Chwilio Deddfwriaeth

Rheoliadau Gwaith Stryd (Cofrestrau, Hysbysiadau, Cyfarwyddiadau a Dynodiadau) (Cymru) 2008

 Help about what version

Pa Fersiwn

Statws

Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Hysbysiad o ddyddiad cychwyn gwaith

9.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff 2(6) o Atodlen 3A i Ddeddf 1991 a pharagraffau (3), (6) a (7) isod, at ddibenion adran 55, rhaid i ymgymerwr sy'n bwriadu dechrau gwneud gwaith stryd o gategori a bennir yng ngholofn 1 o'r tabl rhoi cyfnod o hysbysiad o ran y categori hwnnw o ddim llai na'r hyn a ddangosir yng ngholofn 2.

Tabl

(1)(2)
Categori o waithY cyfnod
Gwaith pwysig10 diwrnod
Gwaith safonol10 diwrnod
Mân weithiau3 diwrnod

(2Yn ddarostyngedig i reoliad 6(2) a pharagraffau (6) a (7) isod, at ddibenion adran 55, pan fo ymgymerwr yn bwriadu gwneud gwaith brys mewn unrhyw stryd, rhaid iddo roi hysbysiad cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol a beth bynnag o fewn dwy awr o fod wedi dechrau ar y gwaith.

(3Yn ddarostyngedig i baragraffau (6) a (7), pan fo ymgymerwr

(a)wedi cael hysbysiad o dan adran 58(1) yn cyfyngu ar waith stryd yn y dyfodol yn sgil gwaith stryd sylweddol;

(b)yn bwriadu dechrau gwneud

(i)gwaith stryd, ac eithrio gwaith disymwth, cyn i'r cyfyngiad ddod i rym; neu

(ii)gwaith stryd, ac eithrio gwaith a ganiateir o dan adran 58(5), sy'n golygu darnio rhan o'r briffordd y bydd y cyfyngiad yn gymwys iddo, neu dwnelu neu dyllu oddi tani, tra bo'r cyfyngiad yn weithredol; ac

(c)nad yw eisoes wedi rhoi hysbysiad o ran y gwaith hwnnw yn unol â pharagraff (1),

rhaid iddo, at ddibenion adran 55, roi hysbysiad o'r hyn y bwriada ei wneud ddim mwy na 20 o ddiwrnodau o ddyddiad cyhoeddi'r hysbysiad o dan adran 58(1).

(4At ddibenion adran 55(7), y cyfnod a ragnodir yw —

(a)5 niwrnod pan fo'r hysbysiad yn ymwneud â gwaith pwysig neu waith safonol; a

(b)2 ddiwrnod pan fo'n ymwneud â mân weithiau.

(5At ddibenion adran 55(8), y cyfnod a ragnodir yw 2 ddiwrnod yn dechrau gyda'r dyddiad pan fydd yr hysbysiad yn peidio â bod yn effeithiol.

(6Nid oes angen rhoi hysbysiad o dan adran 55(1) pan fo ymgymerwr yn bwriadu dechrau gwneud gwaith stryd

(a)mewn stryd nad yw'n stryd sy'n sensitif i draffig;

(b)ar droetffordd stryd sy'n sensitif i draffig ar adeg sy'n sensitif i draffig; neu

(c)mewn stryd sy'n sensitif i draffig, ar adeg nad yw'n sensitif i draffig,

os nad yw'r gwaith yn golygu darnio'r stryd neu dwnelu neu dyllu oddi tani.

(7Nid yw'n ofynnol i ymgymerwr statudol roi hysbysiad o dan adran 55(1) i unrhyw berson y mae'r paragraff hwn yn gymwys iddo oni bai bod y cyfryw berson wedi gofyn am hysbysiad o'r fath.

(8Mae is-baragraff (7) yn gymwys i —

(a)unrhyw ymgymerwr statudol sydd ag offer yn y stryd y mae'r gwaith yn debygol o effeithio arno; a

(b)unrhyw berson y byddai ganddo fel arall hawl i gael hysbysiad o'r fath yn rhinwedd fod ganddo yn y stryd ran o bibell wasanaeth yn gorwedd rhwng ffin y stryd a'r stopfalf ar y cyfryw bibell yn y stryd honno neu fod ganddo draen yn y stryd honno.

(9Ym mharagraff (8) mae i “draen”, “pibell wasanaeth ” a “stopfalf” yr un ystyr ag sydd i “drain”, “service pipe” a “stopcock” yn Neddf y Diwydiant Dwr 1991(1).

(1)

1991 p.56. Cafodd y diffiniad o “service pipe” yn adran 219(1) ei ddiwygio gan adran 92(6) o Ddeddf Dŵr 2003 (p.37). Mae diwygiadau eraill nad ydynt yn berthnasol i'r Rheoliadau hyn.

Yn ôl i’r brig

Options/Help

Print Options

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill
Close

Rhagor o Adnoddau

Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel gwnaed fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • slipiau cywiro

liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys

  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill