Rheoliadau Cynhyrchion sy'n Dod o Anifeiliaid (Mewnforion Trydydd Gwledydd) (Cymru) 2007

Gwiriad ffisegol o gynhyrchion a ddychwelwydLL+C

52.  Dim ond os oes gan y milfeddyg swyddogol seilau rhesymol dros gredu—

(a)na chydymffurfiwyd, neu na chydymffurfir, â'r Rheoliadau hyn mewn perthynas â'r cynnyrch a ddychwelwyd;

(b)nad yw'r cynnyrch a ddychwelwyd yn cydymffurfio â'r amodau mewnforio; neu

(c)nad yw manylion adnabod neu gyrchfan y cynnyrch a ddychwelwyd yn cyfateb i'r wybodaeth a roddwyd ar unrhyw ddogfen berthnasol

y mae angen i unrhyw berson y mae rheoliad 18 yn ei gwneud yn ofynnol iddo roi cynnyrch a ddychwelwyd gerbron y milfeddyg swyddogol wrth safle arolygu ar y ffin, neu sicrhau fod y cynnyrch hwnnw yn cael ei roi ger ei fron, ganiatáu i filfeddyg swyddogol neu gynorthwyydd a benodwyd yn unol â rheoliad 6(1)(b) neu 6(2)(c), gyflawni gwiriad ffisegol ar y cynnyrch a ddychwelwyd.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Rhl. 52 mewn grym ar 14.2.2007, gweler rhl. 1(2)