xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
30.—(1) Caiff unrhyw berson sy'n gwaredu deunydd yn unol â rheoliad 29 drwy ei gladdu ar safle tirlenwi wneud hynny ar safle tirlenwi a gymeradwyir o dan y rheoliad hwn yn unig.
(2) Dim ond os yw wedi'i fodloni ar y canlynol y caiff y Cynulliad Cenedlaethol gymeradwyo safle tirlenwi at ddibenion gwaredu deunydd o dan reoliad 29—
(a)y byddai'r deunydd yn cael ei gladdu heb oedi gormodol er mwyn atal adar gwyllt rhag mynd ato;
(b)bod y gweithredydd wedi cymryd camau digonol i atal carnolion rhag mynd i'r rhan o'r safle tirlenwi sydd heb ei hadfer ac i'r rhan o'r safle tirlenwi sy'n cael ei gweithio ar y pryd; ac
(c)y byddai'r gweithredydd yn cydymffurfio ag unrhyw amodau sy'n gysylltiedig â'r gymeradwyaeth.
(3) Rhaid i'r gymeradwyaeth fod yn ysgrifenedig, caniateir ei gwneud yn ddarostyngedig i amodau a'i diwygio neu ei hatal drwy hysbysiad ysgrifenedig yn unol â rheoliad 32.
(4) Os bydd y Cynulliad Cenedlaethol yn gwrthod rhoi cymeradwyaeth, neu'n rhoi cymeradwyaeth yn ddarostyngedig i amod, rhaid iddo wneud y canlynol drwy gyflwyno hysbysiad ysgrifenedig i'r ceisydd-—
(a)rhoi'r rhesymau dros wneud hynny; a
(b)esbonio hawl y ceisydd i gyflwyno sylwadau ysgrifenedig i'r Cynulliad Cenedlaethol ac i ymddangos gerbron person annibynnol a benodwyd gan y Cynulliad Cenedlaethol a chael gwrandawiad gan y person hwnnw yn unol â rheoliad 33.
Gwybodaeth Cychwyn
I1Rhl. 30 mewn grym ar 14.2.2007, gweler rhl. 1(2)