- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Rheoliadau 14, 15 a 16
1. Cyn dynodi stryd yn stryd a warchodir o dan adran 61, rhaid i'r awdurdod strydoedd gyhoeddi hysbysiad o'u bwriad i wneud y dynodiad ar unrhyw wefan a gynhelir gan yr awdurdod at y diben o ddarparu gwybodaeth i'r cyhoedd.
2. Rhaid i'r hysbysiad bennu cyfnod nad yw'n llai na mis o ddyddiad cyhoeddi'r hysbysiad, y caniateir gwneud gwrthwynebiadau o'i fewn.
3. Rhaid i'r awdurdod strydoedd roi copi o'r hysbysiad hwnnw, heb fod yn ddiweddarach na dyddiad cyhoeddi'r hysbysiad,—
(a)i bob ymgymerwr y mae'r awdurdod yn gwybod ei fod yn gweithio yn ei ardal, neu sydd wedi rhoi hysbysiad, naill ai o dan adran 54 neu o dan adran 55 ei fod yn bwriadu gwneud gwaith stryd yn ei ardal;
(b)i bob awdurdod lleol (ac eithrio'r awdurdod strydoedd) lle mae unrhyw stryd y mae'r dynodiad arfaethedig yn ymwneud â hi wedi'i lleoli;
(c)i feddianwyr neu feddianwyr honedig unrhyw dir sy'n gyffiniol â'r stryd;
(ch)i unrhyw Weithrediaeth Trafnidiaeth i Deithwyr neu unrhyw awdurdod trafnidiaeth arall dros yr ardal lle mae'r stryd wedi'i lleoli;
(d)i Brif Swyddog yr Heddlu, y Prif Swyddog Tân a Phrif Weithredwr Ymddiriedolaeth Ambiwlans Cymru Gwasanaethau yn eu trefn dros yr ardaloedd lle mae'r stryd wedi'i lleoli; ac
(dd)i unrhyw berson sydd wedi gwneud cais ysgrifenedig i'r awdurdod strydoedd yn gofyn am gael ei hysbysu o unrhyw ddynodiad arfaethedig o dan adran 61.
4. Os nad yw'r awdurdod strydoedd yn cael gwrthwynebiad o fewn y cyfnod a bennir, neu os yw pob gwrthwynebiad wedi cael ei dynnu'n ôl, caiff yr awdurdod hwnnw wneud y dynodiad.
5. Os yw'r awdurdod strydoedd yn cael gwrthwynebiad o fewn y cyfnod hwnnw gan unrhyw berson y mae'n ofynnol rhoi copi o'r hysbysiad iddo o dan baragraff 3 neu gan unrhyw berson arall yr ymddengys i'r awdurdod strydoedd y byddai'r dynodiad arfaethedig yn effeithio arno, ac na thynnir y gwrthwynebiad yn ôl, rhaid i'r awdurdod strydoedd beri i ymchwiliad lleol gael ei gynnal cyn gwneud y dynodiad.
6. Pan fo ymchwiliad lleol wedi cael ei gynnal rhaid i'r awdurdod strydoedd ystyried y gwrthwynebiadau ac adroddiad y person a gynhaliodd yr ymchwiliad a chaiff wneud y dynodiad gydag addasiadau neu hebddynt, neu caiff benderfynu peidio â'i wneud.
7. Cyn dynodi stryd yn un ag iddi anawsterau peirianyddol arbennig o dan adran 63 neu yn un sy'n sensitif i draffig yn unol â rheoliad 16(1), rhaid i'r awdurdod roi hysbysiad o'i fwriad i wneud y dynodiad
(a)i bob ymgymerwr y mae'r awdurdod yn gwybod ei fod yn gweithio yn ei ardal, neu sydd wedi rhoi hysbysiad, naill ai o dan adran 54 neu o dan adran 55 ei fod yn bwriadu gwneud gwaith stryd yn ei ardal;
(b)i bob awdurdod lleol (ac eithrio'r awdurdod strydoedd) lle mae unrhyw stryd y mae'r dynodiad arfaethedig yn ymwneud â hi wedi'i lleoli;
(c)unrhyw Weithrediaeth Trafnidiaeth i Deithwyr neu unrhyw awdurdod trafnidiaeth arall dros yr ardal lle mae'r stryd wedi'i lleoli;
(ch)i Brif Swyddog yr Heddlu, Prif Swyddog Tân a Phrif Weithredwr Ymddiriedolaeth Ambiwlans Cymru Gwasanaethau yn eu trefn dros yr ardaloedd lle mae'r stryd wedi'i lleoli; a
(d)i unrhyw berson sydd wedi gwneud cais ysgrifenedig i'r awdurdod strydoedd yn gofyn am gael ei hysbysu o unrhyw ddynodiad arfaethedig.
8. Rhaid i'r hysbysiad bennu—
(a)cyfnod, nad yw'n llai na mis o ddyddiad cyhoeddi'r hysbysiad, y caniateir gwneud gwrthwynebiadau o'i fewn. a
(b)yn achos hysbysiad a roddir at ddibenion rheoliad 16(1), pa rai o'r meini prawf a osodir yn rheoliad 16(2) a fodlonir o ran y stryd.
9. Os nad yw'r awdurdod strydoedd yn cael gwrthwynebiad o fewn y cyfnod a bennir, neu os yw pob gwrthwynebiad wedi cael ei dynnu'n ôl, caiff yr awdurdod hwnnw wneud y dynodiad.
10. Os yw'r awdurdod strydoedd yn cael gwrthwynebiad o fewn y cyfnod hwnnw gan unrhyw berson y mae'n ofynnol rhoi copi o'r hysbysiad iddo o dan baragraff 7 neu gan unrhyw berson arall yr ymddengys i'r awdurdod strydoedd y byddai'r dynodiad arfaethedig yn effeithio arno, ac na thynnir y gwrthwynebiad yn ôl, rhaid i'r awdurdod strydoedd ystyried y gwrthwynebiad cyn gwneud y dynodiad a chaiff wneud y dynodiad gydag addasiadau neu hebddynt, neu caiff benderfynu peidio â'i wneud.
11. Rhaid i awdurdod strydoedd roi hysbysiad ysgrifenedig o'i benderfyniad i ddynodi stryd yn stryd a warchodir, yn stryd ag iddi anawsterau peirianyddol arbennig neu yn stryd sy'n sensitif i draffig i unrhyw ymgymerwr y rhoddodd gopi o hysbysiad iddo o dan baragraff 3(a), neu, yn ôl y digwydd, hysbysiad o dan baragraff 7(a).
12. Ar ôl ymgynghori â phob person sydd â hawl i gael hysbysiad neu gopi o hysbysiad o dan y weithdrefn ddynodi berthnasol, caiff awdurdod strydoedd dynnu'n ôl ddynodiad stryd yn stryd a warchodir, yn stryd sy'n sensitif i draffig neu, yn ddarostyngedig i adran 63(4), yn stryd ag iddi anawsterau peirianyddol arbennig, ar unrhyw adeg.
13. Caiff unrhyw berson sydd â hawl i gael hysbysiad neu gopi o hysbysiad o dan y weithdrefn ddynodi berthnasol neu unrhyw berson arall sydd ym marn yr awdurdod â buddiant digonol wneud sylwadau i'r awdurdod strydoedd yn gofyn iddo dynnu'r dynodiad yn ôl. Rhaid i'r awdurdod ystyried yn ofalus unrhyw sylwadau o'r fath cyn penderfynu ei dynnu yn ôl ai peidio.
14. Os yw awdurdod strydoedd yn tynnu dynodiad yn ôl rhaid iddo gyhoeddi hysbysiad ei fod wedi'i dynnu'n ôl ar unrhyw wefan a gynhelir gan yr awdurdod at y diben o ddarparu gwybodaeth i'r cyhoedd.
15. Pan fo rheolwr strydoedd yn gwneud dynodiad neu yn tynnu dynodiad yn ôl rhaid iddo hysbysu'r awdurdod priffyrdd.
16. Pan fo awdurdod priffyrdd yn gwneud dynodiad neu yn tynnu dynodiad yn ôl, neu yn cael ei hysbysu gan reolwr strydoedd yn unol â pharagraff 15, rhaid i'r awdurdod
(a)hysbysu deiliad y consesiwn ar y pryd sydd â'r cyfrifoldeb dros gynnal a chadw'r Rhestr Strydoedd Genedlaethol; a
(b)cofnodi'r cyfryw benderfyniadau ar y gofrestr gwaith stryd,
cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol a beth bynnag, o fewn mis.
17. Yn yr Atodlen hon
mae i “awdurdod lleol” yr un ystyr ag a roddir i “local authority” gan adran 270(1) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972(1);
Rhaid dehongli “Gweithrediaeth Trafnidiaeth i Deithwyr” yn unol â'r dehongliad o “Passenger Transport Executive” yn adran 9 o Ddeddf Drafnidiaeth 1968(2); ac
ystyr “y Rhestr Strydoedd Genedlaethol” (“the National Street Gazetteer”) yw'r gronfa ddata gyfrifiadurol genedlaethol o strydoedd sy'n cael ei chynnal a'i chadw gan ddeiliad y consesiwn ar y pryd a benodir gan y Ty Gwybodaeth Llywodraeth Leol Cyfyngedig (“the Local Government Information House Limited”).
1972 p.70. Diwygiwyd adran 270(1) gan Ddeddf Llywodraeth Leol 1985 (p.51), adran 102(2) ac Atodlen 17. Mae yna ddiwygiadau eraill nad ydynt yn berthnasol i'r Rheoliadau hyn.
1968 p.73. Amnewidiwyd adrannau 9(1) a (2) a'u diwygio gan Ddeddf Drafnidiaeth 1985 (p.67), adrannau 57(1) a 58(2). Mae yna ddiwygiadau eraill nad ydynt yn berthnasol i'r Rheoliadau hyn.
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys