xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Offerynnau Statudol Cymru

2007 Rhif 3252 (Cy.287)

BWYD, CYMRU

Rheoliadau Deunyddiau ac Eitemau mewn Cysylltiad â Bwyd (Cymru) 2007

Gwnaed

13 Tachwedd 2007

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

14 Tachwedd 2007

Yn dod i rym

at ddibenion rheoliadau 5, 7 a 14(3)

1 Awst 2008

at bob diben arall

6 Rhagfyr 2007

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 16(2), 17(1) a (2), 26(1)(a), (2)(a) a (3), a 48(1) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990(1), fel y'i darllenir gyda pharagraff 1A o Atodlen 2 i Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972(2).

Mae'r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth ar gyfer pwrpas a grybwyllir yn adran 2(2) o Ddeddf 1972, ac mae'n ymddangos i Weinidogion Cymru ei bod yn fuddiol i rai cyfeiriadau at un o offerynnau'r Gymuned, neu at Atodiad i un o offerynnau'r Gymuned, fel y'i nodir yn rheoliad 2(4), gael eu dehongli fel cyfeiriadau at yr offeryn neu'r Atodiad hwnnw fel y caiff ei ddiwygio o bryd i'w gilydd.

Yn unol ag adran 48(4A) o Ddeddf 1990 maent wedi rhoi sylw i gyngor perthnasol a roddwyd gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd.

Fel sy'n ofynnol gan Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor, sydd yn pennu egwyddorion cyffredinol a gofynion cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop, ac yn pennu gweithdrefnau mewn materion diogelwch bwyd(3), cynhaliwyd ymgynghori agored a thryloyw â'r cyhoedd yn ystod y broses o baratoi ac arfarnu'r Rheoliadau hyn.

RHAN 1Rhagarweiniol

Teitl, cymhwyso a chychwyn

1.  Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Deunyddiau ac Eitemau mewn Cysylltiad â Bwyd (Cymru) 2007. Maent yn gymwys o ran Cymru a deuant i rym —

(a)at ddibenion rheoliadau 5, 7 a 14(3), ar 1af Awst 2008; a

(b)at bob diben arall, ar 6 Rhagfyr 2007.

Dehongli

2.—(1Yn y Rheoliadau hyn —

ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Diogelwch Bwyd 1990;

ystyr “Rheoliadau 2006” (“the 2006 Regulations”) yw Rheoliadau Deunyddiau ac Eitemau Plastig mewn Cysylltiad â Bwyd (Cymru) 2006(4);

ystyr “Cyfarwyddeb 2002/72/EC” (“Directive 2002/72/EC”) yw Cyfarwyddeb y Comisiwn 2002/72/EC sy'n ymwneud â deunyddiau ac eitemau plastig y bwriedir iddynt ddod i gysylltiad â bwydydd(5);

ystyr “Cyfarwyddeb 2007/42/EC” (“Directive 2007/42/EC”) yw Cyfarwyddeb y Comisiwn 2007/42/EC, sy'n ymwneud â deunyddiau ac eitemau sydd wedi eu gwneud o gaen cellwlos atgynyrchiedig ac y bwriedir iddynt ddod i gysylltiad â bwydydd(6);

ystyr “Rheoliad 1935/2004” (“Regulation 1935/2004”) yw Rheoliad (EC) Rhif 1935/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor, sy'n ymwneud â deunyddiau ac eitemau y bwriedir iddynt ddod i gysylltiad â bwyd, ac sy'n diddymu Cyfarwyddebau 80/590/EEC ac 89/109/EEC(7);

ystyr “Rheoliad 2023/2006” (“Regulation 2023/2006”) yw Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 2023/2006, sy'n ymwneud ag arfer gweithgynhyrchu da ar gyfer deunyddiau ac eitemau y bwriedir iddynt ddod i gysylltiad â bwyd(8);

mae i “awdurdod bwyd” (“food authority”) yr un ystyr â “food authority” yn adran 5(1A) o'r Ddeddf, ond nid yw'n cynnwys awdurdodau iechyd porthladd;

ystyr “awdurdod iechyd porthladd” (“port health authority”), mewn perthynas ag unrhyw ardal iechyd porthladd a sefydlwyd drwy orchymyn o dan adran 2(3) o Ddeddf Iechyd Cyhoeddus (Rheoli Afiechydon) 1984, yw awdurdod iechyd porthladd ar gyfer y cylch hwnnw a sefydlwyd drwy orchymyn o dan adran 2(4) o'r Ddeddf honno;

ystyr “caen cellwlos atgynyrchiedig” (“regenerated cellulose film”) yw deunydd ar ffurf dalen denau a geir o gellwlos puredig sydd wedi ei ddeillio o bren neu gotwm nas ailgylchwyd, gan neu heb ychwanegu sylweddau addas, naill ai mewn crynswth neu ar un neu'r ddau o'r wynebau; ond nid yw'n cynnwys casinau synthetig sydd wedi eu gwneud o gellwlos atgynyrchiedig;

mae “gwerthu” (“sell”) yn cynnwys cynnig neu roi nwydd ar ddangos i'w werthu, neu fod mewn meddiant arno er mwyn ei werthu, a dylid dehongli “gwerthiant” a “gwerthwyd” yn unol â hynny.

ystyr “mewnforio” (“import”) yw mewnforio, yn ystod busnes, o rywle heblaw Aelod-wladwriaeth ;

mae “paratoad” (“preparation”) yn cynnwys gweithgynhyrchu ac unrhyw ffurf ar driniaeth neu broses, a dylid dehongli “paratoi” (“prepare”) yn unol â hynny;

ystyr “plastigion” (“plastics”) yw'r deunyddiau ac eitemau hynny y mae Cyfarwyddeb 2002/72/EC yn gymwys iddynt;

ystyr “swyddog awdurdodedig” (“authorised officer”) yw unrhyw berson (boed yn un o swyddogion yr awdurdod sydd â chyfrifoldeb am weithredu a gorfodi o dan reoliad 14, ai peidio) sydd wedi ei awdurdodi'n ysgrifenedig gan yr awdurdod hwnnw i weithredu mewn materion sydd yn codi o dan y Rheoliadau hyn;

(2Ac eithrio yn rheoliadau 5 a 7, mae unrhyw gyfeiriad yn y Rheoliadau hyn at Erthygl rifedig yn gyfeiriad at yr Erthygl sydd yn dwyn y rhif hwnnw yn Rheoliad 1935/2004.

(3Mae i ymadroddion a ddefnyddir yn y Rheoliadau hyn ac yn Rheoliad 1935/2004 neu Reoliad 2023/2006 yr un ystyron yn y Rheoliadau hyn ag sydd iddynt yn y Rheoliadau hynny.

