xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

rheoliad 2(1)

ATODLEN 3Gwybodaeth i'w chynnwys yn y datganiadau amgylcheddol

RHAN 1

1.  Disgrifiad o'r prosiect, gan gynnwys yn benodol—

(a)disgrifiad o nodweddion ffisegol y prosiect cyfan a'r anghenion defnydd tir yn ystod y cyfnod adeiladu, neu gyfnod arall o roi ar waith, a'r cyfnod gweithredol;

(b)disgrifiad o brif nodweddion y prosesau cynhyrchu, er enghraifft, natur a nifer y deunyddiau a ddefnyddir;

(c)amcangyfrif, yn ôl math a maint, o'r gwaddodion a'r allyriadau disgwyliedig (gan gynnwys llygredd dwr, aer a phridd, swn, dirgryniad, golau, gwres, ymbelydredd) sy'n deillio o weithrediad y prosiect arfaethedig.

2.  Amlinelliad o'r prif ddewisiadau eraill a astudiwyd gan y ceisydd am gydsyniad ac awgrym o'r prif resymau dros ei ddewis, gan gymryd i ystyriaeth yr effeithiau amgylcheddol.

3.  Disgrifiad o'r agweddau ar yr amgylchedd y mae'r prosiect arfaethedig yn debyg o effeithio'n sylweddol arnynt, gan gynnwys, yn benodol, poblogaeth, ffawna, fflora, pridd, dwr, aer, ffactorau hinsoddol, asedau materol, gan gynnwys y dreftadaeth bensaernïol ac archeolegol, y tirlun a'r rhyngberthynas rhwng y ffactorau uchod.

4.  Disgrifiad o effeithiau sylweddol tebygol y prosiect ar yr amgylchedd, a ddylai ymdrin ag effeithiau uniongyrchol ac unrhyw effeithiau anuniongyrchol, eilaidd, cronnol, byrdymor, tymor-canolig a hirdymor, parhaol a thros dro, cadarnhaol a negyddol y prosiect, a fydd yn deillio o—

(a)bodolaeth y prosiect;

(b)y defnydd o adnoddau naturiol; ac

(c)allyriant llygrwyr, creu niwsans a dileu gwastraff,

a disgrifiad gan y ceisydd am gydsyniad o'r dulliau darogan a ddefnyddir i asesu'r effeithiau ar yr amgylchedd.

5.  Disgrifiad o'r mesurau a ragwelir i atal, lleihau ac, os yw'n bosibl, i wrthbwyso unrhyw effeithiau andwyol sylweddol ar yr amgylchedd.

6.  Crynodeb annhechnegol o'r wybodaeth a ddarparwyd o dan baragraffau 1 i 5 o'r Rhan hon.

7.  Awgrym ynglyn ag unrhyw anawsterau (gan gynnwys diffygion technegol neu ddiffyg arbenigedd) a wynebodd y ceisydd am gydsyniad wrth grynhoi'r wybodaeth angenrheidiol.

RHAN 2

1.  Disgrifiad o'r prosiect, sydd wedi'i ffurfio o wybodaeth am safle, dyluniad a maint y prosiect.

2.  Disgrifiad o'r mesurau y rhagwelir y bydd eu hangen er mwyn osgoi, lleihau ac, o bosibl, unioni effeithiau andwyol sylweddol.

3.  Y data y mae eu hangen i nodi ac asesu'r prif effeithiau y mae'r prosiect yn debygol o'u cael ar yr amgylchedd.

4.  Amlinelliad o'r prif ddewisiadau eraill a astudiwyd gan y ceisydd am gydsyniad ac awgrym o'r prif resymau dros ei ddewis, gan gymryd i ystyriaeth yr effeithiau amgylcheddol.

5.  Crynodeb annhechnegol o'r wybodaeth a ddarparwyd o dan baragraffau 1 i 4 o'r Rhan hon.