Gwladolion y GE
10. Person—
(a)sydd, ar y dyddiad perthnasol, yn un o wladolion y GE ac eithrio'n un o wladolion y Deyrnas Unedig;
(b)sy'n preswylio fel arfer yng Nghymru ar y dyddiad perthnasol;
(c)sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a'r Ynysoedd drwy gydol y cyfnod o dair blynedd yn union cyn y dyddiad perthnasol; ac
(ch)a oedd, mewn achos pan oedd ei breswyliaeth arferol y cyfeirir ati ym mharagraff (c) yn gyfan gwbl neu'n bennaf at y diben o dderbyn addysg lawnamser, yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth y mae'r Ardal Economaidd Ewropeaidd a'r Swistir yn ei ffurfio yn union cyn y cyfnod o breswylio fel arfer y cyfeirir ato ym mharagraff (c).