Rheoliadau Cynhyrchion Penodedig o Tsieina (Cyfyngiad ar eu Rhoi Gyntaf ar y Farchnad) (Cymru) 2008

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn yn gweithredu o ran Cymru Benderfyniad y Comisiwn 2008/289/EC ar fesurau brys ynghylch yr organedd a addaswyd yn enetig heb awdurdod sef “Bt 63” mewn cynhyrchion reis (OJ Rhif L96, 9.4.2008, p.29).

Mae'r Rheoliadau hyn —

(a)yn gwahardd rhoi unrhyw “gynnyrch penodedig” (a ddiffinnir yn rheoliad 2(1)), gyntaf ar y farchnad, ac eithrio pan fo—

(i)yn dod gydag—

(aa)adroddiad dadansoddol gwreiddiol sydd wedi ei seilio ar fethod adeiledd-benodol arbennig i ganfod y reis a addaswyd yn enetig, sef “Bt 63” ac a ddyroddwyd gan labordy swyddogol neu achrededig sy'n dangos nad yw'r cynnyrch yn cynnwys y reis a addaswyd yn enetig, sef “Bt 63” neu wedi ei wneud neu wedi ei gynhyrchu o'r cyfryw reis, neu

(bb)os nad yw'n cynnwys reis, neu wedi ei wneud neu wedi ei gynhyrchu o reis, datganiad gan y gweithredydd sy'n gyfrifol am y llwyth sy'n dangos nad yw'r bwyd yn cynnwys reis neu nad yw wedi ei wneud neu wedi ei gynhyrchu o reis; neu

(ii)y gweithredydd a sefydlwyd yn y Gymuned sy'n gyfrifol am roi'r cynnyrch gyntaf ar y farchnad wedi peri profi'r cynnyrch ac mae'r adroddiad dadansoddol o ran y prawf hwnnw yn dangos nad yw'n cynnwys y reis a addaswyd yn enetig, sef “Bt 63” (rheoliad 3(1)(a)); a

(iii)gofynion penodol ar gyfer llwythi hollt yn cael eu cydymffurfio â hwy (rheoliad 3(1)(b));

(b)yn darparu bod person sy'n mynd yn groes i'r gwaharddiad hwnnw gan wybod hynny yn euog o dramgwydd ac yn rhagnodi cosbau am y tramgwydd hwnnw (rheoliad 3(2));

(c)yn ei gwneud yn ofynnol bod gweithredydd sy'n dod yn ymwybodol o ganlyniad cadarnhaol o brawf am bresenoldeb y reis a addaswyd yn enetig, sef “Bt 63” mewn cynnyrch penodedig sydd o dan ei reolaeth yn hysbysu'r Asiantaeth Safonau Bwyd am y canlyniad hwnnw ar unwaith (rheoliad 4(1));

(ch)yn darparu bod person sydd heb esgus rhesymol yn methu â chydymffurfio â'r gofyniad hwnnw yn euog o dramgwydd ac yn rhagnodi cosbau am y tramgwydd hwnnw (rheoliad 4(2));

(d)yn darparu am eu gorfodi (rheoliad 5); ac

(dd)yn cymhwyso gydag addasiadau ddarpariaethau penodol yn Neddf Diogelwch Bwyd 1990 (1990 p.16) at ddibenion y Rheoliadau (rheoliad 6).