xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Enwi, cymhwyso a chychwynLL+C

1.  Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Lles Anifeiliaid a Ffermir (Cymru) 2007. Maent yn gymwys o ran Cymru; ac maent yn dod i rym ar 24 Hydref 2007.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Rhl. 1 mewn grym ar 24.10.2007, gweler rhl. 1

Diffiniadau a dehongliLL+C

2.—(1Yn y Rheoliadau hyn—

ystyr “ceidwad” (“keeper”) yw unrhyw berson sy'n gyfrifol am anifeiliaid neu â gofal ohonynt, p'un ai ar sail barhaol neu dros dro;

[F1ystyr “dwysedd stocio” (“stocking density”) mewn perthynas ag unrhyw gwt lle cedwir ieir bwyta a fegir yn gonfensiynol, yw cyfanswm pwysau yn fyw yr ieir sy'n bresennol yn y cwt ar yr un pryd i'r m2 o'r lle y gellir ei ddefnyddio;]

[F2mae i “gweithredydd busnes bwyd” yr ystyr a roddir i (“food business operator”) gan Erthygl 3 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n gosod egwyddorion cyffredinol a gofynion cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd(1);]

ystyr “iâr ddodwy” (“laying hen”) yw iâr o'r rhywogaeth Gallus gallus sydd wedi cyrraedd aeddfedrwydd dodwy ac a gedwir ar gyfer cynhyrchu wyau na fwriedir iddynt ddeor;

[F2ystyr “iâr fwyta a fegir yn gonfensiynol” (“conventionally reared meat chicken”) yw anifail o'r rhywogaeth Gallus gallus a gedwir i gynhyrchu cig, ac eithrio—

(a)

un sydd ar ddaliad gyda llai na 500 anifail o'r fath neu gyda stoc bridio yn unig o anifeiliaid o'r fath;

(b)

un sydd ar ddeorfa;

(c)

un y gellir defnyddio'r term “Megir yn helaeth dan do (mewn cytiau)”, (“Extensive indoor (barn-reared)”), “Iâr fuarth” (“Free range”), “Iâr fuarth – dull traddodiadol” (“Traditional free range”) neu “Iâr fuarth – dull hollol rydd” (“Free range – total freedom”) o fewn ystyr pwynt (b), (c), (d) neu (e) o Atodiad V i Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 543/2008 sy'n gosod rheolau manwl ar gyfer cymhwyso Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1234/2007 parthed y safonau marchnata ar gyfer cig dofednod(2); neu

(ch)

un a fagwyd yn organig yn unol â Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 834/2007 ar gynhyrchu organig a labelu cynhyrchion organig ac sy'n dirymu Rheoliad (EEC) Rhif 2092/91(3);]

ystyr “llaesodr” (“litter”), mewn perthynas â ieir dodwy [F3ac ieir bwyta a fegir yn gonfensiynol], yw unrhyw ddefnydd hyfriw sy'n [F4galluogi'r adar hynny] i ddiwallu eu hanghenion etholegol;

ystyr “lle y gellir ei ddefnyddio” (“usable area”) [F5, mewn perthynas ag ieir sy'n dodwy,] yw lle a ddefnyddir gan ieir dodwy, nad yw'n cynnwys y lle a gymerir gan nyth, sydd â'i led yn 30 cm o leiaf a goleddf ei lawr heb fod yn fwy na 14% ac sy'n 45 cm o uchder o leiaf [F6, neu, mewn perthynas ag ieir bwyta a fegir yn gonfensiynol, unrhyw le dan laesodr y gall yr ieir gael ato ar unrhyw adeg];

ystyr “llo” (“calf”) yw anifail buchol hyd at chwe mis oed;

ystyr “mochyn” (“pig”) yw anifail o'r rywogaeth y mochyn o unrhyw oedran a gedwir ar gyfer bridio neu besgi;

ystyr “nyth” (“nest”) yw lle ar wahân ar gyfer dodwy wyau, sef lle na chaiff cydrannau ei lawr gynnwys rhwyllau gwifrog a all ddod i gysylltiad â'r adar, ar gyfer iâr unigol neu grwp o ieir;

mae i'r ymadrodd “person sy'n gyfrifol” am anifail yr ystyr a roddir i “person responsible” yn adran 3 o Ddeddf Lles Anifeiliaid 2006.

(2Mae i ymadrodd a ddefnyddir yn y Rheoliadau hyn, nas diffinnir yn y Rheoliadau hyn ac a ddefnyddir yn y Cyfarwyddebau canlynol, yr ystyr sydd iddo yn y Cyfarwyddebau hynny—

(a)mewn perthynas â moch, [F7Cyfarwyddeb 2008/120/EC sy’n gosod safonau gofynnol ar gyfer gwarchod moch]

[F8(aa)mewn perthynas ag ieir bwyta a fegir yn gonfensiynol, Cyfarwyddeb y Cyngor 2007/43/EC yn gosod rheolau gofynnol ar gyfer diogelu ieir a gedwir i gynhyrchu cig(4).]

(b)mewn perthynas â ieir dodwy, Cyfarwyddeb 99/74/EC(1); F9...

(c)mewn perthynas â lloi, [F10Cyfarwyddeb 2008/119/EC sy’n gosod safonau gofynnol ar gyfer gwarchod lloi].

(3Mae i ymadrodd a ddefnyddir yn rheoliad 4 neu Atodlen 1, nas diffinnir yn y Rheoliadau hyn ac sy'n ymddangos yng Nghyfarwyddeb 98/58/EC(5), yr un ystyr sydd iddo at ddibenion y Gyfarwyddeb honno.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I2Rhl. 2 mewn grym ar 24.10.2007, gweler rhl. 1

Anifeiliaid y mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys iddyntLL+C

3.—(1Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i anifeiliaid a ffermir yn unig.

(2Yn y Rheoliadau hyn, ystyr “anifail a ffermir” (“farmed animal”) yw anifail a fridiwyd neu a gedwir ar gyfer cynhyrchu bwyd, gwlân neu grwyn neu at ddibenion ffermio eraill, ond heb gynnwys—

(a)pysgod, ymlusgiaid neu amffibiaid;

(b)unrhyw anifail tra bo mewn cystadleuaeth, sioe neu ddigwyddiad neu weithgaredd diwylliannol neu chwaraeol, neu anifail a fwriedir yn unig i'w ddefnyddio ar gyfer hynny;

(c)anifail arbrofol neu anifail labordy; neu

(ch)anifail sy'n byw yn y gwyllt.

Gwybodaeth Cychwyn

I3Rhl. 3 mewn grym ar 24.10.2007, gweler rhl. 1

Dyletswyddau ar bersonau sy'n gyfrifol am anifeiliaid a ffermirLL+C

4.—(1Rhaid i berson sy'n gyfrifol am anifail a ffermir gymryd pob cam rhesymol i sicrhau bod yr amodau y mae'r anifail yn cael ei fridio neu ei gadw odanynt yn cydymffurfio ag Atodlen 1.

(2Wrth gydymffurfio â'r ddyletswydd ym mharagraff (1), rhaid i berson sy'n gyfrifol am anifail a ffermir roi sylw i'w—

(a)rhywogaeth;

(b)gradd ei datblygiad;

(c)ei addasiad a'i ddofiad; ac

(ch)ei anghenion seicolegol ac etholegol yn unol ag arferion da a gwybodaeth wyddonol.

Gwybodaeth Cychwyn

I4Rhl. 4 mewn grym ar 24.10.2007, gweler rhl. 1

Dyletswyddau ychwanegol ar bersonau sy'n gyfrifol am ddofednod, ieir dodwy, lloi, gwartheg, moch neu gwningodLL+C

5.—(1Rhaid i berson sy'n gyfrifol am—

(a)dofednod (ac eithrio'r rheini a gedwir yn y systemau cyfeirir atynt yn Atodlenni 2 i 4 [F11ac ieir bwyta a fegir yn gonfensiynol]) a gedwir mewn adeilad sicrhau y cânt eu cadw ar laesodr, neu y gallant bob amser fynd at laesodr sydd wedi ei gynnal yn dda, neu fan sydd wedi ei ddraenio'n dda ar gyfer gorffwys;

(b)ieir dodwy a gedwir mewn sefydliadau a chanddynt 350 neu fwy o ieir gydymffurfio ag Atodlenni 2, 3, 4 a 5, fel y bo'n gymwys;

[F12(ba)ieir bwyta a fegir yn gonfensiynol gydymffurfio â Rhan 2 o Atodlen 5A;]

(c)lloi a gaethiwir ar gyfer eu magu a'u pesgi gydymffurfio ag Atodlen 6;

(ch)gwartheg gydymffurfio ag Atodlen 7;

(d)moch, yn ddarostyngedig i baragraff (2), gydymffurfio â Rhan 2 o Atodlen 8 a phan fo'n gymwys, â gofynion Rhannau 3, 4, 5 a 6 o Atodlen 8; neu

(dd)cwningod gydymffurfio ag Atodlen 9.

(2Mae paragraffau 12, 28, 29 a 30 o Atodlen 8 yn gymwys i bob daliad yr adeiledir o'r newydd, yr ailadeiledir neu y dechreuir ei ddefnyddio am y tro cyntaf ar neu ar ôl 1 Ionawr 2003, ond yn achos pob daliad arall nid yw'r paragraffau hynny yn gymwys tan 1 Ionawr 2013.

(3Mae Rhan 1 o Atodlen 8 yn effeithiol.

[F13(4) Mae Rhan 1 o Atodlen 5A yn effeithiol.]

[F14Monitro a gwaith dilynol yn y lladd-dyLL+C

5A.  Mae Rhan 3 o Atodlen 5A yn effeithiol.]

Codau YmarferLL+C

6.—(1Rhaid i berson sy'n gyfrifol am anifail a ffermir —

(a)peidio â gofalu am yr anifail onid yw'n gyfarwydd â'r cod ymarfer perthnasol a bod y cod ar gael iddo tra'n gofalu am yr anifail; a

(b)cymryd pob cam rhesymol i sicrhau nad yw person a gyflogir ganddo, neu a gymerir i weithio ganddo, yn gofalu am yr anifail oni bai bod y person arall hwnnw—

(i)yn gyfarwydd ag unrhyw god ymarfer perthnasol;

(ii)bod y cod ar gael iddo tra'n gofalu am yr anifail; a

(iii)ei fod wedi cael hyfforddiant ac arweiniad ar y cod hwnnw.

(2Yn yr adran hon, ystyr “cod ymarfer perthnasol” (“relevant code of practice”) yw cod ymarfer a gyhoeddwyd o dan adran 14 o Ddeddf Lles Anifeiliaid 2006 neu god ymarfer statudol a gyhoeddwyd o dan adran 3 o Ddeddf Amaethyddiaeth (Darpariaethau Amrywiol) 1968(6) mewn perthynas â'r rhywogaeth benodol o anifeiliaid a ffermir y mae'r person yn gofalu amdanynt.

Gwybodaeth Cychwyn

I6Rhl. 6 mewn grym ar 24.10.2007, gweler rhl. 1

TramgwyddauLL+C

7. [F15(1)] Mae person yn cyflawni tramgwydd os yw, heb awdurdod neu esgus cyfreithlon —

(a)yn torri neu'n peidio â chydymffurfio â dyletswydd yn rheoliad 4, 5 neu 6;

(b)yn rhoi unrhyw eitem mewn cofnod neu'n rhoi unrhyw wybodaeth at ddibenion y Rheoliadau hyn y mae'n gwybod ei bod yn anwir mewn unrhyw fanylyn o bwys neu, at y dibenion hynny, yn gwneud datganiad neu'n rhoi gwybodaeth yn ddi-hid a'r datganiad hwnnw neu'r wybodaeth honno'n anwir mewn unrhyw fanylyn o bwys; neu

(c)yn achosi neu'n caniatáu unrhyw un o'r uchod.

[F16(2) Mae gweithredydd busnes bwyd sydd, heb awdurdod cyfreithiol neu esgus cyfreithiol, yn methu â chydymffurfio â dyletswydd ym mharagraff 14(2) o Atodlen 5A, yn cyflawni tramgwydd.]

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I7Rhl. 7 mewn grym ar 24.10.2007, gweler rhl. 1

ErlyniadauLL+C

8.—(1Caiff awdurdod lleol ddwyn achos i erlyn am dramgwydd o dan y Rheoliadau hyn.

(2Caiff Gweinidogion Cymru roi cyfarwyddyd mai hwy, ac nid yr awdurdod lleol, fydd yn dwyn achos i erlyn am dramgwydd o dan y Rheoliadau hyn mewn perthynas ag achosion o ddisgrifiad penodol neu unrhyw achos penodol.

Gwybodaeth Cychwyn

I8Rhl. 8 mewn grym ar 24.10.2007, gweler rhl. 1

CosbauLL+C

9.—(1Bydd person sy'n euog o dramgwydd o dan reoliad 7 yn agored, o'i gollfarnu'n ddiannod—

(a)i garchar am gyfnod heb fod yn hwy na 51 wythnos;

(b)i ddirwy heb fod yn fwy na lefel 4 ar y raddfa safonol; neu

(c)i'r cyfnod o garchar y cyfeirir ato yn is-baragraff (a) yn ogystal â'r ddirwy y cyfeirir ati yn is-baragraff (b).

(2Mewn perthynas â thramgwydd a gyflawnwyd cyn cychwyn adran 281(5) o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol 2003(7), rhaid deall y cyfeiriad ym mharagraff (1)(a) at 51 wythnos fel cyfeiriad at 6 mis.

Gwybodaeth Cychwyn

I9Rhl. 9 mewn grym ar 24.10.2007, gweler rhl. 1

Elin Jones

Y Gweinidog dros Faterion Gwledig, un o Weinidogion Cymru

23 Hydref 2007