Gorchymyn Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Conwy a Sir Ddinbych (Trosglwyddo Staff, Eiddo, Hawliau a Rhwymedigaethau) 2008

Enwi, cychwyn a dehongli

1.—(1Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Conwy a Sir Ddinbych (Trosglwyddo Staff, Eiddo, Hawliau a Rhwymedigaethau) 2008 a daw i rym ar 1 Gorffennaf 2008.

(2Yn y Gorchymyn hwn, onid yw'r cyd-destun yn mynnu fel arall:

ystyr “y dyddiad trosglwyddo” (“the transfer date”) yw 1 Gorffennaf 2008;

ystyr “yr hen ymddiriedolaeth” (“the old trust”) yw Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Conwy a Sir Ddinbych a sefydlwyd ar 4 Ionawr 1999;

ystyr “yr ymddiriedolaeth newydd” (“the new trust”) yw Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Gogledd Cymru a sefydlwyd ar 25 Mehefin 2008.

Trosglwyddo cyflogeion i'r trosglwyddai

2.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff (3), trosglwyddir contract cyflogaeth unrhyw berson a oedd yn union cyn y dyddiad trosglwyddo yn cael ei gyflogi gan yr hen ymddiriedolaeth i'r ymddiriedolaeth newydd ar y dyddiad trosglwyddo a bydd y contract hwnnw'n effeithiol fel pe bai wedi'i wneud yn wreiddiol rhwng y person a gyflogir felly a'r ymddiriedolaeth newydd.

(2Heb ragfarnu paragraff (1) uchod —

(a)yn rhinwedd yr erthygl hon, trosglwyddir yr holl hawliau, pwerau, dyletswyddau a rhwymedigaethau o dan gontract neu mewn cysylltiad â chontract y mae'r paragraff hwnnw'n gymwys iddo i'r ymddiriedolaeth newydd ar y dyddiad trosglwyddo;

(b)bernir bod unrhyw beth a wnaed cyn y dyddiad hwnnw gan yr hen ymddiriedolaeth neu mewn perthynas â hi ynglŷn â'r contract hwnnw neu'r cyflogai hwnnw, o'r dyddiad trosglwyddo ymlaen wedi'i wneud gan yr ymddiriedolaeth newydd neu mewn perthynas â hi.

(3Nid yw paragraffau (2) a (3) uchod yn rhagfarnu unrhyw hawl sydd gan unrhyw gyflogai i derfynu ei gontract cyflogaeth os gwneir newid sylweddol er niwed i'r cyflogai yn ei amodau gwaith, ond ni fydd unrhyw hawl o'r fath yn codi yn unig oherwydd y newid mewn cyflogwr a bernir gan yr erthygl hon.

Trosglwyddo eiddo, hawliau a rhwymedigaethau

3.  Ar y dyddiad trosglwyddo trosglwyddir holl eiddo, hawliau a rhwymedigaethau'r hen ymddiriedolaeth, sydd heb eu crybwyll yn erthygl 2 uchod, i'r ymddiriedolaeth newydd gan gynnwys heb gyfyngiad—

(a)y ddyletswydd i baratoi'r cyfrifon sydd heb eu cwblhau gan yr hen ymddiriedolaeth a chyflawni'r holl ddyletswyddau statudol mewn perthynas â'r cyfrifon hynny;

(b)eiddo ymddiriedol yr hen ymddiriedolaeth a restrir yn Atodlen 1.

(c)elusennau'r hen ymddiriedolaeth a restrir yn Atodlen 2.

Trosglwyddo swyddogaethau'r hen ymddiriedolaeth i'r ymddiriedolaeth newydd

4.  Trosglwyddir holl swyddogaethau'r hen ymddiriedolaeth i'r ymddiriedolaeth newydd a byddant yn cael effaith o'r dyddiad trosglwyddo ymlaen.

Edwina Hart

Y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru

30 Mehefin 2008