xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
62. Ni chaiff neb—
(a)rhwystro unrhyw berson yn fwriadol wrth iddo arfer pwer a roddwyd gan reoliad 8 na 9 nac wrth iddo gyflawni unrhyw swyddogaeth reoliadol arall;
(b)methu cydymffurfio heb esgus rhesymol â gofyniad a osodwyd arno yn unol â rheoliad 8 neu 9 neu fethu rhoi i unrhyw berson sy'n arfer pwer a roddwyd gan y rheoliadau hynny, neu sy'n cyflawni unrhyw swyddogaeth reoliadol arall, unrhyw gymorth neu wybodaeth y gall fod ar y person hwnnw angen rhesymol amdano neu amdani er mwyn arfer y pwer neu gyflawni'r swyddogaeth; na
(c)rhoi i unrhyw berson sy'n arfer pwer a roddwyd gan reoliad 8 neu 9 neu sy'n cyflawni unrhyw swyddogaeth reoliadol arall unrhyw wybodaeth y mae'n gwybod ei bod yn ffug neu'n gamarweiniol.
Gwybodaeth Cychwyn
I1Rhl. 62 mewn grym ar 14.2.2007, gweler rhl. 1(2)
63.—(1) Mewn unrhyw achos am dramgwydd o dorri un o ddarpariaethau'r rheoliadau a restrir yn Atodlen 4, bydd yn amddiffyniad i'r person a gyhuddir brofi ei fod wedi cymryd pob rhagofal rhesymol ac wedi arfer pob diwydrwydd dyladwy i osgoi cyflawni'r tramgwydd ei hun neu i osgoi iddo gael ei gyflawni gan berson o dan ei reolaeth.
(2) Os yw'r amddiffyniad sy'n cael ei ddarparu gan baragraff (1) mewn unrhyw achos yn cynnwys honni bod y tramgwydd wedi'i gyflawni oherwydd gweithred neu fethiant person arall, neu oherwydd i'r person a gyhuddir ddibynnu ar wybodaeth a ddarparwyd gan berson arall, ni chaiff y person a gyhuddir, heb ganiatâd y Llys, yr hawl i ddibynnu ar yr amddiffyniad hwnnw, oni bai—
(a)o leiaf saith niwrnod clir cyn y gwrandawiad; a
(b)pan fo'r sawl a gyhuddir wedi ymddangos o flaen llys, neu wedi cael ei ddwyn gerbron llys, o'r blaen mewn cysylltiad â'r tramgwydd honedig, o fewn un mis i'r ymddangosiad cyntaf hwnnw gan y sawl a gyhuddir,
ei fod wedi cyflwyno hysbysiad ysgrifenedig i'r erlynydd yn rhoi unrhyw wybodaeth ag a oedd yn ei feddiant bryd hynny sy'n fodd i adnabod neu'n gymorth i adnabod y person arall hwnnw.
(3) Mewn unrhyw achos am dramgwydd o dan reoliad 5(9), mae'n amddiffyniad i'r sawl a gyhuddir brofi ei fod yn credu'n rhesymol—
(a)bod y datgeliad yn gyfreithlon; neu
(b)bod yr wybodaeth eisoes wedi ei rhyddhau'n gyfreithlon i'r cyhoedd.
Gwybodaeth Cychwyn
I2Rhl. 63 mewn grym ar 14.2.2007, gweler rhl. 1(2)
64. Bydd unrhyw un—
(a)sy'n torri un o ddarpariaethau'r Rheoliadau hyn, ac eithrio—
(i)y darpariaethau a geir yn rheoliadau 8(3) a 19(3) sy'n cyfeirio at dalu costau; a
(ii)y darpariaethau a geir yn rheoliadau 23(7), 28, 43(5), 45(2) a 57; neu
(b)sy'n methu â chydymffurfio â hysbysiad a gyflwynir iddo o dan y Rheoliadau hyn,
yn euog o dramgwydd.
Gwybodaeth Cychwyn
I3Rhl. 64 mewn grym ar 14.2.2007, gweler rhl. 1(2)
65.—(1) Mae'r sawl sy'n euog o'r tramgwydd o dorri rheoliad 62(a) neu (b) yn agored i'w gollfarnu'n ddiannod i ddirwy nad yw'n uwch na lefel 5 ar y raddfa safonol neu i garchariad am gyfnod nad yw'n hwy na thri mis, neu'r ddau.
(2) Mae'r sawl sy'n euog o unrhyw dramgwydd arall o dan y Rheoliadau hyn yn atebol—
(a)o'i gollfarnu'n ddiannod, i ddirwy heb fod yn uwch na'r uchafswm statudol, neu i garchariad am gyfnod nad yw'n hwy na thri mis neu i'r ddau;
(b)o'i gollfarnu ar dditiad, i garchariad am gyfnod nad yw'n hwy na dwy flynedd, neu i ddirwy neu i'r ddau.
Gwybodaeth Cychwyn
I4Rhl. 65 mewn grym ar 14.2.2007, gweler rhl. 1(2)
66.—(1) Os profir bod tramgwydd o dan y Rheoliadau hyn sydd wedi'i gyflawni gan gorff corfforaethol—
(a)wedi'i gyflawni drwy gydsyniad neu ymoddefiad swyddog, neu
(b)i'w briodoli i unrhyw esgeulustod ar ei ran,
bydd y swyddog, yn ogystal â'r corff corfforaethol, yn euog o'r tramgwydd a bydd yn agored i gael ei erlyn a'i gosbi yn unol â hynny.
(2) Pan fo materion corff corfforaethol yn cael eu rheoli gan ei aelodau, mae paragraff (1) yn gymwys mewn perthynas â gweithredoedd a diffygion aelod mewn cysylltiad â'i swyddogaethau rheoli fel pe bai'r aelod hwnnw yn un o gyfarwyddwyr y corff.
(3) ystyr “swyddog”, mewn perthynas â chorff corfforaethol yw cyfarwyddwr, aelod o'r pwyllgor rheoli, prif weithredwr, rheolwr, ysgrifennydd neu swyddog cyffelyb o'r corff, neu berson sy'n honni ei fod yn gweithredu mewn unrhyw swydd o'r fath.
Gwybodaeth Cychwyn
I5Rhl. 66 mewn grym ar 14.2.2007, gweler rhl. 1(2)
67. Os profir bod tramgwydd o dan y Rheoliadau hyn sydd wedi'i gyflawni gan bartneriaeth Albanaidd wedi'i gyflawni gyda chydsyniad neu ymoddefiad partner, neu os gellir priodoli'r tramgwydd hwnnw i unrhyw esgeulustod ar ran partner, bernir bod y partner hwnnw, yn ogystal â'r bartneriaeth, yn euog o'r tramgwydd hwnnw a bydd yn agored i gael ei erlyn a'i gosbi yn unol â hynny.
Gwybodaeth Cychwyn
I6Rhl. 67 mewn grym ar 14.2.2007, gweler rhl. 1(2)