Diwygio Rheoliadau Ychwanegion Bwyd Amrywiol 1995
11. Yn Atodlen 4 (cariwyr a thoddyddion cariwyr a ganiateir)—
(a)ar ôl y cofnod ynghylch E 967, yn y golofn gyntaf, mewnosoder “E 968” ac yn yr ail golofn gyferbyn, mewnosoder “Erythritol”;
(b)ar ôl y cofnod ynghylch E 461, yn y golofn gyntaf, mewnosoder “E 462” ac yn yr ail golofn gyferbyn, mewnosoder “Ethyl cellulose”;
(c)yn nhrydedd golofn y cofnod ynghylch E 551 ac E 552, ychwaneger yr ymadrodd “For E 551: in E 171 titanium dioxide and E 172 iron oxides and hydroxides (max. 90% relative to the pigment).”.