Rheoliadau Cynhyrchion sy'n Dod o Anifeiliaid (Mewnforion Trydydd Gwledydd) (Cymru) 2007

Pwerau ynglŷn â dogfennauLL+C

9.—(1Caiff milfeddyg swyddogol, arolygydd pysgod swyddogol neu swyddog awdurdodedig-—

(a)ei gwneud yn ofynnol i unrhyw berson y mae'n ymddangos ei fod â gofal dros gynnyrch, unrhyw berson sy'n gyfrifol am gynnyrch ac unrhyw swyddog corfforaethol, cyflogai, gwas neu asiant unrhyw bersonau o'r fath, ddangos unrhyw ddogfen berthnasol sydd yn ei feddiant neu o dan ei reolaeth ac sy'n ymwneud â'r cynnyrch, a rhoi unrhyw wybodaeth ychwanegol sydd yn ei feddiant neu o dan ei reolaeth ac sy'n ymwneud â'r cynnyrch, ac y mae'n rhesymol i'r milfeddyg swyddogol, yr arolygydd pysgod swyddogol neu'r swyddog awdurdodedig ofyn amdani;

(b)archwilio unrhyw ddogfen berthnasol sy'n ymwneud â chynnyrch ac, os yw'n cael ei chadw drwy gyfrwng cyfrifiadur, caiff fynd at unrhyw gyfrifiadur ac aparatws neu ddeunydd cysylltiedig a ddefnyddir neu a ddefnyddiwyd mewn cysylltiad â'r ddogfen berthnasol honno, a'u harolygu a gwirio ei weithrediad;

(c)gwneud unrhyw gopïau y gwêl yn dda o unrhyw ddogfen berthnasol sy'n ymwneud â chynnyrch a dal ei afael ar y copïau hynny; ac

(ch)cymryd i'w feddiant, a dal ei afael ar, unrhyw ddogfen berthnasol ynglŷn â chynnyrch y mae gan y milfeddyg swyddogol, yr arolygydd pysgod swyddogol neu'r swyddog awdurdodedig le i gredu y gallai fod angen amdani fel tystiolaeth mewn achos cyfreithiol o dan y Rheoliadau hyn, a phan fo unrhyw ddogfen berthnasol o'r fath yn cael ei chadw drwy gyfrwng cyfrifiadur, ei gwneud yn ofynnol iddi gael ei chynhyrchu ar ffurf a fyddai'n caniatáu iddo fynd â hi oddi yno.

(2Yn y rheoliad hwn, ystyr “swyddog corfforaethol” (“corporate officer”) mewn perthynas â chorff corfforaethol yw cyfarwyddwr, aelod pwyllgor rheoli, prif weithredwr, rheolwr, ysgrifennydd neu swyddog tebyg arall i'r corff, neu berson sy'n honni ei fod yn gweithredu yn rhinwedd swydd o'r fath.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Rhl. 9 mewn grym ar 14.2.2007, gweler rhl. 1(2)