xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Cymhwyso darpariaethau amrywiol Deddf Diogelwch Bwyd 1990

6.  Mae darpariaethau canlynol Deddf Diogelwch Bwyd 1990 yn gymwys at ddibenion y Rheoliadau hyn gyda'r addasiad y mae unrhyw gyfeiriad yn y darpariaethau hynny at y Ddeddf neu at Ran ohoni i'w ddehongli fel cyfeiriad at y Rheoliadau hyn —

(a)adran 20 (tramgwyddau oherwydd bai person arall);

(b)adran 21 (amddiffyniad diwydrwydd dyladwy)(1), gyda'r addasiad y mae is-adrannau (2) i (4) yn gymwys mewn perthynas â thramgwydd o dan reoliad 3(2) fel y maent yn gymwys mewn perthynas â thramgwydd o dan adran 14 neu 15, yn is-adrannau (2)(a) a (3)(b) bernir bod y cyfeiriadau at “food” yn gyfeiriadau at fwyd anifeiliaid neu fwyd ac yn is-adran (4)(b) bernir bod y cyfeiriadau at “sale or intended sale” yn gyfeiriadau at “rhoi gyntaf ar y farchnad”;

(c)adran 32 (pwerau mynediad), gyda'r addasiad yn is-adran (1) y bernir bod y cyfeiriad at “an enforcement authority” yn gyfeiriad at awdurdod bwyd anifeiliaid neu at awdurdod bwyd, y bernir bod y cyfeiriadau at “the authority’s area” yn gyfeiriadau at ardal yr awdurdod ac y bernir bod cyfeiriad at “a food authority” yn gyfeiriad at awdurdod bwyd anifeiliaid neu at awdurdod bwyd;

(ch)adran 33(1) (rhwystro etc. swyddogion);

(d)adran 33(2), gyda'r addasiad y bernir bod y cyfeiriad at “any such requirement as is mentioned in subsection (1)(b) above” yn gyfeiriad at unrhyw ofyniad a grybwyllir yn adran 33(1)(b) fel y'i cymhwysir gan is-baragraff (ch);

(dd)adran 35(1) (cosbi tramgwyddau)(2), i'r graddau y mae'n ymwneud â thramgwyddau o dan adran 33(1) fel y'i cymhwysir gan is-baragraff (ch);

(e)adran 35(2) a (3)(3) i'r graddau y mae'n ymwneud â thramgwyddau o dan adran 33(2) fel y'i cymhwysir gan is-baragraff (d);

(f)adran 36 (tramgwyddau gan gyrff corfforaethol);

(ff)adran 36A (tramgwyddau gan bartneriaethau Albanaidd)(4); ac

(g)adran 44 (amddiffyn swyddogion sy'n gweithredu'n ddidwyll), gyda'r addasiad y bernir bod y cyfeiriadau at “food authority” yn gyfeiriadau at awdurdod bwyd anifeiliaid neu at awdurdod bwyd.

(1)

Diwygiwyd adran 21 gan O.S.2004/3279.

(2)

Diwygir adran 35(1) gan Ddeddf Cyfiawnder Troseddol 2003 (2003 p. 44), Atodlen 26, paragraff 42, o ddyddiad sydd i'w bennu.

(3)

Diwygiwyd adran 35(3) gan O.S. 2004/3279.

(4)

Mewnosodwyd adran 36A gan Ddeddf Safonau Bwyd 1999 (1999 p. 28), Atodlen 5, paragraff 16.