xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
4.—(1) Nid yw Rhannau 3 i 9 yn gymwys i gynhyrchion y daethpwyd â hwy i Gymru o drydedd wlad gydag awdurdodiad blaenorol y Cynulliad Cenedlaethol fel samplau masnachu, i'w harddangos, neu ar gyfer astudiaethau neu ddadansoddiadau penodol.
(2) O ran awdurdodiad gan y Cynulliad Cenedlaethol—
(a)rhaid iddo fod yn ysgrifenedig;
(b)yn achos cynhyrchion y deuir â hwy i mewn—
(i)fel samplau masnachu neu i'w harddangos, rhaid ei wneud yn ddarostyngedig i amod bod rhaid peidio â'u marchnata; a
(ii)yn achos astudiaethau penodol neu ddadansoddiadau penodol, rhaid ei wneud yn ddarostyngedig i amod bod rhaid peidio â'u cyflenwi i bobl eu bwyta neu eu hyfed;
(c)caniateir ei wneud yn ddarostyngedig i unrhyw amodau eraill (os o gwbl) y mae'n credu eu bod yn angenrheidiol i ddiogelu iechyd y cyhoedd neu iechyd anifeiliaid; ac
(ch)caniateir ei ddiwygio, ei atal neu ei ddirymu, mewn ysgrifen, ar unrhyw adeg.
(3) Ni chaiff neb—
(a)defnyddio cynnyrch y mae'r esemptiad ym mharagraff (1) yn gymwys iddo at unrhyw ddiben nad yw wedi'i awdurdodi ar ei gyfer, na thorri unrhyw amod y cyfeiriwyd ato ym mharagraff (2)(b); na
(b)torri unrhyw amod arall yn awdurdodiad y Cynulliad Cenedlaethol mewn perthynas â chynnyrch o'r fath.
(4) Yn achos cynhyrchion y deuir â hwy i Gymru i'w harddangos neu ar gyfer astudiaethau ac unrhyw nifer o gynhyrchion y deuir â hwy i mewn ar gyfer dadansoddiadau ac sy'n weddill ar ôl y dadansoddiadau hynny, rhaid i'r person a ddaeth â hwy i mewn wneud y canlynol cyn gynted â phosibl pan fydd yr arddangosfa, yr astudiaethau neu'r dadansoddiadau wedi gorffen, a'i wneud yn unol ag unrhyw amodau a bennir yn awdurdodiad y Cynulliad Cenedlaethol—
(a)eu hanfon ymlaen i drydedd wlad; neu
(b)eu gwaredu'n unol â Rheoliad (EC) Rhif 1774/2002 a Rheoliadau Sgil-gynhyrchion Anifeiliaid (Cymru) 2006(1).
(5) Pan fo swyddog awdurdodedig yn credu bod darpariaeth ym mharagraff (3)(a) neu (4) wedi'i thorri mewn perthynas â chynnyrch, rhaid iddo, drwy hysbysiad ysgrifenedig a gyflwynir i'r person y mae'n ymddangos ei fod â gofal dros y cynnyrch hwnnw, ei gymryd o dan ei ofal a gwneud y naill neu'r llall o'r canlynol—
(a)ei anfon ymlaen i gyrchfan y cytunwyd arni gyda'r person a ddaeth â'r cynnyrch i Gymru, sef cyrchfan sydd wedi'i lleoli mewn trydedd wlad, o fewn cyfnod o drigain o ddiwrnodau gan ddechrau ar y diwrnod ar ôl cyflwyno'r hysbysiad; neu
(b)ei waredu fel pe bai'n ddeunydd Categori 1 o dan Reoliad (EC) Rhif 1774/2002 yn y cyfleusterau a ddarparwyd at y dibenion hynny ac sydd agosaf at y man lle y mae'r swyddog awdurdodedig yn ei gymryd o dan ei ofal.
(6) Pan fo swyddog awdurdodedig yn credu bod paragraff (3)(b) wedi'i dorri mewn perthynas â chynnyrch, caiff gymryd y cynnyrch hwnnw o dan ei ofal drwy hysbysiad ysgrifenedig a gyflwynir i'r person y mae'n ymddangos ei fod â gofal dros y cynnyrch, a chymryd y naill neu'r llall o'r camau a bennwyd ym mharagraff (5)(a) a (b).
(7) Nid yw Rhan 3, ac eithrio rheoliad 25, na Rhannau 4 i 9 yn gymwys i'r canlynol-—
(a)llaeth powdr babanod, bwyd babanod, neu fwydydd arbennig y mae eu hangen am resymau meddygol ac sy'n cynnwys cig, cynhyrchion cig, llaeth, neu gynhyrchion llaeth o drydedd wlad—
(i)os ydynt ym magiau personol teithiwr ac wedi'u bwriadu iddo ef ei hun eu bwyta, eu hyfed neu eu defnyddio;
(ii)os nad oes mwy ohonynt nag y byddai'n rhesymol i unigolyn eu bwyta neu eu hyfed;
(iii)os nad oes angen eu cadw mewn oergell cyn eu hagor;
(iv)os ydynt yn gynhyrchion brand patent sydd wedi'u pecynnu i'w gwerthu'n uniongyrchol i'r defnyddiwr olaf; a
(v)os yw'r deunydd y maent wedi'u pacio ynddo yn gyfan, oni bai eu bod yn cael eu defnyddio ar y pryd;
(b)cig, cynhyrchion cig, llaeth neu gynhyrchion llaeth o Ynysoedd Ffaröe, Kalaallit Nunaat (Greenland), Gweriniaeth Gwlad yr Iâ, Liechtenstein, neu'r Swistir—
(i)os ydynt ym magiau personol teithiwr, neu os cânt eu hanfon drwy'r post neu eu cludo gan gludydd (ac eithrio fel rhan o'r broses fasnachu neu fel sampl fasnachu) a'u bod wedi'u cyfeirio at unigolyn preifat yng Nghymru;
(ii)os ydynt wedi'u bwriadu i'r teithiwr ei hun neu, yn ôl y digwydd, y sawl y cyfeirir hwy ato, eu bwyta neu eu hyfed; a
(iii)os nad yw cyfanswm eu pwysau ym magiau personol unrhyw deithiwr neu mewn unrhyw lwyth a anfonir drwy'r post neu a gludir gan gludydd at unigolyn preifat yn fwy na 5 cilogram; neu
(c)os yw'r cynhyrchion ym magiau personol teithiwr a'u bod wedi'u bwriadu iddo ef eu bwyta neu eu hyfed, neu os ydynt yn cael eu hanfon drwy'r post neu eu cludo gan gludydd (ac eithrio fel rhan o broses fasnachu neu fel sampl fasnachu) a'u bod wedi'u cyfeirio at unigolyn preifat yng Nghymru, a'u bod wedi'u bwriadu iddo ef eu bwyta neu eu hyfed, ac—
(i)os nad cig, cynhyrchion cig, llaeth neu gynhyrchion llaeth ydynt;
(ii)os nad ydynt yn pwyso mwy nag un cilogram;
(iii)os ydynt yn dod o drydedd wlad neu o ran o drydedd wlad y caniateir eu mewnforio ohoni yn unol â rhestr a lunnir drwy offeryn yn Atodlen 1; a
(iv)os nad ydynt yn dod o drydedd wlad neu o ran o drydedd wlad y gwaherddir eu mewnforio oddi yno gan unrhyw offeryn yn Atodlen 1.
(8) Yn y rheoliad hwn ystyr “cig” (“meat”), “cynhyrchion cig” (“meat products”), “llaeth” (“milk”) a “cynhyrchion llaeth” (“milk products”) yw cynhyrchion o'r mathau hynny a restrir yn adrannau 01 — 04 o dan y pennawd I.2, Teitl I yn yr Atodiad i Benderfyniad y Comisiwn 2002/349/EC.
Gwybodaeth Cychwyn
I1Rhl. 4 mewn grym ar 14.2.2007, gweler rhl. 1(2)