- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol).
50. Yn y Rhan hon, ystyr “tystysgrif allforio”, mewn perthynas â chynnyrch a ddychwelwyd, yw tystysgrif—
(a)a ddyroddwyd gan awdurdodau gwlad yr allforio gwreiddiol; a
(b)sy'n datgan bod y cynnyrch a ddychwelwyd yn cydymffurfio â'r safonau perthnasol sydd gan y wlad sy'n derbyn y cynnyrch ac yr allforiwyd y cynnyrch iddo'n wreiddiol ar gyfer iechyd anifeiliaid neu iechyd y cyhoedd.
51. Rhaid i unrhyw berson sy'n rhoi gerbron, yn unol â rheoliad 18 gynnyrch a ddychwelwyd a'i ddogfennau gofynnol i filfeddyg swyddogol, roi'r canlynol gerbron gyda'r dogfennau gofynnol—
(a)y dystysgrif allforio sy'n ymwneud â'r cynnyrch a ddychwelwyd neu gopi y dilyswyd ei fod yn gopi cywir gan yr awdurdod a'i dyroddodd;
(b)datganiad o'r rhesymau pam y cafodd y cynnyrch a ddychwelwyd ei wrthod gan y drydedd wlad;
(c)datganiad gan y person sy'n gyfrifol dros y cynnyrch a ddychwelwyd yn dweud y bu cydymffurfiaeth, ers i'r cynnyrch a ddychwelwyd gael ei allforio'n wreiddiol o diriogaeth dollau'r Gymuned, ag amodau mewnforio ynglyn â storio a chludo mewn perthynas â'r cynnyrch a ddychwelwyd; a naill ai
(ch)yn achos cynnyrch a ddychwelwyd na chafodd ei allforio'n wreiddiol mewn cynhwysydd wedi'i selio, datganiad gan y person sy'n gyfrifol dros y cynnyrch a ddychwelwyd nad yw'r cynnyrch wedi cael ei drafod mewn unrhyw fodd heblaw, yn achos cynhyrchion sydd wedi'u pecynnu'n unig, am lwytho a dadlwytho pecynnau sydd heb eu hagor; neu
(d)yn achos cynnyrch a ddychwelwyd ac a allforiwyd yn wreiddiol mewn cynhwysydd wedi'i selio, datganiad gan y cludydd sy'n dod â'r cynnyrch i Gymru nad yw wedi'i ddadlwytho o'r cynhwysydd y cafodd ei allforio ynddo, nac wedi cael ei drafod fel arall.
52. Dim ond os oes gan y milfeddyg swyddogol seilau rhesymol dros gredu—
(a)na chydymffurfiwyd, neu na chydymffurfir, â'r Rheoliadau hyn mewn perthynas â'r cynnyrch a ddychwelwyd;
(b)nad yw'r cynnyrch a ddychwelwyd yn cydymffurfio â'r amodau mewnforio; neu
(c)nad yw manylion adnabod neu gyrchfan y cynnyrch a ddychwelwyd yn cyfateb i'r wybodaeth a roddwyd ar unrhyw ddogfen berthnasol
y mae angen i unrhyw berson y mae rheoliad 18 yn ei gwneud yn ofynnol iddo roi cynnyrch a ddychwelwyd gerbron y milfeddyg swyddogol wrth safle arolygu ar y ffin, neu sicrhau fod y cynnyrch hwnnw yn cael ei roi ger ei fron, ganiatáu i filfeddyg swyddogol neu gynorthwyydd a benodwyd yn unol â rheoliad 6(1)(b) neu 6(2)(c), gyflawni gwiriad ffisegol ar y cynnyrch a ddychwelwyd.
53.—(1) Ni chaiff neb symud cynnyrch a ddychwelwyd o safle arolygu ar y ffin, na pheri iddo gael ei symud,—
(a)heb awdurdodiad ysgrifenedig y milfeddyg swyddogol yno; a
(b)oni bai ei fod wedi'i gynnwys mewn cynhwysydd sy'n ddiogel rhag gollyngiadau neu mewn cyfrwng cludo sydd wedi'i selio gan un o swyddogion Refeniw a Thollau neu gan y milfeddyg swyddogol wrth y safle arolygu hwnnw ar y ffin.
(2) Rhaid i'r person sy'n gyfrifol dros gynnyrch a ddychwelwyd ac a symudwyd yn unol â pharagraff (1), ac unrhyw gludydd sydd â gofal drosto am y tro sicrhau—
(a)ei fod yn cael ei gludo'n uniongyrchol i'w sefydliad tarddiad Cymunedol yn y cynhwysydd seliedig sy'n ddiogel rhag gollyngiadau neu yn y cyfrwng cludo y cyfeiriwyd ato ym mharagraff (b); a
(b)bod ei ddogfen fynediad filfeddygol gyffredin yn mynd gydag ef hyd oni fydd y cynnyrch a ddychwelwyd yn cyrraedd ei sefydliad tarddiad Cymunedol.
(3) Ni chaiff neb—
(a)dorri'r seliau ar y cynhwysydd neu'r cyfrwng cludo y mae'r cynnyrch a ddychwelwyd yn cael ei gludo ynddo;
(b)dadlwytho'r cynnyrch a ddychwelwyd;
(c)hollti'r llwyth neu'r rhanlwyth sy'n cynnwys y cynnyrch a ddychwelwyd; na
(ch)peri i'r cynnyrch a ddychwelwyd gael ei drafod mewn unrhyw fodd,
nes i'r cynnyrch gyrraedd ei sefydliad tarddiad Cymunedol.
(4) Rhaid i weithredydd y sefydliad tarddiad Cymunedol roi hysbysiad ysgrifenedig ar unwaith i'r swyddog milfeddygol sy'n gyfrifol ar ran y Cynulliad Cenedlaethol neu'r Asiantaeth ar gyfer y sefydliad hwnnw fod y cynnyrch a ddychwelwyd wedi cyrraedd yno.
The Whole Instrument you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.
Would you like to continue?
The Whole Instrument you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download.
Would you like to continue?
Yr Offeryn Cyfan you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.
Would you like to continue?
Y Rhestrau you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.
Would you like to continue?
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys