Offerynnau Statudol Cymru
2007 Rhif 843 (Cy.75)
BWYD, CYMRU
Rheoliadau Cig (Ffioedd Rheolaethau Swyddogol) (Cymru) 2007
Wedi'u gwneud
13 Mawrth 2007
Yn dod i rym
26 Mawrth 2007
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972(1).
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi'i ddynodi(2) at ddibenion yr adran honno ynghylch mesurau sy'n ymwneud â bwyd (gan gynnwys diod) gan gynnwys cynhyrchu sylfaenol o ran bwyd.
Fel sy'n ofynnol gan Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor, sy'n gosod egwyddorion a gofynion cyffredinol cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd(3) fel y diwygiwyd y Rheoliad hwnnw ddiwethaf gan Reoliad (EC) Rhif 1642/2003 Senedd Ewrop a'r Cyngor yn diwygio Rheoliad (EC) Rhif 178/2002 sy'n gosod egwyddorion a gofynion cyffredinol cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd(4) cafwyd ymgynghoriad cyhoeddus agored a thryloyw tra oedd y Rheoliadau canlynol yn cael eu llunio.