Rheoliadau Adnabod Gwartheg (Cymru) 2007

Pwerau arolygwyr

10.—(1Caiff arolygydd, wrth iddo ddangos dogfen a ddilyswyd yn briodol sy'n dangos ei awdurdod, os gofynnir amdani, ar bob adeg resymol fynd ar dir neu i fangre er mwyn canfod a aethpwyd yn groes i'r canlynol —

(a)y Rheoliadau hyn;

(b)Teitl I o Reoliad (EC) Rhif 1760/2000;

(c)Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 494/98 (sy'n gosod rheolau manwl ar gyfer gweithredu Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 820/97 o ran cymhwyso y lefel isat o sancsiynau yn fframwaith y system ar gyfer adnabod a chofrestru anifeiliaid buchol(1));

(ch)Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 509/1999 (ynghylch estyn y cyfnod hiraf a osodwyd ar gyfer rhoi tagiau clust ar fison(2))

(d)Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 911/2004; ac

(dd)Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 644/2005,

ac yn y rheoliad hwn mae “mangre” yn cynnwys unrhyw le, gosodiad, cerbyd, llong, llestr, cwch, bad, hofranlong neu awyren.

(2Dim ond os caiff y pwer ei ddefnyddio mewn cysylltiad â'r darpariaethau ym mharagraff (1) y mae pwer i fynd i fangre yn cynnwys y pwer i fynd i fangre ddomestig.

(3Caiff arolygydd gyflawni gwiriadau ac archwiliadau sy'n angenrheidiol ar gyfer gorfodi'r darpariaethau ym mharagraff (1), a chaiff yn benodol—

(a)casglu, corlannu ac arolygu unrhyw wartheg, a chaiff ofyn i'r ceidwad drefnu casglu, corlannu a dal gafael ar wartheg;

(b)cymryd samplau;

(c)archwilio unrhyw gofnodion ar ba ffurf bynnag y bônt a chymryd copïau o'r cofnodion hynny;

(ch)symud a chadw unrhyw gofnodion neu ddogfennau (gan gynnwys pasbortau) sy'n ymwneud â'r Rheoliadau hyn;

(d)cael mynediad at unrhyw gyfrifiadur ac unrhyw gyfarpar neu ddeunyddiau cysylltiedig sy'n cael neu sydd wedi cael eu defnyddio mewn cysylltiad â chofnodion, a'u harchwilio a gwirio eu gweithrediad a gall ei gwneud yn ofynnol i unrhyw berson sydd â gofal dros y cyfrifiadur, y cyfarpar neu'r deunydd, neu sydd fel arall yn ymwneud â'u gweithredu, roi i'r arolygydd unrhyw gymorth y bydd yn rhesymol i'r arolygydd ofyn amdano;

(dd)os cedwir cofnodion drwy gyfrwng cyfrifiadur, caiff ei gwneud yn ofynnol bod y cofnodion yn cael eu cynhyrchu ar ffurf sy'n caniatáu mynd â hwy oddi yno;

(e)ei gwneud yn ofynnol i unrhyw dagiau clust nas defnyddiwyd, a chofnod o'u Rhif au gael eu dangos; ac

(f)mynd â chynrychiolydd o'r Comisiwn Ewropeaidd neu unrhyw berson arall y mae o'r farn bod ei angen gydag ef.

(1)

OJ Rhif L60, 28.2.1998, t. 78.

(2)

OJ Rhif L60, 9.3.1999, t. 53,