Rheoliadau Cynhyrchion sy'n Dod o Anifeiliaid (Mewnforion Trydydd Gwledydd) (Cymru) 2007

RHAN 10LL+CDatganiadau Brys

Brigiadau clefyd mewn trydydd gwledyddLL+C

61.—(1Pan fydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru neu'r Asiantaeth yn cael ar ddeall fod yna mewn trydedd wlad, neu pan fydd ganddo neu ganddi seiliau rhesymol dros amau fod yno,—

(a)clefyd y cyfeirir ato yng Nghyfarwyddeb y Cyngor 82/894/EEC (ar hysbysu o glefydau anifeiliaid o fewn y Gymuned)(1); neu

(b)milhaint neu glefyd arall neu ffenomen neu amgylchiad sy'n debyg o fod yn fygythiad difrifol i iechyd anifeiliaid neu i iechyd y cyhoedd,

neu os oes unrhyw reswm difrifol arall yn ymwneud ag iechyd anifeiliaid neu iechyd y cyhoedd yn gwarantu hynny, caiff atal unrhyw gynnyrch o'r cyfan neu o unrhyw ran o'r drydedd wlad honno rhag cael ei gyflwyno i Gymru, neu caiff osod amodau ar ei gyflwyno, drwy ddatganiad.

(2Rhaid i ddatganiad o'r fath—

(a)fod yn ysgrifenedig;

(b)cael ei gyhoeddi mewn modd y gwêl y Cynulliad Cenedlaethol neu'r Asiantaeth, yn ôl y digwydd, yn dda; a

(c)rhaid iddo bennu'r cynhyrchion a'r drydedd wlad neu'r rhan ohoni sydd o dan sylw.

(3Rhaid i ddatganiad sy'n gosod amodau ar gyflwyno unrhyw gynnyrch o drydedd wlad neu ran ohoni i Gymru bennu'r amodau hynny.

(4Pan fo datganiad mewn grym sy'n atal cyflwyno unrhyw gynnyrch, ni chaiff neb gyflwyno'r cynnyrch hwnnw i Gymru os yw'n tarddu o'r drydedd wlad neu'r rhan ohoni a bennir yn y datganiad.

(5Pan fo datganiad mewn grym sy'n gosod amodau ar gyflwyno unrhyw gynnyrch, ni chaiff neb gyflwyno'r cynnyrch hwnnw i Gymru os yw'n tarddu o'r drydedd wlad neu'r rhan ohoni a bennir yn y datganiad oni bai bod y cynnyrch yn cydymffurfio â'r amodau a bennir yn y datganiad.

(6Ceir addasu, atal neu ddirymu datganiad gan ddatganiad ysgrifenedig pellach a gyhoeddir, cyhyd ag y bo'n ymarferol, yn yr un modd ac i'r un graddau â'r datganiad gwreiddiol.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Rhl. 61 mewn grym ar 14.2.2007, gweler rhl. 1(2)

(1)

OJ Rhif L378, 31.12.82, t. 58, fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Benderfyniad y Comisiwn 2004/216/EC (OJ Rhif L67, 5.3.2004, t. 27).