(4Mae unrhyw gyfeiriad at Reoliad 2023/2006 neu at Atodiad i Gyfarwyddeb 2002/72/EC neu i Gyfarwyddeb 2007/42/EC yn gyfeiriad at y Rheoliad hwnnw neu'r Atodiad hwnnw fel y caiff ei ddiwygio o bryd i'w gilydd.

Cwmpas

3.  Nid yw darpariaethau'r Rheoliadau hyn yn gymwys i'r deunyddiau a'r eitemau hynny sydd wedi eu nodi yn is-baragraffau (a), (b) ac (c) o Erthygl 1(3).

RHAN 2Gofynion Cyffredinol ar gyfer Deunyddiau ac Eitemau

Gorfodi Rheoliad 1935/2004

4.  Yn ddarostyngedig i ddarpariaethau Erthygl 27 (trefniadau trosiannol), bydd unrhyw berson sydd yn torri unrhyw un o'r darpariaethau canlynol o Reoliad 1935/2004 yn euog o drosedd —

(a)Erthygl 3 (gofynion cyffredinol);

(b)Erthygl 4 (gofynion arbennig ar gyfer deunyddiau ac eitemau gweithredol a deallus);

(c)Erthygl 11(4) a (5) (darpariaethau o ran awdurdodiad y Gymuned);

(ch)Erthygl 15(1), (2), (3), (4), (7) ac (8) (labelu);

(d)Erthygl 16(1) (datganiad o gydymffurfiad);

(dd)Erthygl 17(2) (y gallu i olrhain).

Gorfodi Rheoliad 2023/2006

5.  Mae unrhyw berson sydd yn methu â chydymffurfio â gofynion Erthygl 4 (cydymffurfiad ag arfer gweithgynhyrchu da) o Reoliad 2023/2006 yn euog o drosedd.

Awdurdodau cymwys at ddibenion Rheoliad 1935/2004

6.  Y cyrff canlynol sydd wedi eu dynodi'n awdurdodau cymwys at ddibenion darpariaethau Rheoliad 1935/2004, fel y nodir isod —

(a)mewn cysylltiad ag Erthyglau 9 a 13, yr Asiantaeth Safonau Bwyd;

(b)mewn cysylltiad ag Erthyglau 16(1) a 17(2), yr Asiantaeth Safonau Bwyd a'r awdurdod sydd â chyfrifoldeb am orfodi yn unol â rheoliad 14(1).

Awdurdod cymwys at ddibenion Rheoliad 2023/2006

7.  Yr awdurdod cymwys at ddibenion Erthygl 6(2) a 7(3) o Reoliad 2023/2006 yw pob awdurdod bwyd oddi mewn i'w ardal.

RHAN 3Gofynion ar gyfer Finyl Clorid

Terfynau, a therfynau ymfudo

8.—(1Rhaid i ddeunyddiau ac eitemau sy'n cael eu gweithgynhyrchu â pholymerau a chydbolymerau finyl clorid —

(a)peidio â chynnwys monomer finyl clorid mewn maint sydd yn fwy nag 1 miligram fesul cilogram o'r deunydd neu'r eitem fel y caiff ei fesur yn ôl y dull dadansoddi a nodir yn rheoliad 9(1); a

(b)bod wedi eu gweithgynhyrchu yn y fath fodd ag i beidio â throsglwyddo i fwydydd y maent mewn cysylltiad â hwy unrhyw faint o finyl clorid sydd yn fwy na 0.01 miligram o finyl clorid fesul cilogram o fwyd fel y caiff ei fesur yn ôl y dull dadansoddi a nodir yn rheoliad 9(2).

(2Ni chaiff unrhyw berson

(a)gwerthu;

(b)mewnforio; neu

(c)defnyddio, yn ystod busnes ac mewn cysylltiad â storio, paratoi, pecynnu, gwerthu neu arlwyo bwyd,

unrhyw ddeunydd neu eitem o'r fath nad yw'n cydymffurfio â pharagraff (1).

Dulliau Dadansoddi

9.—(1Y dull a ddefnyddir wrth ddadansoddi unrhyw sampl i bwrpas canfod faint o fonomer finyl clorid sydd yn bresennol yn y deunydd neu eitem, er mwyn dyfarnu a yw'n cydymffurfio â rheoliad 8(1)(a), yw'r dull a nodir yn yr Atodiad i Gyfarwyddeb y Comisiwn 80/766/EEC (sydd yn pennu dull y Gymuned o ddadansoddi er mwyn rheoli'n swyddogol lefel y monomer finyl clorid mewn deunyddiau ac eitemau y bwriedir iddynt ddod i gysylltiad â bwydydd)(9).

(2Y dull a ddefnyddir wrth ddadansoddi unrhyw fwyd i bwrpas canfod faint o finyl clorid sydd yn bresennol yn y bwyd, er mwyn dyfarnu a yw deunydd neu eitem sydd mewn cysylltiad â'r bwyd, neu sydd wedi bod mewn cysylltiad â'r bwyd, yn cydymffurfio â rheoliad 8(1)(b), yw'r dull a nodir yn yr Atodiad i Gyfarwyddeb y Comisiwn 81/432/EEC (sydd yn pennu dull y Gymuned o ddadansoddi er mwyn rheoli'n swyddogol y finyl clorid a ryddheir i fwydydd gan ddeunyddiau ac eitemau)(10).

RHAN 4Gofynion ar gyfer Caen Cellwlos Atgynyrchiedig

Rheolaethau a therfynau

10.—(1Mae'r Rhan hon yn gymwys i gaen cellwlos atgynyrchiedig sydd —

(a)yn gynnyrch gorffenedig ynddo'i hun; neu

(b)yn rhan o gynnyrch gorffenedig sydd yn cynnwys deunyddiau eraill,

ac y bwriedir iddo ddod i gysylltiad â bwyd, neu sy'n dod i gysylltiad â bwyd drwy gael ei ddefnyddio i'r pwrpas hwnnw.

(2Ac eithrio ym mharagraff (4), mae unrhyw gyfeiriad yn y rheoliad hwn at Atodiad II yn gyfeiriad at Atodiad II i Gyfarwyddeb 2007/42/EC.

(3Yn ddarostyngedig i baragraff (5), ni chaiff unrhyw berson, wrth weithgynhyrchu unrhyw gaen cellwlos atgynyrchiedig y bwriedir iddo ddod i gysylltiad â bwyd, ddefnyddio unrhyw sylwedd neu grwp o sylweddau heblaw'r sylweddau a enwir neu a ddisgrifir —

(a)yng ngholofn gyntaf (enwau) Atodiad II yn achos —

(i)caen heb ei araenu; neu

(ii)caen wedi ei araenu pan fo'r araen yn deillio o gellwlos;

(b)yng ngholofn gyntaf Rhan Gyntaf Atodiad II yn achos caen sydd i'w araenu, pan fydd yr araen yn cynnwys plastigion,

ac mewn unrhyw fodd nad yw'n unol â'r amodau a'r cyfyngiadau a nodir yn y cofnod cyfatebol yn ail golofn y Rhan briodol o Atodiad II, fel y'i darllenir gyda'r rhaglith i'r Atodiad hwnnw.

(4Wrth weithgynhyrchu unrhyw araen sydd i'w rhoi ar unrhyw gaen y cyfeirir ato ym mharagraff (3)(b), ni chaiff unrhyw berson ddefnyddio unrhyw sylwedd neu grwp o sylweddau ar wahân i'r rhai a restrir yn Atodiad II, III neu IV i Gyfarwyddeb 2002/72/EC, ac ni chaiff eu defnyddio mewn unrhyw ddull nad yw'n unol â'r gofynion, y cyfyngiadau a'r manylion a gynhwysir yn yr Atodiadau hynny ac yn Rheoliadau 2006.

(5Caiff sylweddau heblaw'r rhai a restrir yn Atodiad II eu defnyddio fel lliwyddion neu adlynion wrth weithgynhyrchu caen y mae paragraff (3)(a) yn gymwys iddo, ar yr amod bod caen o'r fath yn cael ei weithgynhyrchu yn y fath fodd ag i beidio â throsglwyddo unrhyw liwydd neu adlyn i fwyd mewn unrhyw faint canfyddadwy.

(6Yn ddarostyngedig i reoliad 12, ni chaiff unrhyw berson

(a)gwerthu;

(b)mewnforio; neu

(c)defnyddio, yn ystod busnes ac mewn cysylltiad â storio, paratoi, pecynnu, gwerthu neu arlwyo bwyd,

unrhyw gaen cellwlos atgynyrchiedig sydd wedi ei weithgynhyrchu'n groes i ofynion paragraffau (3) neu (4), neu sy'n methu â chydymffurfio â pharagraff (8).

(7Ni chaiff unrhyw berson ddefnyddio, yn ystod busnes ac mewn cysylltiad â storio, paratoi, pecynnu, gwerthu neu arlwyo neu werthu bwyd —

(a)pan fo'r bwyd yn cynnwys dwr sydd yn ffisegol rydd ar yr wyneb — unrhyw gaen cellwlos atgynyrchiedig sy'n cynnwys ether bis(2-hydrocsiethyl), ethanedïol, neu'r ddau sylwedd hyn;

(b)unrhyw gaen cellwlos atgynyrchiedig yn y fath fodd ag i beri bod unrhyw wyneb printiedig o'r caen hwnnw'n dod i gysylltiad â'r bwyd.

(8Yn ystod unrhyw gam marchnata heblaw'r cam adwerthu, rhaid i unrhyw ddeunydd neu eitem sydd wedi ei wneud o gaen cellwlos atgynyrchiedig, oni bai ei fod wedi ei fwriadu o ran natur i ddod i gysylltiad â bwyd, ddod gyda datganiad ysgrifenedig sydd yn ardystio ei fod yn cydymffurfio â'r ddeddfwriaeth sy'n berthnasol iddo.

Terfynau ymfudo ar gyfer caen cellwlos atgynyrchiedig wedi ei araenu â phlastigion

11.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff (2), ni chaiff unrhyw berson weithgynhyrchu neu fewnforio unrhyw ddeunydd neu eitem sydd wedi ei wneud â chaen cellwlos atgynyrchiedig wedi ei araenu â phlastigion ac —

(a)y bwriedir iddo ddod i gysylltiad â bwyd; a

(b)y gellir trosglwyddo'i gyfansoddion i fwyd mewn meintiau sydd yn fwy na therfyn ymfudo o 10 miligram y decimetr sgwâr o wyneb y deunydd neu'r eitem sydd mewn cysylltiad â bwyd.

(2Yn achos unrhyw ddeunydd neu eitem sydd wedi ei wneud â chaen cellwlos atgynyrchiedig wedi ei araenu â phlastigion ac—

(a)sydd yn gynhwysydd, neu'n debyg i gynhwysydd, neu y gellir ei lenwi i gynhwysedd o ddim llai na 500 mililitr a dim mwy na 10 litr; neu

(b)y gellir ei lenwi, ac nad oes modd ymarferol i amcangyfrif maint yr arwynebedd arno sydd mewn cysylltiad â bwyd; neu

(c)sydd yn gap, yn gasged, yn gaead neu'n ddyfais gyffelyb ar gyfer selio,

mae'r terfyn ymfudo cyflawn i fod yn drosglwyddiad o 60 miligram o gyfansoddion fesul cilogram o fwyd.

(3Ni chaiff unrhyw berson weithgynhyrchu neu fewnforio unrhyw ddeunydd neu eitem wedi ei wneud â chaen cellwlos atgynyrchiedig sydd wedi ei araenu â phlastigion a weithgynhyrchwyd gydag unrhyw sylwedd a restrir yn Adran A neu B o Atodiad II i Gyfarwyddeb 2002/72/EC (monomerau a awdurdodir, a sylweddau cychwyn eraill) —

(a)y bwriedir iddo ddod i gysylltiad â bwyd; a

(b)y gellir trosglwyddo ei gyfansoddion i fwyd mewn meintiau sy'n fwy na'r terfynau ymfudo penodol a restrir yng ngholofn 4 o'r Adrannau hynny, fel y'i darllenir gyda'r cyflwyniad cyffredinol i'r Atodiad hwnnw.

(4Pan fo'r terfyn ymfudo ar gyfer sylwedd a grybwyllir ym mharagraff (3) yn cael ei fynegi mewn miligramau fesul cilogram, yn achos caen cellwlos atgynyrchiedig wedi ei araenu â phlastig —

(a)sydd yn gynhwysydd, neu'n debyg i gynhwysydd, neu y gellir ei lenwi i gynhwysedd o ddim llai na 500 mililitr a dim mwy na 10 litr; neu

(b)nad oes modd ei lenwi, neu nad oes modd ymarferol i amcangyfrif y berthynas rhwng arwynebedd y caen a maint y bwyd sydd mewn cysylltiad ag ef,

mae'r terfyn ymfudo i gael ei rannu â'r ffactor trawsnewid o 6 er mwyn ei fynegi mewn miligramau o gyfansoddion a drosglwyddir fesul decimetr sgwâr o'r deunydd neu'r eitem sydd mewn cysylltiad â bwyd.

(5Yn ddarostyngedig i baragraff (6), mae'r gwiriad o gydymffurfiad â therfynau ymfudo i'w gynnal yn unol â darpariaethau Atodlenni 2 a 3 i Reoliadau 2006, fel y'i darllenir gyda rheoliad 11 o'r Rheoliadau hynny; ac at ddibenion y paragraff hwn, mae unrhyw gyfeiriad yn y darpariaethau hynny at ddeunydd neu eitem blastig i gael ei ddehongli fel cyfeiriad at gaen cellwlos atgynyrchiedig wedi ei araenu â phlastig.

(6Nid yw Paragraff (5) yn gymwys dan unrhyw amgylchiadau y mae rheoliad 9(1) neu (2) yn gymwys iddynt.

Darpariaethau arbediad a throsiannol ac amddiffyniadau

12.—(1Er gwaethaf dirymiad Rheoliadau Deunyddiau ac Eitemau mewn Cysylltiad â Bwyd 1987(11), o ran caen cellwlos atgynyrchiedig a weithgynhyrchwyd cyn 29ain Ebrill 1994, mae'r amddiffyniadau yn rheoliad 6A o'r Rheoliadau hynny'n gymwys o ran troseddau o dan y Rheoliadau hyn yn yr un modd ag yr oeddynt yn gymwys i droseddau o dan y darpariaethau cyfwerth yn y Rheoliadau hynny.

(2Mewn unrhyw achos cyfreithiol ynglyn â throsedd o dorri rheoliad 10(3), (4), (6) neu (7), neu reoliad 11(1) neu (3), mae'n amddiffyniad i brofi —

(a)bod y weithred a oedd yn drosedd wedi ei chyflawni mewn perthynas â deunydd neu eitem a wnaed o gaen cellwlos atgynyrchiedig a oedd wedi ei weithgynhyrchu neu ei fewnforio i'r Gymuned Ewropeaidd cyn 29ain Ionawr 2006; a

(b)na fuasai'r weithred a oedd yn drosedd wedi bod yn drosedd o dan Reoliadau Deunyddiau ac Eitemau mewn Cysylltiad â Bwyd 1987 yn union cyn i Reoliadau Deunyddiau ac Eitemau mewn Cysylltiad â Bwyd (Cymru) 2005 ddod i rym(12).

RHAN 5Cyffredinol

Troseddau a chosbau

13.—(1Mae unrhyw berson —

(a)sydd yn mynd yn groes i ddarpariaethau rheoliad 8(2), 10(3), (4), (6) neu (7), neu 11(1) neu (3);

(b)sydd yn rhwystro'n fwriadol unrhyw berson sy'n gweithredu i gyflawni Rheoliad 1935/2004, Rheoliad 2023/2006 neu'r Rheoliadau hyn, neu'n methu heb esgus rhesymol i ddarparu unrhyw gymorth neu wybodaeth y mae'r person hwnnw'n ei cheisio'n rhesymol; neu

(c)sydd yn darparu'n ymwybodol neu'n fyrbwyll wybodaeth sydd yn anwir neu'n gamarweiniol mewn unrhyw fanylyn perthnasol, mewn cydymffurfiad honedig ag unrhyw ofyniad a grybwyllir yn is-baragraff (b),

yn euog o drosedd.

(2Mae unrhyw berson sydd yn euog o drosedd o dan y Rheoliadau hyn yn agored —

(a)yn achos trosedd a grybwyllir ym mharagraff (1)(a) neu (c) neu yn rheoliad 4 neu 5 —

(i)i ddirwy, neu i garchariad am dymor o ddim mwy na dwy flynedd, neu'r ddau, o'i gael yn euog drwy dditiad;

(ii)i ddirwy o ddim mwy na'r uchafswm statudol, neu i dymor yng ngharchar o ddim mwy na 6 mis, neu'r ddau, yn dilyn collfarn ddiannod; a

(b)yn achos trosedd a grybwyllir ym mharagraff (1)(b) — i dymor yng ngharchar o ddim mwy na 3 mis, neu i ddirwy o ddim mwy na lefel 5 ar y raddfa safonol, neu'r ddau, yn dilyn collfarn ddiannod.

(3Ni ddylid dehongli unrhyw beth ym mharagraff (1)(b) fel gofyniad ar unrhyw berson i ateb unrhyw gwestiwn neu roi unrhyw wybodaeth os gallai ei hunan-argyhuddo drwy wneud hynny.

Gorfodi

14.—(1Bydd pob awdurdod bwyd oddi mewn i'w ardal, a phob awdurdod iechyd porthladd oddi mewn i'w gylch, yn gweithredu ac yn gorfodi —

(a)darpariaethau Rheoliad 1935/2004 a grybwyllir yn rheoliad 4, a

(b)yn ddarostyngedig i baragraff (3), y Rheoliadau hyn.

(2Caiff yr Asiantaeth Safonau Bwyd weithredu a gorfodi, yn ogystal, ddarpariaethau Erthyglau 16(1) a 17(2).

(3Bydd pob awdurdod bwyd, oddi mewn i'w ardal, yn gweithredu ac yn gorfodi darpariaethau Rheoliad 2023/2006 a grybwyllir yn rheoliad 5.

Troseddau gan gyrff corfforaethol neu bartneriaethau Albanaidd

15.—(1Pan brofir bod trosedd o dan y Rheoliadau hyn, a gyflawnwyd gan gorff corfforaethol, wedi ei chyflawni gyda chydsyniad neu gydgynllwyn unrhyw un o'r canlynol, neu ei bod i'w phriodoli i unrhyw esgeulustod ar ran unrhyw un o'r canlynol, sef —

(a)unrhyw gyfarwyddwr, rheolwr, ysgrifennydd neu swyddog cyffelyb arall o'r corff corfforaethol, neu

(b)unrhyw berson a oedd yn honni ei fod yn gweithredu mewn cymhwyster o'r fath,

ystyrir bod y person hwnnw yn ogystal â'r corff corfforaethol yn euog o'r drosedd honno ac yn agored i fod yn destun achos cyfreithiol ac i gael ei gosbi yn unol â hynny.

(2Pan brofir bod trosedd o dan y Rheoliadau hyn, a gyflawnwyd gan bartneriaeth Albanaidd, wedi ei chyflawni gyda chydsyniad neu gydgynllwyn partner, neu ei bod i'w phriodoli i unrhyw esgeulustod ar ran partner, ystyrir bod y person hwnnw yn ogystal â'r bartneriaeth yn euog o'r drosedd honno ac yn agored i fod yn destun achos cyfreithiol ac i gael ei gosbi yn unol â hynny.

Troseddau oherwydd gweithred neu ddiffyg trydydd parti

16.  Pan fo unrhyw berson yn cyflawni trosedd o dan y Rheoliadau hyn oherwydd gweithred neu ddiffyg rhyw berson arall, y person arall hwnnw sydd yn euog o'r drosedd; a gellir cyhuddo person o'r drosedd, a'i gael yn euog ohoni, p'un ai a ddygir achos cyfreithiol ai peidio yn erbyn y person a grybwyllwyd gyntaf.

Terfyn amser ar gyfer erlyniadau

17.  Ni cheir cychwyn erlyniad am drosedd o dan y Rheoliadau hyn wedi i dair blynedd ers dyddiad cyflawni'r drosedd ddod i ben, neu wedi i un flwyddyn ddod i ben ers i'r erlynydd ddarganfod y drosedd, pa un bynnag fo'r cynharaf.

Amddiffyniadau cyffredinol

18.—(1Mewn unrhyw achos cyfreithiol am drosedd o dan y Rheoliadau hyn, mae'n amddiffyniad, yn ddarostyngedig i baragraff (5), i'r sawl a gyhuddir brofi ei fod ef neu hi wedi gweithredu pob rhagofal rhesymol ac wedi ymarfer pob diwydrwydd dyladwy er mwyn osgoi cyflawniad y drosedd ganddo ef neu hi neu gan berson a oedd dan eu rheolaeth.

(2Heb iddo leihau effaith trwch paragraff (1), dylid ystyried bod person a gyhuddir o drosedd o dan reoliad 4 neu 13(1)(a) ac na wnaeth —

(a)paratoi'r deunydd neu eitem yr honnir i'r drosedd gael ei chyflawni mewn cysylltiad ag ef; ac na wnaeth ychwaith

(b)mewnforio'r deunydd neu eitem dan sylw i'r Deyrnas Unedig,

wedi sefydlu'r amddiffyniad a ddarperir gan baragraff (1) os yw'r person hwnnw'n bodloni gofynion paragraffau (3) a (4).

(3Mae person yn bodloni gofynion y paragraff hwn os yw'r person hwnnw'n profi —

(a)bod y drosedd wedi ei chyflawni oherwydd gweithred neu ddiffyg rhyw berson arall nad oedd dan ei reolaeth ef neu hi, neu oherwydd dibynnu ar wybodaeth a ddarparwyd gan berson o'r fath;

(b)naill ai —

(i)bod ef neu hi wedi cyflawni pob gwiriad, ar y deunydd neu eitem dan sylw, a oedd yn rhesymol o dan yr holl amgylchiadau, neu

(ii)ei bod yn rhesymol o dan yr holl amgylchiadau i'r person hwnnw ddibynnu ar wiriadau a oedd wedi eu cyflawni gan y sawl a ddarparodd y deunydd neu eitem honno ar ei gyfer ef neu hi; a

(c)nad oedd ef neu hi'n gwybod, ac nad oedd ganddo neu ganddi reswm i amau adeg cyflawniad y drosedd, y byddai ei weithred neu anweithred ef neu hi yn gyfystyr â throsedd o dan y Rheoliadau hyn.

(4Mae person yn bodloni gofynion y paragraff hwn os yw'r drosedd yn drosedd gwerthiant ac mae ef neu hi yn profi —

(a)bod y drosedd wedi ei chyflawni oherwydd gweithred neu ddiffyg rhyw berson arall nad oedd dan ei reolaeth ef neu hi , neu oherwydd dibynnu ar wybodaeth a ddarparwyd gan berson o'r fath;

(b)nad oedd y gwerthiant a oedd yn sylwedd y drosedd yn werthiant o dan ei enw neu farc ef neu hi; ac

(c)nad oedd ef neu hi'n gwybod, ac na ellid disgwyl yn rhesymol iddo neu iddi wybod adeg cyflawniad y drosedd, y byddai ei weithred neu anweithred ef neu hi yn gyfystyr â throsedd o dan y Rheoliadau hyn.

(5Os digwydd, mewn unrhyw achos cyfreithiol, fod yr amddiffyniad a ddarperir gan y rheoliad hwn yn golygu honni bod y drosedd wedi ei chyflawni oherwydd gweithred neu ddiffyg person arall, neu oherwydd dibynnu ar wybodaeth a ddarparwyd gan berson arall, ni fydd gan y sawl a gyhuddir yr hawl i ddibynnu ar yr amddiffyniad hwnnw, heb ganiatâd y llys, oni bai bod ef neu hi —

(a)o leiaf saith niwrnod clir cyn y gwrandawiad; a

(b)pan fo ef neu hi wedi ymddangos yn flaenorol gerbron y llys mewn cysylltiad â'r drosedd honedig, o fewn un mis i'w ymddangosiad cyntaf ef neu hi,

wedi cyflwyno i'r erlynydd hysbysiad ysgrifenedig a oedd yn rhoi pa bynnag wybodaeth a oedd yn ei feddiant ef neu hi ar y pryd ac a oedd yn enwi'r person arall hwnnw neu'n cynorthwyo i'w adnabod.

Y weithdrefn pan fo sampl i gael ei dadansoddi

19.—(1Mae swyddog awdurdodedig sydd wedi cael sampl o dan adran 29 o'r Ddeddf, ac sydd o'r farn y dylid ei dadansoddi, i rannu'r sampl yn dair rhan.

(2Os yw'r sampl yn cynnwys cynwysyddion seliedig, a phe bai eu hagor yn rhwystro dadansoddiad cywir ym marn y swyddog awdurdodedig, mae'r swyddog awdurdodedig i rannu'r sampl yn rhannau drwy roi'r cynwysyddion mewn tair cyfran, ac mae pob cyfran i'w thrin fel pe bai'n rhan.

(3Bydd y swyddog awdurdodedig —

(a)yn gosod pob rhan mewn cynhwysydd addas ac yn ei selio os bydd angen;

(b)yn marcio pob rhan neu gynhwysydd;

(c)cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol — yn rhoi un rhan i'r perchennog, a'i hysbysu ar bapur y bydd y sampl yn cael ei dadansoddi;

(ch)yn cyflwyno un rhan i'w dadansoddi yn unol ag adran 30 o'r Ddeddf; a

(d)yn cadw un rhan er mwyn ei chyflwyno yn y dyfodol o dan reoliad 20.

Dadansoddiad eilaidd gan Gemegydd y Llywodraeth

20.—(1Pa fo sampl wedi ei chadw o dan reoliad 19 ac —

(a)pan fwriedir cychwyn achos cyfreithiol yn erbyn person am drosedd o dan y Rheoliadau hyn, neu pan fo achos o'r fath wedi ei gychwyn; a

(b)mae'r erlyniad yn bwriadu dyfynnu fel tystiolaeth ganlyniad y dadansoddiad a grybwyllir uchod,

mae paragraffau (2) i (7) yn gymwys.

(2Bydd y swyddog awdurdodedig —

(a)yn gallu gweithredu fel a ganlyn, o'i wirfodd ef neu hi ei hun; neu

(b)yn gweithredu fel gan ganlyn —

(i)os bydd yr erlynydd (a bwrw bod hwnnw'n rhywun heblaw'r swyddog awdurdodedig) yn gwneud cais i'r perwyl hwnnw;

(ii)os bydd y llys yn gwneud gorchymyn i'r perwyl hwnnw; neu

(iii)(yn ddarostyngedig i baragraff (6)) os bydd y diffynnydd yn gwneud cais i'r perwyl hwnnw,

sef anfon y rhan argadwedig o'r sampl at Gemegydd y Llywodraeth i'w dadansoddi.

(3Bydd Cemegydd y Llywodraeth yn dadansoddi'r rhan a anfonwyd ato ef neu hi o dan baragraff (2), ac yn anfon at y swyddog awdurdodedig dystysgrif sy'n nodi canlyniadau'r dadansoddiad.

(4Bydd unrhyw dystysgrif o ganlyniadau'r dadansoddiad sy'n cael ei throsglwyddo gan Gemegydd y Llywodraeth yn cael ei llofnodi ganddo ef neu hi neu ar ei ran, ond gall unrhyw berson gynnal y dadansoddiad dan gyfarwyddyd y sawl sy'n llofnodi'r dystysgrif.

(5Bydd y swyddog awdurdodedig, yn syth ar ôl ei derbyn, yn darparu copi o dystysgrif Cemegydd y Llywodraeth o'r dadansoddiad ar gyfer yr erlynydd (os yw hwnnw'n rhywun heblaw'r swyddog awdurdodedig) a'r diffynnydd.

(6Pan fo cais yn cael ei wneud o dan baragraff (2)(b)(iii), caiff y swyddog awdurdodedig gyflwyno hysbysiad ysgrifenedig i'r diffynnydd yn gofyn am daliad o ffi sydd wedi ei nodi yn yr hysbysiad ar gyfer talu rhai neu'r cyfan o gostau Cemegydd y Llywodraeth am gyflawni'r swyddogaethau o dan baragraff (3); ac yn absenoldeb cytundeb gan y diffynnydd i dalu'r ffi a nodir yn yr hysbysiad, caiff y swyddog awdurdodedig wrthod cydymffurfio â'r cais.

(7Yn y rheoliad hwn, mae “diffynnydd” yn cynnwys darpar-ddiffynnydd.

Gweithredu amryfal ddarpariaethau o'r Ddeddf

21.—(1Mae'r darpariaethau canlynol o'r Ddeddf yn gymwys at ddibenion y Rheoliadau hyn, gyda'r newidiad bod unrhyw gyfeiriad yn y darpariaethau hynny at y Ddeddf neu at Ran ohoni i'w dehongli fel cyfeiriad at y Rheoliadau hyn —

(a)adran 2 (yn ymestyn ystyr “sale” etc);

(b)adran 30(8) (sydd yn ymwneud â thystiolaeth ddogfennol).

(2Wrth weithredu adran 32 o'r Ddeddf (hawliau mynediad) at ddibenion y Rheoliadau hyn, mae'r cyfeiriad at y Ddeddf yn is-adran (1) yn cael ei ddehongli fel un sy'n cynnwys cyfeiriad at Reoliad 1935/2004 neu, fel y bo'n briodol, at Reoliad 2023/2006.

(3Mae'r darpariaethau canlynol o'r Ddeddf yn gymwys at ddibenion y Rheoliadau hyn gyda'r newidiad bod unrhyw gyfeiriad yn y darpariaethau hynny at y Ddeddf yn cael ei ddehongli fel un sy'n cynnwys cyfeiriad at Reoliad 1935/2004 neu, fel y bo'n briodol, at Reoliad 2023/2006, ac at y Rheoliadau hyn —

(a)adran 3 (rhagdybiaethau bod bwyd wedi ei fwriadu i'w fwyta gan bobl) gyda'r newidiadau bod y cyfeiriadau at “sold” a “sale” yn cael eu hystyried yn rhai sy'n cynnwys cyfeiriadau at “placed on the market” a “placing on the market” yn ôl eu trefn;

(b)adran 44 (amddiffyn swyddogion sy'n gweithredu'n ddidwyll).

Diwygio Rheoliadau Eitemau Ceramig mewn Cyffyrddiad â Bwyd (Cymru) 2006

22.—(1Diwygir Rheoliadau Eitemau Ceramig mewn Cyffyrddiad â Bwyd (Cymru) 2006(13) yn unol â pharagraff (2).

(2Yn Atodlen 3 (datganiad o gydymffurfiad), rhodder y canlynol yn lle is-baragraff (5) o baragraff 1 —

(5) cadarnhad bod yr eitem geramig neu'r eitemau ceramig yn bodloni'r gofynion perthnasol —

(a)yn y Rheoliadau hyn; neu

(b)

(i)yng Nghyfarwyddeb y Cyngor 84/500/EEC ar gyd-ddynesu cyfreithiau'r Aelod-wladwriaethau o ran eitemau ceramig y bwriedir iddynt ddod i gyffyrddiad â bwydydd(14) fel y cafodd ei ddiwygio gan Gyfarwyddeb y Comisiwn 2005/31/EC(15); a

(ii)yn Rheoliad (EC) Rhif 1935/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor sydd yn ymwneud â deunyddiau ac eitemau y bwriedir iddynt ddod i gyffyrddiad â bwyd, ac sy'n diddymu Cyfarwyddebau 80/590/EEC ac 89/109/EEC(16)..

Diwygio Rheoliadau Diogelwch Bwyd (Samplu a Chymwysterau) 1990

23.  Yn Rheoliadau Diogelwch Bwyd (Samplu a Chymwysterau) 1990(17), yn Atodlen 1 (darpariaethau nad yw'r Rheoliadau hynny'n gymwys iddynt), rhodder enw a chyfeirnod y Rheoliadau hyn yn lle enw a chyfeirnod Rheoliadau Deunyddiau ac Eitemau mewn Cysylltiad â Bwyd 1987.

Gwelliannau ôl-ddilynol i Reoliadau 2006

24.—(1Diwygir Rheoliadau 2006 yn unol â pharagraffau (2) a (3).

(2Ym mharagraff (1) o reoliad 2 (dehongli) hepgorer y diffiniad o “Rheoliadau 2005”.

(3Ym mharagraff (1)(b) o reoliad 11 (dull o brofi gallu deunyddiau neu eitemau plastig i drosglwyddo cyfansoddion, a dulliau dadansoddi), rhodder “rheoliad 9(2) o Reoliadau Deunyddiau ac Eitemau Plastig mewn Cysylltiad â Bwyd (Cymru) 2007” yn lle'r ymadrodd “rheoliad 7(2) o Reoliadau 2005(18)”.

Dirymiadau

25.  Dirymir y Rheoliadau canlynol neu rannau ohonynt —

(a)Rheoliadau Deunyddiau ac Eitemau mewn Cysylltiad â Bwyd (Cymru) 2005;

(b)Rheoliad 24 o Reoliadau 2006.

G. Thomas

O dan awdurdod y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru

13 Tachwedd 2007

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

1.  Mae'r Rheoliadau hyn yn dirymu Rheoliadau Deunyddiau ac Eitemau mewn Cysylltiad â Bwyd (Cymru) (O.S. 2005/1647 (Cy.128)) (“Rheoliadau 2005”) ac yn ailddeddfu, neu'n ailddeddfu gyda diwygiadau, ddarpariaethau a gynhwyswyd yn y Rheoliadau hynny. Mae'r Rheoliadau hyn yn darparu ar gyfer gorfodi Rheoliad (EC) Rhif 1935/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor ynglyn â deunyddiau ac eitemau y bwriedir iddynt ddod i gysylltiad â bwyd, ac yn diddymu Cyfarwyddebau 80/590/EEC ac 89/109/EEC (OJ Rhif L338, 13.11.2004, t.4) (“Rheoliad 1935/2004”).

2.  Mae'r Rheoliadau'n darparu hefyd ar gyfer gorfodi Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 2023/2006 ynglyn ag arfer gweithgynhyrchu da ar gyfer deunyddiau ac eitemau y bwriedir iddynt ddod i gysylltiad â bwyd (OJ Rhif L384, 29.12.2006, t.75) (“Rheoliad 2023/2006”), ac yn gweithredu Cyfarwyddeb y Comisiwn 2007/42/EC, sydd yn ymwneud â deunyddiau ac eitemau sydd wedi eu gwneud a gaen cellwlog atgynyrchiedig ac y bwriedir iddynt ddod i gysylltiad â bwydydd (OJ Rhif L172, 30.6.2007, t.71) (“Cyfarwyddeb 2007/42”) Yr oedd y Gyfarwyddeb hon yn diddymu ac yn cydgrynhoi Cyfarwyddeb y Comisiwn 93/10/EEC (OJ Rhif L93, 17.4.1993. t.27) fel y cafodd ei diwygio ddiwethaf gan Gyfarwyddeb y Comisiwn 2004/14/EC (OJ Rhif L27, 30.1.2004, t.48).

3.  Mae'r Rheoliadau hyn yn darparu bod cyfeiriadau at offeryn EC neu at rannau penodedig o rai offerynnau EC i gael eu dehongli fel cyfeiriadau at yr offeryn, neu at ran benodedig ohono, fel y caiff ei ddiwygio o bryd i'w gilydd (rheoliad 2(4)).

4.  Nid yw'r Rheoliadau hyn yn gymwys i ddeunyddiau neu eitemau sydd y tu allan i gwmpas Rheoliad 1935/2004 (rheoliad 3). Y deunyddiau sy'n cael eu nodi yn y Rheoliad hwnnw fel rhai sydd y tu allan i'w gwmpas yw deunyddiau ac eitemau sy'n cael eu cyflenwi fel hynafolion, gorchudd neu ddeunyddiau caenu sydd yn rhan o'r bwyd ac y gellir eu bwyta gydag ef, neu offer sefydlog cyhoeddus neu breifat ar gyfer cyflenwi dwr.

5.  Mae rhan 2 o'r Rheoliadau hyn yn cynnwys darpariaethau sy'n ei gwneud yn drosedd i dorri rhai o ofynion Rheoliad 1935/2004 (rheoliad 4), a Rheoliad 2023/2006 (rheoliad 5). Rheoliad 1935/2004 yw'r prif Reoliad fframwaith ynglyn â deunyddiau ac eitemau sydd mewn cysylltiad â bwyd. Mae'r Rhan hon yn darparu hefyd ar gyfer dynodi'r awdurdodau cymwys at y gwahanol ddibenion sydd wedi eu nodi yn Rheoliadau 1935/2004 a 2023/2006 (rheoliadau 6 a 7).

6.  Mae rhan 3 yn cynnwys rheoliadau sydd yn ailddeddfu, heb ddiwygiadau o sylwedd, ddarpariaethau Rheoliadau 2005 o ran finyl clorid (rheoliadau 8 a 9).

7.  Mae rhan 4 yn cynnwys rheoliadau sydd yn ailddeddfu darpariaethau o Reoliadau 2005 sy'n ymwneud â chaen cellwlos atgynyrchiedig (“RCF”), ynghyd â mân ddiwygiadau er mwyn gweithredu Cyfarwyddeb 2007/42 (rheoliadau 10 ac 11).

8.  Yn neilltuol, mae rheoliad 10 o'r Rheoliadau hyn —

(a)yn rheoli pa sylweddau y gellir eu defnyddio wrth weithgynhyrchu RCF; gall y rhain amrywio yn ôl p'un ai y mae wedi ei araenu â phlastigion ai peidio (paragraff (3));

(b)yn rheoleiddio pa sylweddau y gellir eu defnyddio ar gyfer gweithgynhyrchu araenau plastig ar gyfer RCF, ac o dan ba amodau (paragraff (4));

(c)yn creu rhanddirymiad amodol o baragraff (3) mewn perthynas â sylweddau sy'n cael eu defnyddio fel lliwyddion neu adlynion wrth weithgynhyrchu RCF nad yw wedi ei araenu â phlastig (paragraff (5));

(ch)yn creu troseddau o ran gwerthu, mewnforio neu wneud defnydd busnes o RCF nad yw'n cydymffurfio (paragraffau (6) a (7)); a

(d)yn creu gofyniad amodol i ddarparu datganiad o gydymffurfiad deddfwriaethol i fynd gydag RCF pan gaiff hwnnw ei farchnata cyn y cam adwerthu (paragraff (8)).

9.  Mae Rheoliad 11 yn cymhwyso, i RCF sydd wedi ei araenu â phlastig, y rheolaethau presennol (sydd yn deillio o Gyfarwyddeb y Comisiwn 2002/72/EC) ynglyn ag ymfudiad cyfansoddion deunyddiau ac eitemau plastig i fwyd, yn neilltuol drwy —

(a)pennu terfynau ymfudo cyffredinol ar gyfer RCF sydd wedi ei araenu â phlastig (paragraffau (1) a (2));

(b)cymhwyso i RCF sydd wedi ei araenu â phlastig y terfynau ymfudo penodol sydd yn gymwys i rai sylweddau sy'n cael eu defnyddio wrth weithgynhyrchu deunyddiau ac eitemau plastig (paragraffau (3) a (4)); ac

(c)cymhwyso'r dulliau a'r gweithdrefnau rhagnodedig ar gyfer gwirio cydymffurfiad â therfynau ymfudo (paragraffau (5) a (6)).

10.  Mae Rheoliad 12 yn cynnwys darpariaethau arbediadau a darpariaethau trosiannol sydd —

(a)yn cadw'r amddiffyniadau sydd ar gael o dan Reoliadau 1987 ar gyfer unrhyw RCF a gafodd ei weithgynhyrchu cyn 29ain Ebrill 1994 ac sy'n dal mewn cylchrediad; a

(b)yn creu amddiffyniad mewn perthynas ag RCF a gafodd ei weithgynhyrchu yn y Gymuned Ewropeaidd, neu ei fewnforio iddi, cyn 29ain Ionawr 2006.

11.  Mae rhan 5 o'r Rheoliadau hyn yn cynnwys darpariaethau gweinyddol cyffredinol a darpariaethau gorfodi sydd —

(a)yn pennu cosb am dorri'r Rheoliadau hyn neu am beri rhwystr i rai sydd yn eu gorfodi (rheoliad 13);

(b)yn dynodi awdurdodau gorfodi ar gyfer gwahanol swyddogaethau o dan y Rheoliadau (rheoliad 14);

(c)yn darparu bod modd i unigolion sy'n gyfrifol am weithredoedd corff corfforaethol neu bartneriaeth Albanaidd gael eu herlyn ar y cyd am droseddau sydd wedi eu cyflawni gan y corff neu bartneriaeth hwnnw (rheoliad 15);

(ch)yn darparu ar gyfer erlyn person sydd yn peri i drosedd gael ei chyflawni gan berson arall, boed achos cyfreithiol yn cael ei ddwyn yn erbyn y troseddwr gwreiddiol ai peidio (rheoliad 16);

(d)pennu terfyn amser ar gyfer cychwyn erlyniad (rheoliad 17);

(dd)darparu ar gyfer amddiffyniad o ddiwydrwydd dyladwy yn erbyn cyhuddiad o drosedd o dan y Rheoliadau hyn (rheoliad 18);

(e)pennu'r weithdrefn sydd i'w dilyn wrth anfon sampl i'w dadansoddi (rheoliad 19);

(f)darparu ar gyfer dadansoddiad o sampl gyfeiriol gan Labordy Cemegydd y Llywodraeth rheoliad 20); ac

(ff)cymhwyso rhai o ddarpariaethau Deddf Diogelwch Bwyd 1990 (rheoliad 21).

12.  Yn Rhan 5 mae'r Rheoliadau hyn hefyd —

(a)yn diwygio Atodlen 3 i Reoliadau Eitemau Ceramig mewn Cyffyrddiad â Bwyd (Cymru) 2006 (O.S. 2006/1704 (Cy.166)) (rheoliad 22);

(b)yn gwneud gwelliannau ôl-ddilynol i Reoliadau Deunyddiau ac Eitemau Plastig mewn Cysylltiad â Bwyd (Cymru ) 2006 (O.S. 2006/2982 (Cy.273)) ac i Reoliadau Diogelwch Bwyd (Samplu a Chymwysterau) 1990 (O.S. 1990/2463) (rheoliadau 23 a 24); ac

(c)yn dirymu Rheoliadau Deunyddiau ac Eitemau mewn Cysylltiad â Bwyd (Cymru) 2005 a deddfwriaeth ddiwygio ddilynol (rheoliad 25).

13.  Mae asesiad effaith reoleiddiol cyflawn o'r effaith y bydd yr offeryn hwn yn ei chael ar gostau busnes ar gael gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd, 11eg Llawr, Southgate House, Caerdydd CF10 1EW

(1)

1990 p.16. Cafodd Adran 1(1) a (2) (diffiniad o “food”) ei hamnewid gan O.S. 2004/2990. Cafodd Adrannau 17 a 48 eu diwygio gan baragraffau 12 a 21, yn ôl eu trefn, o Atodlen 5 i Ddeddf Safonau Bwyd 1999 (1999 p.28), “Deddf 1999”. Cafodd Adran 48 ei diwygio'n ogystal gan O.S. 2004/2990. Cafodd Adran 26(3) ei hamnewid gan Atodlen 6 i Ddeddf 1999. Cafodd Adran 53(2) ei diwygio gan baragraff 19 o Atodlen 16 i Ddeddf Dadreoli a Chontractio Allan 1994 (1994 p.40), Atodlen 6 i Ddeddf 1999, ac O.S. 2004/2990. Cafodd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol, i'r graddau yr oeddynt yn arferadwy o ran Cymru, eu trosglwyddo i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) Cafodd y swyddogaethau hyn eu trosglwyddo i Weinidogion Cymru gan adran 162 ac Atodlen 11, paragraff 30 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32).

(2)

1972 p.68. Cafodd paragraff 1A o Atodlen 2 ei fewnosod gan adran 28 o Ddeddf Diwygio Deddfwriaethol a Rheoleiddiol 2006 (2006 p.51).

(3)

OJ Rhif L31, 1.2.2002, t.1. Cafodd y Rheoliad hwnnw ei ddiwygio ddiwethaf gan Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 575/2006 (OJ Rhif L100, 8.4.2006, t.3).

(5)

OJ Rhif L220, 15.8.2002, t.18. Cafodd y Gyfarwyddeb hon ei chywiro gan gywiriad (OJ Rhif L39, 13.2.2003, t.1), a chafodd ei diwygio ar y dyddiad y gwnaed y Rheoliadau hyn gan Gyfarwyddebau'r Comisiwn 2004/1/EC (OJ Rhif L7, 13.1.2004, t.45), 2004/19/EC (OJ Rhif L71, 10.3.2004, t.8), 2005/79/EC (OJ Rhif L302, 19.11.2005, t.35) a Chyfarwyddeb y Comisiwn 2007/19/EC (OJ Rhif L97, 12.4.2007, t.50).

(6)

OJ Rhif L172, 30.6.2007, t.71. Yr oedd y Gyfarwyddeb hon yn diddymu ac yn cydgrynhoi, heb ddiwygiad pellach, Gyfarwyddeb y Comisiwn 93/10/EEC, fel y cafodd ei diwygio ddiwethaf gan Gyfarwyddeb y Comisiwn 2004/14/EC.

(7)

OJ Rhif L338, 13.11.2004, t.4.

(8)

OJ Rhif L384, 29.12.2006, t.75.

(9)

OJ Rhif L213, 16.8.80, t.42.

(10)

OJ Rhif L167, 24.6.81, t.6.

(11)

O.S. 1987/1523, fel y cafodd ei ddiwygio gan O.S. 1990/2487, O.S. 1991/1476, ac O.S. 1994/979.

(12)

O.S. 2005/1647 (Cy.128). Cafodd y Rheoliadau hyn eu diwygio ar ôl hynny gan O.S. 2005/3254 (Cy.247) ac O.S. 2006/2982 (Cy.273), ond nid oes yr un o'r diwygiadau hynny'n berthnasol i'r ddarpariaeth hon.

(14)

OJ Rhif L277, 20.10.1984, t.12.

(15)

OJ Rhif L110, 30.4.2005, t.36.

(16)

OJ Rhif L338, 13.11.2004, t.4.

(17)

O.S. 1990/2463. Cafodd swyddogaethau o dan y Rheoliadau hyn, cyn belled ag y maent yn arferadwy o ran Cymru, eu trosglwyddo i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672). Cafodd y Swyddogaethau hynny eu trosglwyddo i Weinidogion Cymru gan adran 162 ac Atodlen 11, paragraff 30 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32).

(18)

O.S.