- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Mae'r Gorchymyn hwn yn diwygio Gorchymyn Iechyd Planhigion (Cymru) 2006 (O.S. 2006/1643) (“y prif Orchymyn”) er mwyn gweithredu'r offerynnau isod—
(a)Penderfyniad y Comisiwn 2007/365/EC ar fesurau brys i atal Rhynchophorus ferrugineus (Olivier) rhag cael ei gyflwyno i'r Gymuned a'i ledaenu oddi mewn iddi (OJ Rhif L 139, 31.5.2007, t. 24);
(b)Penderfyniad y Comisiwn 2007/433/EC ar fesurau brys dros dro i atal Gibberella circinata Nirenberg & O'Donnell rhag cael ei gyflwyno i'r Gymuned a'i ledaenu oddi mewn iddi (OJ Rhif L 161, 22.6.2007, t. 66);
(c)Penderfyniad y Comisiwn 2007/410/EC ar fesurau i atal firoid y gloronen bigfain rhag cael ei gyflwyno i'r Gymuned a'i ledaenu oddi mewn iddi (OJ Rhif L 155, 15.6.2007, t. 71);
(ch)Penderfyniad y Comisiwn 2004/416/EC ar fesurau brys dros dro mewn cysylltiad â ffrwythau sitrws penodol sy'n tarddu o'r Ariannin neu Frasil (OJ Rhif L 151, 30.4.2004, t. 76), fel y'i diwygiwyd gan Benderfyniad y Comisiwn 2007/347/EC (OJ Rhif L 130, 22.5.2007, t. 46); a
(d)Cyfarwyddeb y Comisiwn 2007/41/EC yn diwygio Atodiadau penodol i Gyfarwyddeb y Cyngor 2000/29/EC ar fesurau gwarchod rhag cyflwyno i'r Gymuned organeddau sy'n niweidiol i blanhigion neu i gynhyrchion planhigion ac yn erbyn eu lledaenu oddi mewn i'r Gymuned (OJ Rhif L 169, 29.6.2007, t. 51).
Mae'r Gorchymyn hwn yn gwneud darpariaeth ar gyfer diben a grybwyllir yn adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 (p. 68) ac mae cyfeiriadau at y Penderfyniadau a restrir yn (a), (b) ac (c) i'w dehongli fel cyfeiriadau at yr offerynnau hynny fel y'u diwygir o dro i dro.
Mae erthyglau 3, 4 a 5 yn gwneud amryw o ddiwygiadau i Atodlenni 1, 4, 5, 6 a 7 i'r prif Orchymyn er mwyn cymhwyso'r cyfyngiadau ar lanio yng Nghymru a symud oddi mewn iddi ddeunyddiau planhigion penodol (a ddisgrifir ym mhob erthygl) o drydydd gwledydd a rhannau eraill o'r Gymuned Ewropeaidd a'r gofynion am dystysgrifau ffytoiechydol a phasbortau planhigion i'r deunyddiau planhigion a restrir er mwyn atal, yn ôl eu trefn, y plâu planhigion canlynol rhag cael eu cyflwyno i Gymru a'u lledaenu oddi mewn iddi: Rhynchophorus ferrugineus (Olivier), Gibberella circinata Nirenberg & O'Donnell, firoid y gloronen bigfain.
Mae erthygl 6 yn diwygio Atodlen 4 i'r prif Orchymyn er mwyn cymhwyso gofynion arbennig mewn cysylltiad â ffrwythau sitrws penodol sy'n tarddu o Frasil.
Mae erthygl 7 yn diwygio'r diffiniad o “Directive 2000/29/EC” er mwyn ymgorffori ynddo Gyfarwyddeb y Comisiwn 2007/41/EC ac mae'n ychwanegu Vitis L. at y rhestr o blanhigion yn Rhan B o Atodlen 7 i'r prif Orchymyn y mae'n ofynnol iddynt gael pasbort planhigion os ydynt i gael eu hanfon i barth gwarchod mewn rhan arall o'r Gymuned Ewropeaidd.
Ni luniwyd asesiad effaith reoleiddiol llawn ar gyfer yr offeryn hwn.
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys