Rheoliadau Cynhyrchion sy'n Dod o Anifeiliaid (Mewnforion Trydydd Gwledydd) (Cymru) 2007

Gwahardd cyflwyno cynhyrchion ac eithrio wrth safleoedd arolygu ar y ffinLL+C

16—(1Ni chaniateir dod ag unrhyw gynnyrch i Gymru o drydedd wlad ac eithrio wrth safle arolygu ar y ffin a ddynodwyd ac a gymeradwywyd ar gyfer gwiriadau milfeddygol ar y cynnyrch hwnnw.

(2Ni chaniateir dod ag unrhyw gynnyrch Erthygl 9 i Gymru, y mae'r safle arolygu ar y ffin ar gyfer ei gyflwyno y tu allan i'r Deyrnas Unedig, ac y mae'r safle arolygu ar y ffin ar gyfer ei gyrchfan yng Nghymru, ac eithrio wrth safle arolygu ar y ffin a ddynodwyd ac a gymeradwywyd ar gyfer gwiriadau milfeddygol ar y cynnyrch hwnnw.

(3At ddibenion cymhwyso Deddf Rheoli Tollau Tramor a Chartref 1979(1) i gynhyrchion sy'n cael eu cyflwyno'n groes i'r rheoliad hwn, amser eu mewnforio fydd yr amser cyflwyno yn unol ag adran 5 o'r Ddeddf honno.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Rhl. 16 mewn grym ar 14.2.2007, gweler rhl. 1(2)

(1)

1979 p. 2, fel y'i diwygiwyd gan O.S. 1992/3095.