Rheoliadau Cynhyrchion sy'n Dod o Anifeiliaid (Mewnforion Trydydd Gwledydd) (Cymru) 2007

Symud cynhyrchion tramwyLL+C

42.—(1Ni chaiff neb symud cynnyrch tramwy o'r safle arolygu ar y ffin ar gyfer dod i mewn na pheri iddo gael ei symud oni bai bod y person sy'n gyfrifol dros y cynnyrch wedi rhoi ymrwymiad ysgrifenedig i'r milfeddyg swyddogol yno y bydd yn dilyn ac yn cyflawni gofynion rheoliad 43.

(2Pan fydd cynnyrch tramwy yn cael ei gludo, ar unrhyw adeg ar ôl ei symud o safle arolygu ar y ffin ar gyfer dod i mewn, drwy Gymru ar hyd ffordd, rheilffordd, dyfrffordd neu drwy'r awyr—

(a)rhaid i'r person sy'n gyfrifol dros y cynnyrch tramwy ac unrhyw gludydd sydd â gofal drosto am y tro sicrhau ei fod yn cael ei gludo mewn cerbyd neu gynhwysydd sydd wedi'i selio gan y Comisiynwyr neu gan yr awdurdodau milfeddygol sy'n gyfrifol am y safle arolygu ar y ffin ar gyfer dod i mewn, bod ei ddogfennau gofynnol, unrhyw gyfieithiadau sy'n ofynnol o dan reoliad 18(4) a'i ddogfen fynediad filfeddygol gyffredin yn mynd gydag ef i'r safle arolygu ar y ffin ar gyfer ymadael, a hynny o dan oruchwyliaeth y Comisiynwyr yn unol â'r weithdrefn tramwy allanol y cyfeirir ati yn Erthyglau 91 i 97 o'r Cod Tollau;

(b)ni chaiff neb—

(i)torri'r seliau ar y cerbyd neu'r cynhwysydd y mae'r cynnyrch tramwy yn cael ei gludo ynddo;

(ii)dadlwytho'r cynnyrch tramwy;

(iii)hollti'r llwyth na'r rhanlwyth sy'n cynnwys y cynnyrch tramwy; na

(iv)peri i'r cynnyrch tramwy gael ei drafod mewn unrhyw fodd; ac

(c)rhaid i'r person sy'n gyfrifol dros y cynnyrch tramwy ac unrhyw gludydd sydd â gofal drosto am y tro sicrhau ei fod yn ymadael â thiriogaeth dollau'r Gymuned wrth y safle arolygu ar y ffin ar gyfer ymadael heb fod yn hwy na 30 o ddiwrnodau ar ôl ei symud o'r safle arolygu ar y ffin ar gyfer dod i mewn (heb gynnwys dyddiad ei symud).

(3Ni chaiff neb gyflwyno cynnyrch tramwy i barth rhydd, warws rydd na warws dollau yng Nghymru.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Rhl. 42 mewn grym ar 14.2.2007, gweler rhl. 1(2)