Chwilio Deddfwriaeth

Rheoliadau Gwaith Stryd (Cofrestrau, Hysbysiadau, Cyfarwyddiadau a Dynodiadau) (Cymru) 2008

 Help about what version

Pa Fersiwn

Statws

Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Dull cyflwyno hysbysiadau

6.—(1Yn ddarostyngedig i baragraffau (2), (5) a (7), pan fo ymgymerwr dan rwymedigaeth, o dan Ran III o Ddeddf 1991, i roi hysbysiad o fewn cyfnod penodol fod gwaith wedi ei ddechrau, ac eithrio o dan adran 74 rhaid rhoi hysbysiad o'r fath—

(a)drwy ei anfon at y person y mae i'w roi iddo yn ei gyfeiriad priodol gan ddefnyddio cyfathrebiad electronig yn unol â'r amod a osodir ym mharagraff (4);

(b)drwy ei ddanfon at y person hwnnw yn y cyfeiriad hwnnw; neu

(c)drwy unrhyw ddull arall y cytunwyd arno rhwng y person sy'n ei roi a'r person y mae i'w roi iddo.

(2Os nad oes gan berson y mae ymgymerwr dan rwymedigaeth i roi hysbysiad o'r fath iddo drefniadau ar gyfer derbyn ac ymateb i hysbysiadau am unrhyw gyfnod rhwng 4.30pm ac 8.00am y diwrnod wedyn, bydd yr ymgymerwr wedi cydymffurfio â'i rwymedigaeth os bydd yn cyflwyno hysbysiad erbyn 10.00am ar y diwrnod canlynol hwnnw.

(3Yn ddarostyngedig i baragraffau (5) a (7), mewn unrhyw achos arall pan fo'n ofynnol i berson roi hysbysiad neu yr awdurdodir person i'w roi o dan Ran III o Ddeddf 1991, ac eithrio o dan adran 74 neu Atodlen 4B o'r Ddeddf honno, rhaid rhoi hysbysiad o'r fath —

(a)drwy ei anfon at y person y mae i'w roi iddo yn ei gyfeiriad priodol gan ddefnyddio cyfathrebiad electronig yn unol â'r amod a osodir ym mharagraff (4);

(b)drwy ei anfon ato drwy'r post dosbarth cyntaf yn y cyfeiriad hwnnw;

(c)drwy ei ddanfon iddo;

(ch)drwy ei adael yn ei gyfeiriad priodol; neu

(d)drwy unrhyw ddull arall y cytunwyd arno rhwng y person sy'n ei roi a'r person y mae i'w roi iddo.

(4Yr amod y cyfeirir ato ym mharagraff (1)(a) a (3)(a) yw bod rhaid—

(a)bod modd i'r person yr anfonir ef ato gael at yr hysbysiad;

(b)bod yr hysbysiad yn ddarllenadwy ym mhob manylyn perthnasol; ac

(c)bod yr hysbysiad mewn ffurf sy'n caniatáu iddo gael ei gadw er mwyn cyfeirio ato'n ddiweddarach,

ac at y diben hwn, ystyr “yn ddarllenadwy ym mhob manylyn perthnasol” yw bod yr wybodaeth a geir yn yr hysbysiad ar gael i'r person hwnnw i'r un graddau ag y byddai pes rhoddasid ar ffurf hysbysiad wedi'i argraffu.

(5Yn ddarostyngedig i baragraff (7), o 1 Ebrill 2009 a chan gynnwys y dyddiad hwnnw, rhaid cyfnewid pob hysbysiad y mae'n ofynnol ei roi dan Ran III o Ddeddf 1991 gan awdurdod strydoedd neu gan ymgymerwr statudol, ac eithrio hysbysiadau o dan Atodlen 4B i'r Ddeddf honno, rhwng un awdurdod strydoedd ac un arall, rhwng un ymgymerwr statudol ac un arall, a rhwng awdurdod strydoedd ac ymgymerwr statudol gan ddefnyddio cyfathrebiadau electronig yn unol â'r amod a osodir ym mharagraff (4).

(6Yn ddarostyngedig i adran 98(2) (cyfrifo cyfnodau), os defnyddir cyfathrebiad electronig at ddibenion cyflwyno hysbysiad, yna, oni phrofir i'r gwrthwyneb, bernir bod yr hysbysiad wedi'i roi ar y diwrnod ac ar yr adeg a gofnodir gan yr offer trosglwyddo fel dyddiad ac adeg cwblhau'r trosglwyddiad yn foddhaol.

(7Os, ar ôl tri chynnig (a gofnodwyd yn briodol gan y person sy'n cyflwyno'r hysbysiad) i gyflwyno'r hysbysiad drwy ddefnyddio un dull penodol o drosglwyddo cyfathrebiad electronig, na ellir cyflwyno'r hysbysiad, gellir rhoi'r hysbysiad drwy ei gyflwyno i'r person y mae i'w roi iddo mewn unrhyw ddull arall o'r fath ag y mae iddo gyfeiriad priodol neu drwy unrhyw un o'r dulliau eraill y cyfeirir atynt ym mharagraff (1) neu, yn ôl y digwydd, paragraff (3).

(8Yn ddarostyngedig i baragraff (9), at ddibenion y rheoliad hwn, cyfeiriad priodol unrhyw berson y mae hysbysiad i'w roi iddo fydd

(a)os yw'r cyfryw berson—

(i) wedi darparu i'r person sy'n rhoi'r hysbysiad gyfeiriad ar gyfer cyflwyno hysbysiadau o dan Ddeddf 1991, ac eithrio hysbysiadau o dan adran 74 neu Atodlen 4B i'r Ddeddf honno, drwy ddefnyddio dull penodol o drosglwyddo cyfathrebiad electronig; a

(ii)nad yw wedi hysbysu'r olaf fod y cyfeiriad hwnnw wedi'i dynnu'n ôl at y diben hwnnw,

y cyfeiriad hwnnw o ran y dull hwnnw o drosglwyddo;

(b)os yw'r cyfryw berson wedi darparu i'r person sy'n rhoi'r hysbysiad gyfeiriad ar gyfer cyflwyno hysbysiadau o'r fath drwy'r post, y cyfeiriad hwnnw o ran cyflwyno drwy'r post,

(c)os yw'r cyfryw berson wedi darparu i'r person sy'n rhoi'r hysbysiad gyfeiriad ar gyfer cyflwyno hysbysiadau o'r fath drwy unrhyw ddull arall, y cyfeiriad hwnnw o ran y cyfryw ddull arall; ac

(ch)fel arall

(i)yn achos corfforaeth, swyddfa gofrestredig neu brif swyddfa'r gorfforaeth; a

(ii)mewn unrhyw achos arall, cyfeiriad hysbys diwethaf y cyfryw berson.

(9Caiff person ddarparu cyfeiriadau gwahanol ar gyfer hysbysiadau gwahanol neu hysbysiadau o ddosbarthiadau gwahanol.

(10Yn y rheoliad hwn—

  • mae i “cyfathrebiad electronig” yr ystyr a roddir i “electronic communication” yn adran 15(1) o Deddf Cyfathrebiadau Electronig 2000(1); ac

  • ystyr “cyfeiriad” (“address”), o ran dull penodol o drosglwyddo cyfathrebiad electronig, yw unrhyw rif neu gyfeiriad a ddefnyddir at ddibenion y cyfryw ddull o drosglwyddo.

(1)

2000 p.7. Cafodd Adran 15(1) ei diwygio gan Ddeddf Cyfathrebu 2003 (p.21), adran 406(1) ac Atodlen 17, paragraff 158.

Yn ôl i’r brig

Options/Help

Print Options

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill
Close

Rhagor o Adnoddau

Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel gwnaed fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • slipiau cywiro

liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys

  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill