Chwilio Deddfwriaeth

Rheoliadau Cynhyrchion sy'n Dod o Anifeiliaid (Mewnforion Trydydd Gwledydd) (Cymru) 2007

Newidiadau dros amser i: RHAN 9

 Help about opening options

Alternative versions:

Statws

Golwg cyfnod mewn amser fel yr oedd ar 19/10/2011.

Newidiadau i ddeddfwriaeth:

Mae newidiadau yn dal heb eu gwneud i Rheoliadau Cynhyrchion sy'n Dod o Anifeiliaid (Mewnforion Trydydd Gwledydd) (Cymru) 2007. Mae unrhyw newidiadau sydd wedi cael eu gwneud yn barod gan y tîm yn ymddangos yn y cynnwys a chyfeirir atynt gydag anodiadau. Help about Changes to Legislation

Close

Changes to Legislation

Nid yw newidiadau ac effeithiau sydd eto i'w gwneud gan y tîm golygyddol ond yn berthnasol wrth edrych ar y fersiwn ddiweddaraf neu fersiwn ragolygol o ddeddfwriaeth. Felly, nid oes modd eu gweld wrth edrych ar ddeddfwriaeth fel y mae ar bwynt penodol mewn amser. Er mwyn gweld yr wybodaeth 'Newidiadau i Ddeddfwriaeth' ar gyfer y ddarpariaeth hon ewch yn ôl i'r fersiwn ddiweddaraf gan ddefnyddio'r opsiynau yn y blwch 'Pa Fersiwn' uchod.

RHAN 9LL+CFfioedd am Wiriadau Milfeddygol

Talu ffioeddLL+C

54.—(1Codir ffi resymol a gaiff ei chyfrifo yn unol â rheoliadau 55 a 56 ac Atodlen 3 am wiriadau milfeddygol a gyflawnwyd ar lwyth wrth safle arolygu ar y ffin.

(2Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol, awdurdod lleol neu'r Asiantaeth godi'r ffi a bydd yn daladwy i ba un bynnag sy'n gyfrifol, yn unol â rheoliad 5, am weithredu a gorfodi'r Rheoliadau hyn wrth y safle arolygu ar y ffin lle cyflawnir y gwiriadau milfeddygol.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Rhl. 54 mewn grym ar 14.2.2007, gweler rhl. 1(2)

Cyfrifo ffioeddLL+C

55.  Rhaid i'r ffi am wiriadau milfeddygol gwmpasu'r costau a restrir yn Rhan I o Atodlen 3 a rhaid ei chyfrifo yn unol â Rhan II, III, IV neu V, yn ôl y digwydd, o Atodlen 3.

Gwybodaeth Cychwyn

I2Rhl. 55 mewn grym ar 14.2.2007, gweler rhl. 1(2)

Trosi'r ffioedd i sterlingLL+C

56.  Rhaid i ffioedd a fynegir mewn ewros yn Atodlen 3 gael eu trosi'n bunnoedd sterling yn ôl y gyfradd drosi sy'n cael ei chyhoeddi yng nghyfres “C” o Gylchgrawn Swyddogol y Cymunedau Ewropeaidd ym mis Medi'r flwyddyn galendr cyn y flwyddyn y cyflawnwyd y gwiriad milfeddygol perthnasol ynddi.

Gwybodaeth Cychwyn

I3Rhl. 56 mewn grym ar 14.2.2007, gweler rhl. 1(2)

Atebolrwydd am ffioeddLL+C

57.  Pan ofynnir iddo wneud hynny, rhaid i'r person sy'n gyfrifol dros lwyth dalu'r ffi a godir am y gwiriadau milfeddygol a gyflawnwyd ar y llwyth.

Gwybodaeth Cychwyn

I4Rhl. 57 mewn grym ar 14.2.2007, gweler rhl. 1(2)

Gwybodaeth am ffioeddLL+C

58.—(1Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol, awdurdod lleol neu'r Asiantaeth, os gofynnir yn ysgrifenedig iddo neu iddi wneud hynny, ddarparu ar gyfer unrhyw berson sy'n rhoi cynhyrchion gerbron yn unol â rheoliad 18, neu ar gyfer unrhyw gorff sy'n cynrychioli personau o'r fath, fanylion y cyfrifiadau y mae'n eu defnyddio i benderfynu ffioedd am wiriadau milfeddygol a rhaid iddynt gymryd i ystyriaeth unrhyw sylwadau a gyflwynwyd gan berson neu gorff o'r fath wrth benderfynu ffioedd o'r fath.

(2Os gofynnir iddo'n ysgrifenedig wneud hynny gan y Cynulliad Cenedlaethol neu'r Asiantaeth, rhaid i awdurdod lleol ddarparu ar gyfer y Cynulliad Cenedlaethol neu'r Asiantaeth, yn ôl y digwydd, yr wybodaeth y gallai fod ei hangen arno neu arni mewn cysylltiad â chyfrifo'r ffioedd am wiriadau milfeddygol, ynghyd â chopïau o unrhyw sylwadau ysgrifenedig a wnaed gan bersonau neu gyrff y cyfeirir atynt ym mharagraff (1).

Gwybodaeth Cychwyn

I5Rhl. 58 mewn grym ar 14.2.2007, gweler rhl. 1(2)

Apelau yn erbyn ffioedd a dalwyd i awdurdodau lleolLL+C

59.—(1Caiff unrhyw berson sydd wedi talu ffi am wiriadau milfeddygol i awdurdod lleol ac unrhyw gorff sy'n cynrychioli personau o'r fath, o fewn un niwrnod ar hugain o godi'r ffi, apelio'n ysgrifenedig ar y sail bod swm y ffi yn afresymol—

(a)i'r Cynulliad Cenedlaethol, os ffi am wiriadau milfeddygol a gyflawnwyd ac eithrio mewn perthynas ag unrhyw un o swyddogaethau'r Asiantaeth yw'r ffi; a

(b)i'r Asiantaeth, os ffi am wiriadau milfeddygol a gyflawnwyd mewn perthynas ag unrhyw un o swyddogaethau'r Asiantaeth yw'r ffi.

(2Pan fo apêl o dan baragraff (1), rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol neu'r Asiantaeth, yn ôl y digwydd—

(a)ymgynghori â'r awdurdod lleol; a

(b)os caiff ei fodloni neu ei bodloni bod swm y ffi yn afresymol, rhaid iddo neu iddi hysbysu'r awdurdod lleol.

(3Pan gaiff ei hysbysu o dan baragraff (2)(b), rhaid i'r awdurdod lleol—

(a)ailgyfrifo swm y ffi yn unol ag unrhyw gyfarwyddiadau a roddwyd gan y Cynulliad Cenedlaethol neu'r Asiantaeth, yn ôl y digwydd; a

(b)ad-dalu i'r person a dalodd y ffi y gwahaniaeth rhwng y ffi wreiddiol a'r ffi a ailgyfrifwyd.

Gwybodaeth Cychwyn

I6Rhl. 59 mewn grym ar 14.2.2007, gweler rhl. 1(2)

Apelau yn erbyn ffioedd a dalwyd i'r Cynulliad Cenedlaethol neu i'r AsiantaethLL+C

60.—(1Caiff unrhyw berson sydd wedi talu ffi am wiriadau milfeddygol i'r Cynulliad Cenedlaethol neu i'r Asiantaeth, ac unrhyw gorff sy'n cynrychioli personau o'r fath, cyn pen un diwrnod ar hugain ar ôl i'r ffi gael ei chodi, roi hysbysiad ysgrifenedig o'i ddymuniad i apelio i berson annibynnol a benodwyd gan y Cynulliad Cenedlaethol, neu pan fo'r ffi wedi'i thalu i'r Asiantaeth, i berson annibynnol a benodwyd gan yr Asiantaeth, ar y sail bod swm y ffi yn afresymol.

(2Pan fo'r ffi wedi ei thalu i'r Asiantaeth, rhaid i swyddogaethau'r Cynulliad Cenedlaethol ym mharagraff (3) a (4) gael eu cyflawni gan yr Asiantaeth.

(3Pan fo apelydd yn rhoi hysbysiad o'i ddymuniad i ymddangos gerbron person annibynnol a benodwyd at y diben hwnnw a chael gwrandawiad ganddo -—

(a)rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol benodi person annibynnol i wrando ar y sylwadau a phennu terfyn amser erbyn pryd y mae'n rhaid cyflwyno sylwadau i'r person annibynnol hwnnw;

(b)rhaid i'r person a benodir beidio â bod, ac eithrio gyda chydsyniad yr apelydd, yn un o swyddogion y Cynulliad Cenedlaethol nac yn un sy'n ei wasanaethu;

(c)os yw'r apelydd yn gofyn am hynny, rhaid i'r gwrandawiad fod yn un cyhoeddus;

(ch)rhaid i'r person annibynnol gyflwyno adroddiad i'r Cynulliad Cenedlaethol; a

(d)os bydd yr apelydd yn gofyn amdano, rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol ddarparu copi iddo o adroddiad y person annibynnol.

(4Os caiff y person annibynnol ei fodloni bod swm y ffi yn afresymol, rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol ailgyfrifo'r ffi yn unol ag unrhyw gyfarwyddiadau a roddir gan y person annibynnol ac ad-dalu i'r person a dalodd y ffi y gwahaniaeth rhwng y ffi wreiddiol a'r ffi a ailgyfrifwyd.

Gwybodaeth Cychwyn

I7Rhl. 60 mewn grym ar 14.2.2007, gweler rhl. 1(2)

Yn ôl i’r brig

Options/Help

Print Options

You have chosen to open The Whole Instrument

The Whole Instrument you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.

Would you like to continue?

You have chosen to open The Whole Instrument as a PDF

The Whole Instrument you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download.

Would you like to continue?

You have chosen to open yr Offeryn Cyfan

Yr Offeryn Cyfan you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.

Would you like to continue?

You have chosen to open Schedules only

Y Rhestrau you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.

Would you like to continue?

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Pwynt Penodol mewn Amser: This becomes available after navigating to view revised legislation as it stood at a certain point in time via Advanced Features > Show Timeline of Changes or via a point in time advanced search. A point in time version is only available in English.

Close

Gweler y wybodaeth ychwanegol ochr yn ochr â’r cynnwys

Rhychwant ddaearyddol: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.

Dangos Llinell Amser Newidiadau: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill
Close

Llinell Amser Newidiadau

This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.

Close

Rhagor o Adnoddau

Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel gwnaed fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • slipiau cywiro

liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys

  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill