei breserfio am gyfnod o bythefnos o ddyddiad yr archwiliad; a

(b)cadw canlyniadau'r archwiliad am gyfnod o 12 mis o'r dyddiad y dônt i law a'u darparu i Wenidogion Cymru ar unwaith os gofynnir amdanynt yn ystod y cyfnod hwnnw.

(2Nid yw paragraff (1) yn gymwys i unrhyw sampl a gymerir at ddibenion Gorchymyn Heidiau Bridio a Deorfeydd Dofednod (Cymru) 2007(5).

Monitro anifeiliaid gwyllt

7.  Os bydd Gweinidogion Cymru yn paratoi rhaglen ar gyfer monitro milheintiau neu gyfryngau milheintiol mewn anifeiliaid gwyllt sy'n cynnwys cymryd unrhyw sampl oddi wrth anifail gwyllt byw neu oddi wrth unrhyw ŵy neu samplau o unrhyw fannau gorffwyso dros dro neu barhaol neu nyth anifail gwyllt, rhaid iddynt ymgynghori â Chyngor Cefn Gwlad Cymru cyn cychwyn monitro.

Tramgwyddau a chosbau

8.—(1Mae person yn euog o dramgwydd os yw—

(a)yn rhoi unrhyw driniaeth i anifail gyda'r bwriad o guddio unrhyw filhaint neu gyfrwng milheintiol;

(b)yn difwyno, yn dileu neu'n tynnu ymaith unrhyw farc a osodir o dan reoliad 5(c);

(c)yn symud ymaith neu'n niweidio'n fwriadol unrhyw gyfarpar a osodir mewn mangre o dan reoliad 5(d);

(ch)yn methu â chydymffurfio â rheoliad 6(1);

(d)yn fwriadol yn rhwystro unrhyw berson sy'n gweithredu i roi'r Rheoliadau hyn ar waith neu i'w gorfodi;

(dd)yn rhoi unrhyw wybodaeth y mae'n gwybod ei bod yn anwir neu'n gamarweiniol i unrhyw berson sy'n gweithredu i roi'r Rheoliadau hyn ar waith neu i'w gorfodi;

(e)yn methu, heb esgus rhesymol—

(i)â rhoi unrhyw gymorth neu wybodaeth y gall unrhyw berson sy'n gweithredu i roi'r Rheoliadau hyn ar waith neu i'w gorfodi ei gwneud yn ofynnol iddo ei roi neu ei rhoi; neu

(ii)â dangos unrhyw gofnod y caiff unrhyw berson sy'n gweithredu i roi'r Rheoliadau hyn ar waith neu i'w gorfodi ei gwneud yn ofynnol iddo ei ddangos,

ar gyfer cyflawni swyddogaethau'r person hwnnw o dan y Rheoliadau hyn.

(2Mae person sy'n euog o dramgwydd o dan y Rheoliadau hyn yn atebol ar gollfarn ddiannod i ddirwy nad yw'n uwch na lefel 5 ar y raddfa safonol.

Tramgwyddau gan gyrff corfforaethol

9.—(1Os dangosir bod tramgwydd o dan y Rheoliadau hyn a gyflawnwyd gan gorff corfforaethol—

(a)wedi'i gyflawni drwy gydsyniad neu ymoddefiad swyddog; neu

(b)i'w briodoli i unrhyw esgeulustod ar ei ran,

bydd y swyddog, yn ogystal â'r corff corfforaethol, yn euog o'r tramgwydd a bydd yn agored i gael ei erlyn a'i gosbi yn unol â hynny.

(2Pan fo materion corff corfforaethol yn cael eu rheoli gan ei aelodau, bydd paragraff (1) yn gymwys mewn perthynas â gweithredoedd a diffygion aelod mewn cysylltiad â'i swyddogaethau rheoli fel pe bai'r aelod hwnnw'n un o gyfarwyddwyr y corff.

(3Ystyr “swyddog” (“officer”), mewn perthynas â chorff corfforaethol yw cyfarwyddwr, aelod o bwyllgor rheoli, prif weithredwr, rheolwr, ysgrifennydd neu swyddog cyffelyb arall i'r corff, neu berson sy'n honni ei fod yn gweithredu yn rhinwedd unrhyw swydd o'r fath.

Gorfodi

10.—(1Mae'r Rheoliadau hyn i'w gorfodi gan yr awdurdod lleol.

(2Caiff Gweinidogion Cymru gyfarwyddo, mewn perthynas ag achosion o ddisgrifiad penodol neu mewn perthynas ag achos penodol, y byddant hwy, yn hytrach na'r awdurdod lleol, yn gorfodi'r Rheoliadau hyn.

Elin Jones

Y Gweinidog dros Faterion Gwledig, un o Weinidogion Cymru

20 Awst 2007

Rheoliad 4(1)(a)

YR ATODLENMilheintiau

  • brwselosis

  • campylobacteriosis

  • ecinococosis

  • listeriosis

  • salmonelosis

  • tricinelosis

  • twbercwlosis oherwydd Mycobacterium bovis

  • Escherichia coli ferotocsigenig

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn yn rhoi pwerau mynediad i arolygwyr fynd i fangreoedd er mwyn monitro ar gyfer milheintiau ac ymwrthedd gwrthficrobaidd i gyfryngau milheintiol a chyfryngau eraill sy'n fygythiad i iechyd y cyhoedd, fel sy'n ofynnol gan Gyfarwyddeb 2003/99/EC (ar fonitro milheintiau a chyfryngau milheintiol, a honno'n Gyfarwyddeb sy'n diwygio Penderfyniad y Cyngor 90/424/EEC ac yn diddymu Cyfarwyddeb y Cyngor 92/117/EEC) (rheoliad 4). Mae rheoliad 5 yn nodi'r hyn y caniateir i arolygwyr ei wneud yn y mangreoedd hynny, gan gynnwys cymryd samplau, archwilio cofnodion a holi unrhyw berson.

Mae rheoliad 6 yn ei gwneud yn ofynnol i weithredwyr busnesau bwyd sy'n ymwneud â chynhyrchu sylfaenol i breserfio arunigion sydd wedi'u profi i weld a oes milhaint ynddynt ac i gadw canlyniadau'r profion hynny ac, os gofynnir iddynt wneud hynny, eu darparu i Weinidogion Cymru.

Mae rheoliad 7 yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru ymgynghori â Chyngor Cefn Gwlad Cymru o ran unrhyw raglen ar gyfer monitro milheintiau neu gyfryngau milheintiol mewn anifeiliaid gwyllt sy'n cynnwys samplu anifeiliaid gwyllt byw neu eu nythod neu eu mannau gorffwyso.

Mae rheoliad 8 yn creu tramgwyddau am rwystro arolygydd ac yn nodi'r cosbau sy'n gymwys. Mae rheoliad 10 yn ymdrin â gorfodi.

Mae asesiad effaith rheoleiddiol o'r effaith y bydd y Rheoliadau hyn yn ei gael wedi ei baratoi ac wedi ei atodi i'r Memorandum Esboniadol. Gellir cael copïau gan Lywodraeth Cynulliad Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ.

(3)

Mae'r swyddogaethau a roddwyd o dan Orchymyn y Cymunedau Ewropeaidd (Dynodi) (Rhif 2) Gorchymyn 2003 (OS 2003/1246) i Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn arferadwy gan Weinidogion Cymru yn rhinwedd paragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32).

(4)

OJ Rhif L 325, 12.12.2003, t.31.

Yn ôl i’r brig

Options/Help

Print Options

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill
Close

Rhagor o Adnoddau

Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel gwnaed fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • slipiau cywiro

liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys

  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill