xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
Offerynnau Statudol Cymru
TAI, CYMRU
Gwnaed
12 Tachwedd 2007
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
13 Tachwedd 2007
Yn dod i rym
5 Rhagfyr 2007
1.—(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Tai Amlfeddiannaeth (Blociau Fflatiau Penodol) (Addasiadau i Ddeddf Tai 2004 a Darpariaethau Trosiannol ar gyfer HMOs adran 257) (Cymru) 2007 a deuant i rym ar 5 Rhagfyr 2007.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i HMOs adran 257(3) yng Nghymru.
2. Mae darpariaethau Rhan 2 (trwyddedu tai amlfeddiannaeth) o Ddeddf Tai 2004 (“y Ddeddf”) yn cael effaith mewn perthynas ag HMO adran 257, yn ddarostyngedig i'r addasiadau a bennir yn rheoliadau 3 i 10.
3. Yn adran 61 (gofyniad i HMOs gael eu trwyddedu), ar ôl is-adran (6) ychwaneger—
“(7) In this Part the “person having control” in respect of a section 257 HMO is—
(a)in relation to an HMO in respect of which no person has been granted a long lease of a flat within the HMO, the person who receives the rack rent for the HMO, whether on his own account or as an agent or trustee of another person;
(b)in relation to an HMO in respect of which a person has been granted a long lease of a flat within the HMO, the person who falls within the first paragraph of subsection (8) to apply, taking paragraph (a) of that subsection first, paragraph (b) next, and so on.
(8) A person falls within this subsection if the person—
(a)has acquired the right to manage the HMO under Part 2 of the Commonhold and Leasehold Reform Act 2002(4);
(b)has been appointed by the Leasehold Valuation Tribunal under section 24 of the Landlord and Tenant Act 1987(5);
(c)is the person who is the lessee of the whole of the HMO under a lease between him and a head lessor or the freeholder, or is the freeholder of the HMO; or
(d)has been appointed to manage the HMO by the freeholder, by a head lessor of the whole of the HMO, or by a person who has acquired the right to manage the HMO under Part 2 of the Commonhold and Leasehold Reform Act 2002.
(9) In this section “long lease” means a lease that—
(a)is granted for a term certain exceeding 21 years, whether or not it is (or may become terminable) before the end of that term; or
(b)is for a term fixed by law under a grant with a covenant or obligation for perpetual renewal, other than a lease by sub-demise from one which is not a long lease,
and neither the lease nor any superior lease contains a provision enabling the lessor or superior lessor to terminate the tenancy, other than by forfeiture, before the end of that term.”.
4. Yn adran 64 (rhoi neu wrthod trwydded), hepgorer is-adran (3)(a) ac yn lle is-adran (4) rhodder—
“(4) When deciding whether the proposed licence holder is a fit and proper person to be the licence holder the local housing authority must take into consideration whether that person has control of the HMO and the extent to which he has control over it.”.
5. Yn adran 65 (profion ynghylch addasrwydd at amlfeddiannaeth)—
(a)yn lle is-adran (1) rhodder—
“(1) The local housing authority cannot be satisfied that the house is reasonably suitable for occupation as a section 257 HMO if they consider that—
(a)the common parts of the HMO; or
(b)any flat within the HMO other than a flat let on a long lease,
fail to meet prescribed standards.”(6);
(b)ar ôl is-adran (1) ychwaneger—
“(1A) Where a house becomes a section 257 HMO as a result of conversion works carried out on the house after 5 December 2007, any flat within the HMO in respect of which a long lease is granted after that date shall be treated for the purpose of subsection (1) as though no such lease has been granted unless—
(a)the local housing authority are satisfied that the appropriate building standards have been met in relation to that flat; or
(b)the local housing authority are satisfied that the lease has been granted by a person other than the freeholder or head lessor of the whole of the HMO.”;
(c)hepgorer is-adran (2);
(ch)ym mharagraff (a) o is-adran (4) hepgorer “number,”; a
(d)ar ôl is-adran (4) ychwaneger—
“(5) In this section “long lease” has the same meaning as in section 61(9).”.
6. Yn adran 67 (amodau'r drwydded) ar ôl is-adran (1), mewnosoder—
“(1A) For the purposes of section 67(1) a licence may not include a condition that regulates the use, occupation or contents of any part of an HMO unless the condition relates to a matter over which it would be reasonable to expect the licence holder, in all the circumstances, to exercise control.”.
7. Yn adran 73 (canlyniadau eraill rhedeg HMOs sydd heb eu trwyddedu: gorchmynion ad-dalu rhent), yn is-adran (10)—
(a)yn lle'r diffiniad o “the appropriate person”, rhodder—
““the appropriate person”, in relation to any payment of housing benefit or periodical payments payable in connection with occupation of a part of a section 257 HMO means the person who at the time when such benefit or payments were made was the person—
having control of the HMO; and
entitled to receive on his own account periodical payments in connection with such occupation of the part of the HMO in respect of which the payment or housing benefit relates.”; a
(b)ar ôl y diffiniad o “periodical payments” mewnosoder—
““rent” does not include ground rent, service charges or insurance charges paid under the terms of a lease in respect of a flat within a section 257 HMO.”.
8. Yn adran 75 (canlyniadau eraill rhedeg HMOs sydd heb eu trwyddedu: cyfyngiadau ar derfynu tenantiaethau)—
(a)yn lle is-adran (1) rhodder—
“(1) No section 21 notice may be given in relation to a shorthold tenancy of a flat in an unlicensed section 257 HMO by the person having control of the HMO so long as it remains such an HMO.”; a
(b)ar ôl is-adran (2), mewnosoder—
“(3) Subsection (1) does not affect the right of any person (other than the person having control of a section 257 HMO) to serve a section 21 notice in respect of a shorthold tenancy of a flat in such an HMO.”.
9. Yn adran 78 (mynegai o ymadroddion sydd wedi'u diffinio: Rhan 2) yn y cofnod sy'n ymwneud â pherson sydd â rheolaeth, yn lle'r cyfeiriad at adran 263(1) a (2), rhodder cyfeiriad at adran 61(7).
10. Yn Atodlen 4—
(a)ym mharagraff (1) ar ôl “conditions” mewnosoder “but in the case of a licence under Part 2, this is subject to sub-paragraph (6)”;
(b)ar ôl is-baragraff (5), mewnosoder—
“(6) The conditions contained in sub-paragraphs (2) to (5) apply only in relation to any part of a section 257 HMO over which the licence holder exercises control, or over which it would be reasonable to expect that he would exercise control.”.
11. Mae adran 139 o'r Ddeddf (cyflwyno hysbysiadau gorlenwi) yn cael effaith mewn perthynas ag HMO adran 257 fel petai'r canlynol wedi'i fewnosod ar ddiwedd paragraff 1(b)—
“(1A) This Chapter also applies, in the case of a section 257 HMO which is required to be licensed under Part 2, to any flat within that HMO in respect of which a long lease has been granted and over which the licence holder cannot reasonably be expected to exercise control.
(1B) In subsection (1A) “long lease” means a lease that—
(a)is granted for a term certain exceeding 21 years, whether or not it is (or may become terminable) before the end of that term; or
(b)is for a term fixed by law under a grant with a covenant or obligation for perpetual renewal, other than a lease by sub-demise from one which is not a long lease,
and neither the lease nor any superior lease contains a provision enabling the lessor or superior lessor to terminate the tenancy, other than by forfeiture, before the end of that term.”.
12.—(1) Mae adran 263 o'r Ddeddf (ystyr “person having control” a “person managing” etc) yn cael effaith fel petai'r canlynol wedi'i fewnosod ar ôl is-adran (1)—
“(1A) Subsection (1) does not apply to any reference in Parts 2 or 4 to “person having control” where the reference relates to a person having control of a section 257 HMO.
(1B) Any reference in Part 4 to a person having control in respect of a section 257 HMO has the same meaning as in section 61(7).”.
13.—(1) Yn ystod y cyfnod sy'n dechrau ar 5 Rhagfyr 2007(7) ac sy'n dod i ben ar 5 Rhagfyr 2008, ni fydd diddymu adrannau 346, 346A, 346B, 347, 348, 348A i 348G, 350, 351 a 395 i 397 o Ddeddf Tai 1985(8) (“Deddf 1985”) yn cael effaith mewn perthynas ag unrhyw gynllun cofrestru—
(a)sy'n cydymffurfio â chynllun model a baratowyd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 346B o Ddeddf 1985; neu
(b)a gadarnhawyd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru cyn 30 Mehefin 2006,
i'r graddau y mae'r cynllun hwnnw'n gymwys i floc fflatiau perthnasol a addaswyd ac sydd wedi'i gofrestru neu y mae'n ofynnol iddo gael ei gofrestru o dan y cynllun hwnnw.
(2) Yn ystod y cyfnod sy'n dechrau ar 5 Rhagfyr 2007 ac sy'n dod i ben ar 5 Rhagfyr 2008, caiff y ffi ganiataol uchaf sy'n daladwy adeg cofrestru, neu ailgofrestru, bloc fflatiau perthnasol a addaswyd ei chyfrifo fel un pumed o'r ffi y gallai'r awdurdod tai lleol sy'n gweithredu'r cynllun cofrestru ei chodi.
(3) Yn ystod y cyfnod sy'n dechrau ar 5 Rhagfyr 2007 ac sy'n dod i ben ar 5 Rhagfyr 2008—
(a)ni fydd diddymu adrannau 352, 352A a 353 o Ddeddf 1985, ac Atodlen 10 iddi, yn cael effaith mewn perthynas ag unrhyw hysbysiad a gyflwynir cyn 5 Rhagfyr 2008 o dan adran 352(1) o'r Ddeddf honno mewn perthynas â bloc fflatiau perthnasol a addaswyd; a
(b)ni fydd diddymu adrannau 354, 355, 356, a 395 i 397 o Ddeddf 1985 yn cael effaith mewn perthynas â chyflawni cyn 5 Rhagfyr 2008 unrhyw dramgwydd ynghylch bloc fflatiau perthnasol a addaswyd o dan—
(i)is-adran (2) o adran 355 o'r Ddeddf honno; neu
(ii)is-adran (2) o adran 356 o'r Ddeddf honno.
(4) O ran apêl a ddygir o dan is-adran (2) o adran 357 o Ddeddf 1985 cyn 5 Rhagfyr 2007, ni fydd penderfyniad llys i amrywio, neu i beidio â dirymu, cyfarwyddyd o dan adran 354 o'r Ddeddf honno yn cael effaith.
(5) Yn ystod y cyfnod sy'n dechrau ar 5 Rhagfyr 2007 ac sy'n dod i ben ar 5 Rhagfyr 2008—
(a)ni fydd diddymu adrannau 369 a 395 i 397 o Ddeddf 1985 yn cael effaith mewn perthynas â chyflawni cyn 5 Rhagfyr 2007 unrhyw dramgwydd o dan reoliadau a wnaed o dan adran 369 o'r Ddeddf honno sy'n dramgwydd ynghylch bloc fflatiau perthnasol a addaswyd;
(b)ni fydd diddymu adran 372 o Ddeddf 1985 yn cael effaith mewn perthynas ag unrhyw hysbysiad a gyflwynwyd o dan is-adran (1) o'r adran honno ynghylch bloc fflatiau perthnasol a addaswyd cyn y dyddiad hwnnw; ac
(c)ni fydd diddymu adran 373 o Ddeddf 1985 yn cael effaith mewn perthynas ag apêl a wnaed cyn 5 Rhagfyr 2007 o dan is-adran (1) o'r adran honno ynghylch bloc fflatiau perthnasol a addaswyd.
(6) Yn ystod y cyfnod sy'n dechrau ar 5 Rhagfyr 2007 ac sy'n dod i ben ar 5 Rhagfyr 2009 ni fydd diddymu adrannau 375 i 377A a 378 o Ddeddf 1985, ac Atodlen 10 iddi, yn cael effaith mewn perthynas ag unrhyw hysbysiad a gyflwynwyd cyn 5 Rhagfyr 2007 o dan adran 352 neu 372 o'r Ddeddf honno ynghylch bloc fflatiau perthnasol a addaswyd.
(7) Yn y rheoliad hon, ystyr “bloc fflatiau perthnasol a addaswyd” (“relevant converted block of flats”) yw adeilad neu ran o'r adeilad sydd—
(a)yn floc fflatiau a addaswyd y mae adran 257 o Ddeddf 2004 yn gymwys iddo; a
(b)ty amlfeddiannaeth at ddibenion Rhan 11 o Ddeddf 1985.
Jocelyn Davies
O dan awdurdod y Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai, un o Weinidogion Cymru
12 Tachwedd 2007
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn yn addasu Rhan 2 (trwyddedu tai amlfeddiannaeth) a Rhan 4 (darpariaethau rheoli ychwanegol mewn perthynas â lletyau preswyl) o Ddeddf Tai 2004 (“y Ddeddf”) ac adran 263 o'r Ddeddf ym maes ei gweithrediad at ddibenion y Rhannau hynny, mewn perthynas â thy amlfeddiannaeth (HMO) y mae adran 257 o'r Ddeddf yn gymwys iddo (“HMO adran 257”).
Mae adran 257 o'r Ddeddf yn gymwys i adeilad neu ran o adeilad a droswyd yn fflatiau hunangynhwysol, ac sydd wedi'u ffurfio o'r fflatiau hynny, os nad oedd y gwaith adeiladu a wnaed mewn cysylltiad â'r addasu yn cydymffurfio â safonau adeiladu priodol a'u bod yn dal i beidio â chydymffurfio â hwy, a bod llai na dwy ran o dair o'r fflatiau hunangynhwysol wedi'u perchen-feddiannu. Mae fflat wedi'i berchen-feddiannu os yw wedi'i feddiannu gan berson y mae les wedi'i rhoi iddo am gyfnod o fwy nag 21 o flynyddoedd neu gan berson y mae ganddo'r ystad rydd-ddaliol yn y bloc fflatiau a addaswyd, neu gan aelod o aelwyd person o fewn y naill neu'r llall o'r ddau ddisgrifiad hwnnw.
Mae'r Rheoliadau yn addasu, at ddibenion Rhan 2 o'r Ddeddf, mewn cysylltiad ag HMO adran 257—
y diffiniad o “person having control” (rheoliadau 3 a 9);
y materion y mae'n rhaid i awdurdod tai lleol fodloni ei hun amdanynt wrth benderfynu a ddylid rhoi trwydded neu beidio (rheoliadau 4 a 5);
amodau'r drwydded (rheoliadau 6 ac 11);
y person y caniateir i orchymyn ad-dalu rhent gael ei wneud mewn cysylltiad ag ef (rheoliad 7);
yr amgylchiadau y caniateir i hysbysiad o dan adran 21 o Ddeddf Tai 1988 gael ei gyflwyno odanynt (rheoliad 8).
Mae'r rheoliadau hyn yn addasu hefyd adran 139 o'r Ddeddf mewn cysylltiad â chyflwyno hysbysiadau gorlenwi mewn cysylltiad ag HMOs adran 257(rheoliad 11).
Mae'r Rheoliadau yn gwneud darpariaethau trosiannol hefyd mewn cysylltiad ag HMOs adran 257 a gofrestrwyd o'r blaen mewn cynllun cofrestru o dan Ran 11 o Ddeddf Tai 1985 (rheoliad 13). Diddymwyd Rhan 11 o'r Ddeddf gan Orchymyn Deddf Tai 2004 (Cychwyn Rhif 3 a Darpariaethau Trosiannol ac Arbedion) (Cymru) 2006 (O.S. 2006/1535) (Cy. 152) ar 16 Mehefin 2006 mewn cysylltiad â phob HMO ac eithrio HMOs adran 257. Darparodd y Gorchymyn hwnnw y byddai diddymiad Rhan 11 o Ddeddf Tai 1985 yn dod yn weithredol mewn cysylltiad ag adeilad neu ran o adeilad sy'n HMO adran 257 ac yn dy amlfeddiannaeth at ddibenion Rhan 11 o Ddeddf Tai 1985 ar y dyddiad y daw rheoliadau a wnaed o dan adran 61(5) i rym.
Nid oes dim yn y Rheoliadau hyn yn effeithio ar swyddogaethau trwyddedu awdurdod lleol o dan Ran 2 o'r Ddeddf mewn perthynas â fflat sydd wedi'i leoli o fewn HMO adran 257.
Lluniwyd asesiad rheoleiddiol llawn o effaith yr offerynnau statudol i ategu darpariaethau'r Ddeddf mewn perthynas â thrwyddedu HMOs a thrwyddedu dethol lletyau preifat eraill a rentir a gorchmynion rheoli (Rhannau 2, 3 a Phennod 1 o Ran 4 o'r Ddeddf) yn Chwefror 2006 ac mae ar gael o Uned y Sector Preifat, Y Gyfarwyddiaeth Dai, Llywodraeth Cynulliad Cymru, Swyddfa Merthyr Tudful, Rhyd-y-car, Merthyr Tudful, CF48 1UZ, ffôn 01685 729193, neu anfoner neges e-bost at huw.mclean@wales.gsi.gov.uk.
2004 p.34. Mae'r pwerau a roddwyd gan adrannau 61(5), 146(3) a 250(2) o'r Ddeddf yn arferadwy, o ran Cymru, gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru. Gweler y diffiniad o'r “appropriate national authority” yn adran 261(1) o Ddeddf 2004.
Yn rhinwedd paragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32) mae'r swyddogaethau a oedd gynt yn arferadwy gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn arferadwy bellach gan Weinidogion Cymru.
I gael ystyr “section 257 HMO” gweler adrannau 61(5) a 146(4) o'r Ddeddf. I gael ystyr “HMO” gweler adrannau 254 i 259 o'r Ddeddf.
1987 p.31. Mae adran 24 wedi'i diwygio gan Ddeddf Tai 1996 (p. 31) a Deddf Cyfunddaliad a Diwygio Cyfraith Lesddaliad 2002.
Gweler Atodlen 3 i O.S. 2006/1715 (Cy.177) sy'n rhagnodi safonau o dan adran 65(4).
O dan baragraff 2(1) o Ran 2 o'r Atodlen i Ddeddf Tai 2004 (Cychwyn Rhif 3 a Darpariaethau ac Arbedion Trosiannol) (Cymru) 2006 (O.S. 2006/1535 (Cy. 152)), yn ystod y cyfnod sy'n dechrau ar 16 Mehefin 2006 ac sy'n dod i ben ar y dyddiad y mae rheoliadau a wnaed gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 61(5) o'r Ddeddf yn dod i rym, ni chafodd diddymiad adrannau penodol a oedd wedi'u cynnwys yn Rhan 11 o'r Ddeddf Tai, y rhoddwyd effaith iddo gan y Gorchymyn hwnnw, effaith mewn perthynas â “bloc fflatiau perthnasol a addaswyd”. Mae “bloc fflatiau perthnasol a addaswyd” wedi'i ddiffinio yn y Gorchymyn hwnnw fel adeilad neu ran o'r adeilad sy'n floc fflatiau a addaswyd ac y mae adran 257 o Ddeddf 2004 yn gymwys iddo ac yn dy amlfeddiannaeth at ddibenion Rhan 11 o Ddeddf Tai 1985. Mae'r rheoliad hwn yn gwneud darpariaeth drosiannol bellach mewn perthynas â'r cyfryw floc fflatiau perthnasol a addaswyd.