xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Diwygio Rheoliadau Ychwanegion Bwyd Amrywiol 1995

13.  Yn Atodlen 8 (ychwanegion amrywiol a ganiateir mewn bwydydd i fabanod a phlant bach)—

(a)ym mharagraffau 1, 1A ac 1B o'r nodiadau rhagarweiniol, yn lle'r ymadrodd “weaning foods”, rhodder bob tro yr ymadrodd “processed cereal-based foods and baby foods”;

(b)yn Rhan 3 (ychwanegion amrywiol a ganiateir mewn bwydydd diddyfnu i fabanod a phlant bach y mae eu hiechyd yn dda),

(i)hepgor y cofnod ynghylch E 473; a

(ii)yn y man lle mae'n ymddangos yn y teitl ac yn nhrydedd golofn y cofnodion ynghylch E 170 i E 526, E 500 i E 503, E 338, E 410 i E 440, E 1404 i E 1450, ac E 1451, yn lle'r ymadrodd “weaning foods”, rhodder “processed cereal-based foods and baby foods”.

(c)yn Rhan 4 (ychwanegion amrywiol a ganiateir mewn bwydydd deietegol i fabanod a phlant bach at ddibenion meddygol arbennig fel y'u diffinnir yng Nghyfarwyddeb 1999/21/EC), ar ôl y cofnod ynghylch E 472c mewnosoder y cofnod canlynol—

E 473Sucrose esters of fatty acidsProducts containing hydrolysed proteins, peptides and amino acids120 mg/l