Rheoliadau Cynhyrchion sy'n Dod o Anifeiliaid (Mewnforion Trydydd Gwledydd) (Cymru) 2007

Cyflwyno hysbysiadauLL+C

68.—(1Caniateir i unrhyw hysbysiad a gyflwynir o dan y Rheoliadau hyn gan y Cynulliad Cenedlaethol, yr Asiantaeth, milfeddyg swyddogol, arolygydd pysgod swyddogol neu swyddog awdurdodedig gael ei gyflwyno i berson drwy—

(a)ei ddanfon at y person hwnnw;

(b)ei adael ym mhriod gyfeiriad y person hwnnw; neu

(c)ei bostio i briod gyfeiriad y person hwnnw.

(2Rhaid i unrhyw hysbysiad o'r fath sydd i'w gyflwyno i gorff corfforaethol neu gymdeithas anghorfforaethol ac eithrio partneriaeth gael ei gyflwyno'n briodol i ysgrifennydd neu glerc y corff hwnnw neu i un o swyddogion tebyg eraill y corff.

(3Rhaid i unrhyw hysbysiad o'r fath sydd i'w gyflwyno i bartneriaeth (gan gynnwys partneriaeth Albanaidd) gael ei gyflwyno'n briodol i bartner neu berson sy'n rheoli'r busnes partneriaeth neu sy'n rheolwr arno.

(4Yn ddarostyngedig i baragraffau (5) a (6), at ddibenion y rheoliad hwn, priod gyfeiriad unrhyw berson y mae hysbysiad i'w gyflwyno iddo, fydd ei gyfeiriad hysbys diwethaf ac eithrio pan mai'r canlynol fydd y priod gyfeirad—

(a)yn achos corff corfforaethol neu ei ysgrifennydd neu ei glerc, cyfeiriad swyddfa gofrestredig neu brif swyddfa y corff corfforaethol;

(b)yn achos cymdeithas anghorfforaethol (ac eithrio partneriaeth) neu ei hysgrifennydd neu ei chlerc, cyfeiriad prif swyddfa'r gymdeithas; ac

(c)yn achos partneriaeth (gan gynnwys partneriaeth Albanaidd) neu berson sy'n rheoli'r busnes partneriaeth neu sy'n rheolwr arno, cyfeiriad prif swyddfa'r bartneriaeth.

(5Pan fo'r person y mae'r hysbysiad i'w gyflwyno iddo yn gwmni sydd wedi'i gofrestru, neu'n bartneriaeth sy'n cynnal busnes, y tu allan i'r Deyrnas Unedig, a bod gan y cwmni neu'r bartneriaeth swyddfa o fewn y Deyrnas Unedig, ei brif swyddfa o fewn y Deyrnas Unedig fydd prif swyddfa'r cwmni hwnnw neu'r bartneriaeth honno at ddibenion paragraff (4).

(6Os yw'r person y mae unrhyw hysbysiad o'r fath i'w gyflwyno iddo wedi rhoi i'r person sydd i gyflwyno'r hysbysiad gyfeiriad yn unol ag unrhyw un o ddarpariaethau'r Rheoliadau hyn, rhaid ymdrin â'r cyfeiriad hwnnw fel priod gyfeiriad y person y mae'r hysbysiad i'w gyflwyno iddo at ddibenion y rheoliad hwn.

(7At ddibenion y rheoliad hwn ystyr “postio” (“posting”) mewn perthynas â hysbysiad yw ei anfon drwy ddull rhagdaledig drwy wasanaeth post sy'n ceisio danfon dogfennau drwy'r post o fewn y Deyrnas Unedig heb fod yn ddiweddarach na'r diwrnod gwaith nesaf ym mhob achos neu ran amlaf, a danfon dogfennau drwy'r post y tu allan i'r Deyrnas Unedig o fewn y cyfnod sy'n rhesymol o dan yr holl amgylchiadau.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Rhl. 68 mewn grym ar 14.2.2007, gweler rhl. 1(2)