xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Offerynnau Statudol Cymru

2007 Rhif 375 (Cy.35)

ARBED YNNI, CYMRU

Rheoliadau Cynlluniau Effeithlonrwydd Ynni Cartref (Cymru) 2007

Wedi'u gwneud

13 Chwefror 2007

Yn dod i rym

14 Chwefror 2007

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol gan arfer y pŵer a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 15 o Ddeddf Nawdd Cymdeithasol 1990(1), ac sydd bellach yn arferadwy gan y Cynulliad Cenedlaethol o ran Cymru(2):

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cynlluniau Effeithlonrwydd Ynni Cartref (Cymru) 2007 a deuant i rym ar 14 Chwefror 2007.

(2Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

Dehongli

2.  Yn y Rheoliadau hyn—

ystyr “asiantaeth ardal” (“area agency”), ac eithrio ym mharagraff (1) o reoliad 4, yw'r person neu'r corff o bersonau a benodir am y tro ac sy'n gyfrifol am yr ardal o dan sylw o dan y rheoliad hwnnw;

ystyr “cais am grant rhannol” (“partial grant application”) yw cais nad yw ceisydd yn cynnig ynddo y bydd asiantaeth ardal yn trefnu i gyflawni'r gweithfeydd y ceisir am grant mewn cysylltiad â hwy;

ystyr “cais gweithfeydd” (“works application”) yw cais y mae ceisydd yn cynnig ynddo y bydd asiantaeth ardal yn trefnu i gyflawni'r gweithfeydd y ceisir am grant mewn cysylltiad â hwy;

ystyr “cyngor ynni” (“energy advice”) yw cyngor ar leihau neu atal gwastraff ynni mewn annedd;

ystyr “y Cynulliad” (“the Assembly”) yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru;

ystyr “Deddf 1992” (“the 1992 Act”) yw Deddf Cyfraniadau a Budd-daliadau Nawdd Cymdeithasol 1992(3);

ystyr “gweithfeydd” (“works”) yw unrhyw un neu rai o'r gweithfeydd, y deunyddiau neu'r cyngor ynni a bennir yn rheoliad 6;

ystyr “HEES” (“HEES”) yw'r categorïau o weithfeydd sydd ar gael o dan y Cynllun Effeithlonrwydd Ynni Cartref fel a benderfynir gan y Cynulliad yn unol â rheoliad 7(2);

ystyr “HEES a Mwy” (“HEES Plus”) yw'r categorïau o weithfeydd sydd ar gael o dan y Cynllun Effeithlonrwydd Ynni Cartref a Mwy fel a benderfynir gan y Cynulliad yn unol â rheoliad 7(2); ac

ystyr “Rheoliadau 2000” (“the 2000 Regulations”) yw Rheoliadau Cynlluniau Effeithlonrwydd Ynni Cartref (Cymru) 2000(4).

Darpariaethau Dirymu a Darpariaethau Trosiannol

3.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff (2), dirymir Rheoliadau 2000.

(2Yn ddarostyngedig i baragraff (3), mae Rheoliadau 2000 yn parhau i fod yn gymwys i unrhyw achos pan fo cais am grant wedi'i wneud cyn 14 Chwefror 2007 o dan Rheoliadau hynny.

(3Os yw person wedi gwneud cais am grant o dan Reoliadau 2000 ond nad yw'r cais wedi'i gymeradwyo neu ei wrthod cyn i'r Rheoliadau hyn ddod i rym, neu os yw'r cais wedi'i gymeradwyo ond na ddechreuwyd ar yr un o'r gweithfeydd, rhaid i'r asiantaeth ardal, pan fydd y ceisydd yn gofyn am hynny, ymdrin â'r cais fel pe byddai wedi'i wneud o dan y Rheoliadau hyn.

Pwerau'r Cynulliad

4.—(1Caiff y Cynulliad benodi un person neu fwy, a phob un o'r cyfryw bersonau i'w alw'n asiantaeth ardal, i gyflawni o ran Cymru neu o ran unrhyw ardal o Gymru y cyfryw swyddogaethau ag y byddo'r Cynulliad yn eu pennu at ddiben dyfarnu grantiau a threfnu i gyflawni'r gweithfeydd o dan HEES a HEES a Mwy neu mewn cysylltiad mewn ffordd arall â hynny.

(2Caiff y Cynulliad ddwyn i ben benodiad o dan baragraff (1).

(3Wrth ddyfarnu grant neu drefnu ar gyfer ei ddyfarnu, caiff y Cynulliad osod y cyfryw amodau ag y gwêl yn dda.

(4Pan fydd y Cynulliad wedi gwneud trefniant gyda pherson heblaw'r ceisydd, ar gyfer ariannu gweithfeydd y mae grant yn daladwy mewn cysylltiad â hwy, caiff dalu'r cyfan neu ran o unrhyw grant i'r person arall hwnnw.

Personau a gaiff wneud cais am grant

5.—(1Caniateir i gais gweithfeydd am grant o dan HEES mewn cysylltiad ag annedd gael ei ystyried os y person y daw'r cais oddi wrtho yw deiliad yr annedd a'i fod yn meddiannu'r annedd fel ei unig breswylfa neu ei brif breswylfa ac os yw ar yr adeg y gwneir y cais—

(a)yn derbyn budd-dâl, neu'n byw gyda phartner sy'n derbyn budd-dâl, a hwnnw'n fudd-dal y mae paragraff (3) yn gymwys iddo, ac yn derbyn budd-dal plant (o dan adran 141 o Ddeddf 1992), neu'n byw gyda phartner sy'n derbyn budd-dal plant (o dan adran 141 o Ddeddf 1992), a hynny mewn perthynas â phlentyn o dan 16 oed; neu

(b)yn derbyn budd-dal, neu'n byw gyda phartner sy'n derbyn budd-dal, a hwnnw'n fudd-dal y mae paragraff (3) yn gymwys iddo, ac yn fenyw feichiog, neu'n byw gyda phartner sy'n fenyw feichiog, y rhoddwyd tystysgrif mamolaeth ar ei chyfer mewn perthynas â'r beichiogrwydd dan sylw (tystysgrif y darperir ar ei chyfer yn rheoliad 2(3) o Reoliadau Nawdd Cymdeithasol (Tystiolaeth Feddygol) 1976(5) a rheoliad 2 o Reoliadau Tâl Mamolaeth Statudol (Tystiolaeth Feddygol) 1987(6)); neu

(c)yn berson ag incwm perthnasol sy'n llai na £15,460 ac yn derbyn credyd treth plant neu gredyd treth gwaith (y naill a'r llall fel y darperir ar eu cyfer yn Neddf Credydau Treth 2002(7)); neu

(ch)yn berson ag incwm perthnasol sy'n llai na £15,460 ac yn derbyn budd-dal plant (o dan adran 141 o Ddeddf 1992) neu'n byw gyda phartner sy'n derbyn budd-dal plant (o dan adran 141 o Ddeddf 1992), a hynny mewn perthynas â phlentyn o dan 16 mlwydd oed.

(2Caniateir i gais gweithfeydd am grant o dan HEES a Mwy mewn cysylltiad ag annedd gael ei ystyried os y person y daw'r cais oddi wrtho yw deiliad yr annedd a'i fod yn meddiannu'r annedd fel ei unig breswylfa neu ei brif breswylfa ac os yw ar yr adeg y gwneir y cais—

(a)yn 80 oed neu'n hŷn, neu'n byw gyda phartner sy'n 80 oed neu'n hŷn; neu

(b)yn derbyn budd-dal, neu'n byw gyda phartner sy'n derbyn budd-dâl, a hwnnw'n fudd-dal y mae paragraff (4) yn gymwys iddo; neu

(c)yn derbyn budd-dal neu'n byw gyda phartner sy'n derbyn budd-dal, a hwnnw'n fudd-dal y mae paragraff (3) yn gymwys iddo, ac wedi cyrraedd ei 60 oed, neu'n byw gyda phartner sydd wedi cyrraedd ei 60 oed; neu

(ch)yn derbyn credyd pensiwn y wladwriaeth neu'n byw gyda phartner sy'n derbyn credyd pensiwn y wladwriaeth (a hwnnw'n gredyd pensiwn fel a ddarperir yn Neddf Credyd Pensiynau'r Wladwriaeth 2002(8)); neu

(d)yn rhiant unigol ac yn derbyn budd-dal y mae paragraff (3) yn gymwys iddo; neu

(dd)yn derbyn budd-dal plant (o dan adran 141 o Ddeddf 1992) neu'n byw gyda phartner sy'n derbyn budd-dal plant (o dan adran 141 o Ddeddf 1992) a hynny mewn perthynas â phlentyn o dan 16 mlwydd oed, a bod budd-dal y mae paragraff (4) yn gymwys iddo'n cael ei dalu i'r plentyn hwnnw neu mewn cysylltiad ag ef.

(3Mae'r paragraff hwn yn gymwys i fudd-dal y dreth gyngor, budd-dal tai a chymhorthdal incwm (bob un ohonynt fel y darperir ar eu cyfer yn Rhan VII o Ddeddf 1992) ac i lwfans ceiswyr gwaith ar sail incwm (o fewn yr ystyr yn Neddf Ceiswyr Gwaith 1995(9)).

(4Mae'r paragraff hwn yn gymwys i'r canlynol—

(a)credyd treth gwaith sy'n cynnwys elfen anabledd;

(b)lwfans gweini, sef—

(i)lwfans gweini o dan adran 64 o Ddeddf 1992; neu

(ii)codiad mewn lwfans sy'n daladwy mewn cysylltiad â gweini cyson o dan gynllun o dan baragraff 4 o Ran I o Atodlen 8 i Ddeddf 1992(10) neu sy'n cael effaith o dan y paragraff hwnnw; neu

(iii)taliad a wneir o dan erthygl 14, 15, 16, 43 neu 44 o Gynllun Anafiadau Personol (Dinasyddion Preifat) 1983(11) neu unrhyw daliad tebyg; neu

(iv)unrhyw daliad sydd wedi'i seilio ar yr angen am rywun i weini ac a delir gan bensiwn anabledd rhyfel; neu

(v)unrhyw daliad a fwriedir fel iawndal am fethiant i dalu taliad, lwfans neu bensiwn a grybwyllir yn unrhyw un o is-baragraffau (i) i (iv) o'r diffiniad hwn;

(c)lwfans byw i'r anabl (o dan adran 71 o Ddeddf 1992(12));

(ch)pensiwn anabledd rhyfel o fewn yr ystyr yn adran 139(11) o Ddeddf Gweinyddu Nawdd Cymdeithasol 1992(13) neu o dan erthygl 10 o Orchymyn Pensiynau Lluoedd Arfog y Llynges, y Fyddin a'r Llu Awyr etc. (Anabledd a Marwolaeth) 1983(14) i'r graddau y gwneir y Gorchymyn hwnnw ac eithrio o dan Ddeddf y Llu Awyr (Cyfansoddiad) 1917(15) ynghyd ag—

(i)tâl atodol o ran symudedd o dan erthygl 26A o Orchymyn Pensiynau Lluoedd Arfog y Llynges, y Fyddin a'r Llu Awyr etc. (Anabledd a Marwolaeth) 1983(16) (gan gynnwys y cyfryw dâl atodol sy'n daladwy yn rhinwedd cymhwyso'r erthygl honno gan unrhyw gynllun neu orchymyn arall) neu o dan Erthygl 25A o Gynllun Anafiadau Personol (Dinasyddion Preifat) 1983 (gan gynnwys yr erthygl honno fel y'i cymhwysir gan erthygl 48A o'r cynllun hwnnw)(17), neu daliad a fwriedir fel iawndal am fethiant i dalu tâl atodol o'r fath; neu

(ii)taliad o dan reoliadau a wnaed o dan baragraff 7(2)(b) o Atodlen 8 i Ddeddf 1992 (lwfans gweini cyson);

(d)budd-dal y dreth gyngor, budd-dal tai a chymhorthdal incwm (ym mhob achos pan fydd taliad yn cynnwys premiwm anabledd fel y darperir ar ei gyfer yn Rheoliadau Budd-dal Tai 2006(18), Rheoliadau Budd-dal Tai (Personau sydd wedi cyrraedd oedran sy'n eu gwneud yn gymwys i gredyd pensiwn y wladwriaeth) 2006(19), Rheoliadau Budd-dal y Dreth Gyngor 2006(20), Rheoliadau Budd-dal y Dreth Gyngor (Personau sydd wedi cyrraedd oedran sy'n eu gwneud yn gymwys i gredyd pensiwn y wladwriaeth) 2006(21), a Rheoliadau Atodiad Incwm (Cyffredinol) 1987(22) yn eu trefn) a budd-dal anabledd anafiadau diwydiannol o dan adrannau 103 i 105 o Ddeddf 1992 (pan yw'n cynnwys lwfans gweini cyson).

(5Caniateir ystyried cais am grant rhannol oddi wrth berson sydd wedi cyrraedd ei drigain oed neu sy'n byw gyda phartner sydd wedi cyrraedd ei drigain oed, a'r person neu'r partner hwnnw'n meddiannu'r annedd fel ei unig breswylfa neu ei brif breswylfa ac naill ai'n berchen ar rydd?ddaliad yr annedd neu â buddiant lesddaliadol ynddi o ddim llai nag 21 o flynyddoedd.

(6Yn achos anheddau amlfeddiannaeth, mae'r asiantaeth ardal i benderfynu nifer y deiliaid cymwys yn yr annedd sy'n destun cais. Os bydd nifer y deiliaid cymwys yn fwy na 50% o gyfanswm nifer y deiliaid yn yr annedd, caniateir i gais mewn cysylltiad â'r annedd gael ei ystyried.

(7At ddibenion y rheoliad hwn—

ystyr “deiliad” (“householder”) yw person sydd, ar ei ben ei hun neu ar y cyd ag eraill, yn rhydd-ddeiliad neu'n denant;

mae i “incwm perthnasol” yr ystyr sydd i “relevant income” yn Rhan 1 o Ddeddf Credydau Treth 2002;

ystyr “partner” (“partner”) yw priod, partner sifil neu berson y mae'r ceisydd yn cyd-fyw ag ef fel gwr neu wraig neu fel partner sifil;

ystyr “rhiant unigol” (“lone parent”) yw rhiant neu berson arall nad yw'n cyd-fyw â phartner, ac sy'n derbyn budd-dal plant (o dan adran 141 o Ddeddf 1992) mewn perthynas â phlentyn o dan 16 oed ac sy'n gyfrifol am y plentyn hwnnw ac yn aelod o'r un aelwyd â'r plentyn hwnnw; ac

mae “tenant” (“tenant”) yn cynnwys is-denant a pherson â—

(a)

meddiannaeth warchodedig neu denantiaeth statudol o dan Ddeddf Rhenti (Amaethyddiaeth) 1976(23);

(b)

tenantiaeth statudol o dan Ddeddf Rhenti 1977(24);

(c)

tenantiaeth ddiogel o dan Ran IV o Ddeddf Tai 1985(25) neu denantiaeth ragarweiniol o dan Bennod I o Ran V i Ddeddf Tai 1996(26);

(ch)

trwydded i feddiannu a honno'n drwydded sy'n bodloni'r amodau ym mharagraff 12(a) a (b) (Elusendai) o Atodlen 1 i Ddeddf Tai 1985(27); neu

(d)

meddiannaeth amaethyddol sicr o dan Ran I o Ddeddf Tai 1988(28).

Y dibenion y caniateir cymeradwyo grant ar eu cyfer

6.—(1Caniateir cymeradwyo cais am grant at un neu fwy o'r dibenion a ganlyn—

(a)darparu inswleiddiad mewn unrhyw wagle to hygyrch yn yr annedd, gan gynnwys inswleiddio unrhyw danc dŵr oer ac unrhyw bibellau dŵr mewn gwagle o'r fath;

(b)darparu inswleiddiad rhwng dalennau mewnol ac allanol waliau dwbl yr annedd;

(c)darparu defnydd gwrth-ddrafft i'r annedd neu ynddi ynghyd ag unrhyw gyfrwng awyru ychwanegol ar gyfer unrhyw ystafelloedd na fyddent fel arall yn cael eu hawyru'n ddigonol ar ôl darpariaeth o'r fath;

(ch)darparu inswleiddiad i unrhyw system twymo dwr neu bibellau dwr poeth hygyrch sy'n gysylltiedig â'r system dwymo;

(d)darparu gwresogyddion ystafell sy'n wresogyddion darfudol nwy â rheolaeth thermostat;

(dd)darparu stôr-wresogyddion trydan;

(e)darparu naill ai dwymwr tanddwr ac iddo ddwy elfen ynghyd â thanc wedi'i inswleiddio yn y ffatri neu dwymwr tanddwr trydan neu nwy o fewn silindr dwr poeth presennol;

(f)darparu rheolyddion amser ar gyfer gwresogyddion aer a thwymwyr dwr sy'n rhai trydan;

(ff)gwella effeithlonrwydd ynni unrhyw system gwresogi aer neu dwymo dŵr sydd wedi'i gosod yn yr annedd neu roi rhan newydd yn lle hen ran o'r system neu ei thrwsio;

(g)darparu system gwres canolog nwy, tanwydd solet neu olew (gan gynnwys systemau sy'n cynhyrchu trydan);

(ng)trawsnewid tanau ystafelloedd sy'n danau tanwydd solet agored yn danau ystafelloedd sy'n rhai tanwydd solet caeedig;

(h)darparu system gwres canolog wedi'i chysylltu â grid gwresogi y gymuned leol;

(i)darparu systemau gwresogi aer neu dwymo dwr sy'n defnyddio ynni o ffynonellau adnewyddadwy; ac at y dibenion hyn—

ystyr “ffynonellau adnewyddadwy” (“renewable sources”) yw ffynonellau ynni ac eithrio mawn, tanwydd ffosil neu danwydd niwclear; ac

ystyr “tanwydd ffosil” (“fossil fuel”) yw glo, sylweddau a gynhyrchwyd, boed hynny'n uniongyrchol neu'n anuniongyrchol, o lo, coedlo, nwy naturiol, hylif petroliwm crai neu gynhyrchion petroliwm (ac mae i “nwy naturiol” yr ystyr sydd i “natural gas” ac i “cynhyrchion petroliwm” yr ystyr sydd i “petroleum products” yn Neddf Ynni 1976(29)).

(2Pan fydd cais wedi'i gymeradwyo at un neu fwy o'r dibenion a nodir ym mharagraff (1) caniateir hefyd gymeradwyo grant ar gyfer darparu unrhyw un neu rai o'r canlynol—

(a)cyngor ynni;

(b)lampau ynni-effeithlon.

(3Nid oes unrhyw gais i'w gymeradwyo onid yw'r annedd a thestun pob categori o weithfeydd a grybwyllir yn y cais yn bodloni'r cyfryw amodau ag a bennir o bryd i'w gilydd gan yr asiantaeth ardal gyda chydsyniad y Cynulliad.

(4Rhaid i bob gwaith gydymffurfio â'r cyfryw safonau ag a fyddo wedi'u pennu o bryd i'w gilydd gan yr asiantaeth ardal gyda chydsyniad y Cynulliad a hynny o ran deunyddiau, crefftwaith, a pherfformiad testun y gwaith o ran effeithlonrwydd ynni.

(5At ddibenion y rheoliad hwn, ystyr “gwagle to” (“roof space”) yw gwagle rhwng to annedd a nenfwd unrhyw ystafell a ddefnyddir at ddibenion llety preswyl neu sydd ar gael i'w defnyddio at y diben hwnnw, pan nad yw'r gwagle hwnnw wedi'i wahanu'n gyfan gwbl o'r to gan unrhyw ystafell arall.

Uchafswm y grant

7.—(1Ni chaiff asiantaeth ardal dalu cyfanswm grant mewn cysylltiad â chais gweithfeydd o dan HEES neu HEES a Mwy sy'n fwy na'r lleiaf o'r canlynol—

(a)y swm a godir yn briodol am y gweithfeydd a gyflawnir; neu

(b)uchafswm y grant o dan HEES neu HEES a Mwy fel a benderfynir o bryd i'w gilydd gan y Cynulliad yn unol ag—

(i)cost a/neu argaeledd gweithfeydd a deunyddiau o'r mathau sy'n ofynnol gan y dibenion a bennir yn rheoliad 6 neu mewn cysylltiad â hwy; a

(ii)polisi a blaenoriaethau cyfredol y Cynulliad mewn perthynas ag arbed ynni.

(2Caiff y Cynulliad benderfynu gwahanol uchafsymiau o dan baragraff (1)—

(a)ar gyfer grantiau mewn cysylltiad ag anheddau amlfeddiannaeth;

(b)trwy gyfeirio at unrhyw gategori neu gyfuniad o gategorïau o weithfeydd a gynhwysir o fewn y Cynllun HEES neu'r Cynllun HEES a Mwy fel a benderfynir gan y Cynulliad; ac

(c)trwy gyfeirio at ba un ai cais gweithfeydd neu gais grant rhannol yw'r cais.

(3Yn ddarostyngedig i baragraffau (1) a (2) o'r rheoliad hwn, caiff asiantaeth ardal, gyda chydsyniad y Cynulliad, bennu—

(a)uchafswm y grant y caniateir ei dalu; a

(b)sail cyfrifo grant wedi'i mynegi yn nhermau symiau fesul uned fesur,

ar gyfer unrhyw gategori neu gyfuniad o gategorïau o weithfeydd a gynhwysir o fewn y Cynllun HEES neu'r Cynllun HEES a Mwy.

(4Yn achos cais grant rhannol, 25% o'r uchafswm grant a benderfynir gan y Cynulliad mewn cysylltiad â HEES yw'r uchafswm grant y caniateir ei dalu i geisydd.

Ceisiadau am grant

8.—(1Mae cais am grant i'w wneud i'r asiantaeth ardal ar gyfer yr ardal y mae'r annedd wedi'i lleoli ynddi.

(2Rhaid i gais fod yn gais ysgrifenedig, wedi'i lofnodi naill ai gan y ceisydd neu gan berson a bennir neu berson o ddisgrifiad a bennir gan yr asiantaeth ardal a rhaid iddo fod ar y cyfryw ffurf, yn ddarostyngedig i baragraff (3) o'r rheoliad hwn, ag a bennir gan yr asiantaeth ardal.

(3Rhaid i'r cais gynnwys y cyfryw fanylion ag a fyddo'n cael eu pennu o bryd i'w gilydd gan yr asiantaeth ardal gyda chydsyniad y Cynulliad a rhaid iddo gynnwys—

(a)manylion yr annedd y ceisir y grant mewn cysylltiad â hi ac os tenant yw'r ceisydd, enw a chyfeiriad y landlord;

(b)gwybodaeth ynghylch y ceisydd sy'n ddigonol i'r asiantaeth ardal benderfynu p'un a yw'r ceisydd yn bodloni'r meini prawf cymhwystra a bennir yn rheoliad 5;

(c)datganiad yn dweud y rhoddir mynediad rhesymol i'r annedd y gwneir cais mewn cysylltiad â hi i gynrychiolydd asiantaeth ardal er mwyn archwilio'r annedd a chyflawni'r gweithfeydd; ac

(ch)datganiad yn dweud p'un a yw'r ceisydd neu p'un a yw unrhyw berson arall, hyd y gwyr y ceisydd, wedi derbyn grant neu gymorth neu wedi gwneud cais am grant neu gymorth o dan y Rheoliadau hyn mewn cysylltiad â'r annedd sy'n destun y cais.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(30).

D. Elis-Thomas

Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

13 Chwefror 2007

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae adran 15(1) o Ddeddf Nawdd Cymdeithasol 1990 (fel y'i diwygiwyd gan adran 142 o Ddeddf Grantiau Tai, Adeiladu ac Adfywio 1996) yn darparu y caiff yr Ysgrifennydd Gwladol ddyfarnu, neu drefnu i ddyfarnu, grantiau tuag at gostau gwaith neu gyngor i wella inswleiddio thermol neu i leihau neu atal fel arall wastraff ynni mewn anheddau.

Mae pŵer yr Ysgrifennydd Gwladol o dan yr adran hon bellach yn arferadwy gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru o ran Cymru yn rhinwedd Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999.

Mae Rheoliadau Cynlluniau Effeithlonrwydd Ynni Cartref (Cymru) 2000 (“Rheoliadau 2000”) yn nodi'r cynlluniau ar gyfer darparu grantiau i bersonau ar incwm isel sy'n bersonau y mae ganddynt blant, neu sy'n bobl hŷn, yn bobl anabl neu'n bobl sy'n wael eu hiechyd. Roedd Rheoliadau 2000 yn darparu ar gyfer hawl i dderbyn grant, ar gyfer penderfynu gan y Cynulliad gategorïau'r gweithfeydd, y lefelau uchaf o grantiau sydd ar gael, at ba ddibenion y caiff grantiau eu cymeradwyo, a'r dull o wneud cais am grant.

Mae'r Rheoliadau hyn yn dirymu Rheoliadau 2000 ac yn eu hailddeddfu gyda diwygiadau.

Mae rheoliad 3 yn cynnwys darpariaethau dirymu a darpariaethau trosiannol. Os yw person wedi gwneud cais o dan Reoliadau 2000, ac nad yw'r gweithfeydd wedi'u dechrau, caniateir ymdrin â'r cais yn unol â'r Rheoliadau hyn.

Yn rhinwedd adran 17 o Ddeddf Dehongli 1978, mae penderfyniadau a wneir o dan reoliad 7(2) o Reoliadau 2000 yn parhau i fod yn effeithiol fel pe baent wedi'u gwneud o dan reoliad 7(2) o'r Rheoliadau hyn.

Yn ychwanegol at fân ddiwygiadau a rhai drafftio, gwneir y newidiadau canlynol i sylwedd Rheoliadau 2000.

Mae rheoliad 5(1) yn cynnwys yn y rhestr o bersonau sy'n gymwys i wneud cais am grant Cynllun Effeithlonrwydd Ynni Cartref (“HEES”) (a) unrhyw berson sy'n derbyn credyd treth plant a chredyd treth gwaith (y darperir ar eu cyfer gan Ddeddf Credydau Treth 2002) ac y mae ganddo incwm perthnasol sy'n llai na £15,460 a (b) person sy'n derbyn budd-dal, neu sy'n byw gyda phartner sy'n derbyn budd-dal, a hwnnw'n un o blith budd-daliadau penodol a phenodedig, ac sy'n fenyw feichiog, neu sy'n byw gyda phartner sy'n fenyw feichiog, y mae tystysgrif mamolaeth wedi'i rhoi mewn cysylltiad â hi.

Mae rheoliad 5(2) yn darparu bod y rhai sy'n 80 oed neu'n hŷn, neu sydd â phartneriaid sy'n 80 oed neu'n hŷn, yn gymwys i gael cymorth o dan HEES a Mwy.

Mae rheoliad 5(2) hefyd yn newid rhestr y personau sy'n gymwys i wneud cais am Grant HEES a Mwy er mwyn iddi gynnwys y rhai sy'n derbyn Credyd Pensiwn y Wladwriaeth.

Mae'r Rheoliadau'n cyfeirio at “partner” yn lle “priod” ac mae rheoliad 5(7) yn darparu bod “partner” yn cynnwys partner sifil.

Mae rheoliad 6(1)(g) yn ymestyn rhestr y dibenion y caiff grantiau eu cymeradwyo ar eu cyfer er mwyn iddi gynnwys systemau gwres canolog tanwydd solet a systemau sy'n cynhyrchu trydan.

Mae rheoliad 6(1)(i) yn ymestyn rhestr y dibenion y caiff grantiau eu cymeradwyo ar eu cyfer er mwyn iddi gynnwys systemau gwresogi aer a chynhesu dwr sy'n seiliedig ar ffynonellau ynni sy'n rhai adnewyddadwy.

(1)

1990 p.27; diwygiwyd adran 15 gan adran 142 o Ddeddf Grantiau Tai, Adeiladu ac Adfywio 1996 (p.53).

(2)

Gweler Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).

(3)

1992 p.4. Diwygiwyd Rhan VII (budd-daliadau cysylltiedig ag incwm) gan Ddeddf Credydau Treth 2002 (p. 21) adran 60. Mae diwygiadau niferus eraill i'r Ddeddf hon.

(5)

O.S.1976/615; diwygiwyd rheoliad 2(3) gan O.S. 1987/409 a 2001/2931.

(6)

O.S.1987/235; diwygiwyd rheoliad 2 gan O.S. 2001/2931.

(7)

2002 p.21; mae adran 1 yn gwneud darpariaeth ar gyfer credyd treth plant a chredyd treth gwaith, ac mae adran 11 a rheoliad 9 o O.S. 2002/2005 fel y'u hamnewidir gan reoliad 8 o O.S. 2003/701 yn gwneud darpariaeth ar gyfer yr elfen anabledd. Diwygiwyd y Ddeddf ddiwethaf gan Ran 1 o Atodlen 2 i Ddeddf Budd-dal Plant 2005 (p.6).

(8)

2002 p.16. Diwygiwyd y Ddeddf ddiwethaf gan O.S. 2006/343.

(9)

1995 p.18 fel y'i diwygiwyd gan adran 254 o Ddeddf Partneriaeth Sifil 2004, a Rhan 7 o Atodlen 24 iddi.

(10)

Gweler adran 5 o Ddeddf Anafiadau a Chlefydau Diwydiannol (Hen Achosion) 1975 (p.16) a ddiddymwyd, gydag arbedion, gan Ddeddf Nawdd Cymdeithasol (Darpariaethau Canlyniadol) 1992 (p.6).

(11)

O.S. 1983/686; diwygiwyd erthyglau 14, 15 ac 16 gan O.S. 2001/420 ac erthygl 16 gan O.S. 1984/1675.

(12)

Diwygiwyd adran 71(3) gan adran 67(1) o Ddeddf Diwygio Lles a Phensiynau 1999 (p.30).

(13)

1992 (p.5); diwygiwyd adran 139(11) gan adran 722 o Ddeddf Treth Incwm (Enillion a Phensiynau) 2003 (p.1) ac Atodlen 6 iddi, a chan adran 254 o Ddeddf Partneriaeth Sifil 2004 a pharagraff 65 o Ran 4 o Atodlen 24 iddi.

(14)

O.S. 1983/883; diwygiwyd erthygl 10 gan O.S. 2005/851, 1996/1638 ac 1993/598.

(15)

1917 p.51, y mae diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i'r Rheoliadau hyn.

(16)

O.S. 1983/883; ychwanegwyd erthygl 26A gan O.S. 1983/1116 ac fe'i diwygiwyd gan O.S. 1983/1521, 1986/592, 1990/1308, 1991/766, 1992/710, 1995/766, 1997/286 a 2001/409.

(17)

O.S. 1983/686; ychwanegwyd erthygl 25A gan O.S. 1983/1164 ac fe'i diwygiwyd gan O.S. 1983/1540, 1986/628, 1990/1300, 1991/708, 1992/702, 1995/455, 1997/812 a 2001/420.

(22)

O.S. 1987/1967 fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan O.S 2005/337.

(23)

1976 p.80; mae adrannau 2 a 3 yn gwneud darpariaeth ar gyfer meddiannaeth warchodedig, ac adrannau 4 a 5 ar gyfer tenantiaeth statudol. Diwygiwyd adran 3 gan adran 76(3) o Ddeddf Tai 1980 (p.51) ac adran 81 o Ddeddf Partneriaeth Sifil 2004 ac Atodlen 8 iddi, adran 4 gan y darpariaethau hynny ac adran 155, a pharagraff 72 o Atodlen 23, i'r Ddeddf Rhenti 1977 (p. 42) ac adrannau 39 a 140 o Ddeddf Tai 1988 (p. 50) ac Atodlen 4 (Rhan II) ac Atodlen 18 iddi, a diwygiwyd adran 5 ddiwethaf gan adrannau 128 a 137 o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol a'r Heddlu 2001 (p.16), ac Atodlen 6 iddi. Gwnaed diwygiadau eraill i Ddeddf 1976 nad ydynt yn berthnasol i'r Rheoliadau hyn.

(24)

1977 p.42, fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan baragraff 94 o Ran 1 o Atodlen 4 i Ddeddf Diwygio Cyfraith Gyfansoddiadol 2005 (p.4).

(25)

1985 p.68, fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan O.S. 2005/1379.

(26)

1996 p.52, fel y'i diwygiad ddiwethaf gan adran 179 o Ddeddf Tai 2004 (p.34).

(27)

1985 p.68; amnewidiwyd paragraff 12 o Atodlen 1 gan baragraff 12 o Atodlen 6 i Ddeddf Elusennau 1992 (p.41).

(28)

1988 p.50, fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan O.S.2005/1379.

(30)

1998 p.38.