Chwilio Deddfwriaeth

Gorchymyn Cŵn Gleision (Gwahardd eu Pysgota) (Cymru) 2008

 Help about what version

Pa Fersiwn

 Help about opening options

Dewisiadau Agor

Statws

Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Pwerau swyddogion pysgodfeydd môr Prydeinig

6.—(1At ddibenion gorfodi'r Gorchymyn hwn, caiff swyddog arfer y pwerau a ganlyn.

(2Caiff swyddog fynd ar fwrdd cwch pysgota, gyda neu heb bersonau a bennwyd i gynorthwyo'r swyddog i arfer ei ddyletswyddau, ac at y diben hwnnw caiff ei gwneud yn ofynnol i'r cwch aros a gwneud unrhyw beth arall a fydd yn hwyluso mynd ar fwrdd y cwch.

(3Caiff swyddog ei gwneud yn ofynnol bod meistr a phersonau eraill sydd ar fwrdd y cwch yn bresennol a chaiff wneud unrhyw archwiliad neu ymchwiliad y mae'n ymddangos i'r swyddog ei bod yn angenrheidiol ei wneud at ddiben gorfodi'r Gorchymyn hwn ac, yn enwedig—

(a)caiff archwilio unrhyw bysgodyn ar y cwch a chyfarpar y cwch, gan gynnwys yr offer pysgota, a'i gwneud yn ofynnol i bersonau ar fwrdd y cwch wneud unrhyw beth y mae'n ymddangos i'r swyddog ei bod yn angenrheidiol ei wneud i hwyluso'r archwiliad;

(b)caiff ei gwneud yn ofynnol i unrhyw berson ar fwrdd y cwch ddangos unrhyw ddogfen sy'n ymwneud â'r cwch, â'i waith pysgota neu â gwaith cysylltiedig neu â phersonau ar fwrdd y cwch, sydd yng ngafael neu ym meddiant y person hwnnw a chaiff gymryd copïau o'r cyfryw ddogfen;

(c)at ddibenion cael gwybod a yw'r meistr, perchennog neu siartrwr y cwch wedi cyflawni tramgwydd o dan adran 5 neu 6 o Ddeddf Pysgod Môr (Cadwraeth) 1967 fel y'i darllenir gyda'r Gorchymyn hwn, caiff chwilio'r cwch am y cyfrwy ddogfen a chaiff ei gwneud yn ofynnol i unrhyw berson ar fwrdd y cwch wneud unrhyw beth y mae'n ymddangos i'r swyddog ei bod yn angenrheidiol ei wneud at hwyluso'r chwiliad; ac

(ch)pan fo'r cwch yn un mewn perthynas ag ef y mae gan y swyddog reswm i amau bod y cyfryw dramgwydd wedi ei gyflawni, caiff, yn ddarostyngedig i baragraff (4), ymafael yn y cyfryw ddogfen a ddangoswyd i'r swyddog neu a gafwyd ar fwrdd y cwch a'i chadw'n gaeth at ddibenion galluogi i'r ddogfen gael ei defnyddio yn dystiolaeth mewn achos ar gyfer y tramgwydd.

(4Nid oes dim ym mharagraff (3)(ch) yn galluogi'r swyddog i ymafael yn unrhyw ddogfen y mae'n ofynnol ei chario ar fwrdd y cwch a'i chadw'n gaeth ac eithrio tra bo'r cwch yn cael ei gadw'n gaeth mewn porthladd.

(5Pan ymddangoso i swyddog fod unrhyw ddarpariaeth yn y Gorchymyn hwn wedi ei thorri ar unrhyw adeg, caiff y swyddog—

(a)cymryd, neu ei gwneud yn ofynnol i'r meistr gymryd, y cwch a'i griw i'r porthladd y mae'n ymddangos i'r swyddog mai ef yw'r porthladd cyfleus agosaf; a

(b)cadw'r cwch yn gaeth yn y porthladd, neu ei gwneud yn ofynnol i'r meistr ei gadw'n gaeth yno.

(6Rhaid i swyddog sy'n cadw cwch yn gaeth neu'n ei gwneud yn ofynnol i gwch gael ei gadw'n gaeth gyflwyno i'r meistr hysbysiad ysgrifenedig yn datgan y cedwir y cwch yn gaeth neu y mae'n ofynnol cadw'r cwch yn gaeth hyd nes y tynnir yr hysbysiad yn ôl drwy gyflwyno i'r meistr hysbysiad ysgrifenedig arall a lofnodwyd gan swyddog.

(7Yn yr erthygl hon, ystyr “swyddog” yw swyddog pysgodfeydd môr Prydeinig.

Yn ôl i’r brig

Options/Cymorth

Print Options

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill
Close

Rhagor o Adnoddau

Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel gwnaed fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • slipiau cywiro

liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys

  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill