xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
1. Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Iechyd Meddwl (Ysbyty, Gwarcheidiaeth, Triniaeth Gymunedol a Chydsynio i Driniaeth) (Cymru) 2008, maent yn gymwys o ran Cymru ac yn dod i rym ar 3 Tachwedd 2008.
2.—(1) Yn y Rheoliadau hyn, onid yw'r cyd-destun yn mynnu fel arall —
mae i “cyfathrebiad electronig” yr ystyr a roddir i “electronic communication” yn adran 15(1) o Ddeddf Cyfathrebu Electronig 2000(1);
mae “cyflwyno” (“served”), mewn perthynas â dogfen, yn cynnwys ei chyfeirio, ei thraddodi, ei rhoi, ei hanfon ymlaen, ei darparu neu ei hanfon;
ystyr “diwrnod busnes” (“business day”) yw unrhyw ddiwrnod ac eithrio dydd Sadwrn, dydd Sul neu ŵyl banc;
ystyr “dogfen” (“document”) yw unrhyw gais, argymhelliad, cofnod, adroddiad, gorchymyn, hysbysiad neu ddogfen arall;
ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Iechyd Meddwl 1983;
ystyr “gwarcheidwad preifat” (“private guardian”), mewn perthynas â chlaf, yw person, ac eithrio awdurdod gwasanaethau cymdeithasol lleol, sy'n gweithredu fel gwarcheidwad o dan y Ddeddf;
ystyr “gŵyl banc” (“bank holiday”) yw gŵyl banc o dan Ddeddf Bancio a Thrafodion Ariannol(2);
ystyr “ysbyty arbennig” (“special hospital”) yw ysbyty lle y darperir gwasanaethau seiciatrig tra diogel;
ystyr “tribiwnlys” (“tribunal”) yw Tribiwnlys Iechyd Meddwl Cymru neu'r Tribiwnlys Haen Gyntaf a sefydlwyd o dan Ddeddf Tribiwnlysoedd, Llysoedd a Gorfodi 2007(3) yn ôl y digwydd.
(2) Ac eithrio i'r graddau y mae'r cyd-destun yn mynnu fel arall, mae unrhyw gyfeiriad yn y Rheoliadau hyn at —
(a)adran â Rhif yn gyfeiriad at yr adran o'r Ddeddf sy'n dwyn y Rhif hwnnw;
(b)rheoliad â Rhif neu Atodlen â Rhif yn gyfeiriad at y rheoliad yn y Rheoliadau hyn, neu'r Atodlen iddynt, sy'n dwyn y Rhif hwnnw;
(c)paragraff â Rhif yn gyfeiriad at y paragraff yn y rheoliad hwnnw sy'n dwyn y Rhif hwnnw;
(ch)ffurflen alffaniwmerig yn gyfeiriad at y ffurflen yn Atodlen 1 honno sy'n dwyn y dynodiad hwnnw.
3.—(1) Ac eithrio mewn achos y mae paragraffau (2), (3), (4) neu (5) yn gymwys iddo, caniateir i unrhyw ddogfen y mae'n ofynnol neu yr awdurdodir ei chyflwyno i unrhyw awdurdod, corff neu berson gan neu o dan Ran 2 o'r Ddeddf (derbyniad gorfodol i ysbyty, gwarcheidiaeth a thriniaeth gymunedol o dan oruchwyliaeth) neu'r Rheoliadau hyn gael ei chyflwyno —
(a)drwy ei thraddodi i'r awdurdod, corff neu berson y mae i'w chyflwyno iddo; neu
(b)drwy ei thraddodi i unrhyw berson sydd wedi'i awdurdodi i'w chael gan yr awdurdod, y corff neu'r person hwnnw; neu
(c)drwy ei hanfon yn rhagdaledig drwy'r post a'i chyfeirio at —
(i)yr awdurdod neu'r corff yn ei swyddfa gofrestredig neu ei brif swyddfa, neu
(ii)y person y mae i'w chyflwyno iddo ym mhreswylfan arferol neu breswylfan hysbys ddiwethaf y person hwnnw; neu
(ch)drwy ei thraddodi gan ddefnyddio system post mewnol a ddefnyddir gan yr awdurdod, y corff neu'r person.
(2) Rhaid i unrhyw gais am dderbyn claf i ysbyty o dan Ran 2 o'r Ddeddf gael ei gyflwyno drwy draddodi'r cais i un o swyddogion rheolwyr yr ysbyty, y cynigir bod y claf yn cael ei dderbyn iddo, sef swyddog a awdurdodwyd ganddynt i gael y cais hwnnw.
(3) Pan fo claf yn agored i gael ei gadw'n gaeth mewn ysbyty o dan Ran 2 o'r Ddeddf, rhaid cyflwyno—
(a)unrhyw orchymyn gan berthynas agosaf y claf o dan adran 23 i ollwng y claf, a
(b)yr hysbysiad o'r gorchymyn hwnnw o dan adran 25(1) —
(i)drwy draddodi'r gorchymyn neu'r hysbysiad yn yr ysbyty hwnnw i un o swyddogion y rheolwyr sydd wedi'i awdurdodi ganddynt i'w gael, neu
(ii)drwy ei anfon yn rhagdaledig drwy'r post at y rheolwyr hynny yn yr ysbyty hwnnw, neu
(iii)drwy ei draddodi gan ddefnyddio system post mewnol a weithredir gan y rheolwyr y mae i'w gyflwyno iddynt, os yw'r rheolwyr hynny'n cytuno.
(4) Pan fo claf yn glaf cymunedol, rhaid cyflwyno—
(a)unrhyw orchymyn gan ei berthynas agosaf o dan adran 23(1A) i ollwng y claf, a
(b)yr hysbysiad o'r gorchymyn hwnnw a roddir o dan adran 25(1A) —
(i)drwy draddodi'r gorchymyn neu'r hysbysiad yn ysbyty cyfrifol y claf i un o swyddogion y rheolwyr sydd wedi'i awdurdodi ganddynt i'w gael, neu
(ii)drwy ei anfon yn rhagdaledig drwy'r post at y rheolwyr hynny yn yr ysbyty hwnnw, neu
(iii)drwy ei draddodi gan ddefnyddio system post mewnol a weithredir gan y rheolwyr y mae i'w gyflwyno iddynt, os yw'r rheolwyr hynny'n cytuno.
(5) Rhaid cyflwyno unrhyw adroddiad a wneir o dan adran 5(2) (cadw claf yn gaeth sydd eisoes wedi bod yn yr ysbyty am 72 awr) drwy—
(a)ei draddodi i un o swyddogion rheolwyr yr ysbyty sydd wedi'i awdurdodi ganddynt i'w gael, neu
(b)ei draddodi gan ddefnyddio system post mewnol a weithredir gan y rheolwyr y mae i'w gyflwyno iddynt, os yw'r rheolwyr hynny'n cytuno.
(6) Pan fo dogfen y cyfeirir ati yn y rheoliad hwn yn cael ei hanfon yn rhagdaledig drwy—
(a)post dosbarth cyntaf, bernir bod y cyflwyno wedi digwydd ar yr ail ddiwrnod busnes ar ôl y dyddiad postio;
(b)post ail ddosbarth, bernir bod y cyflwyno wedi digwydd ar y pedwerydd diwrnod busnes ar ôl ei phostio;
oni ddangosir i'r gwrthwyneb.
(7) Pan fo dogfen o dan y rheoliad hwn wedi'i thraddodi gan ddefnyddio system post mewnol, bernir bod y cyflwyno wedi digwydd yr union adeg y cafodd ei thraddodi i'r system post mewnol.
(8) Yn ddarostyngedig i adrannau 6(3) ac 8(3) (profi ceisiadau), caniateir i unrhyw ddogfen, sy'n ofynnol neu sydd wedi'i hawdurdodi gan neu o dan Ran 2 o'r Ddeddf neu'r Rheoliadau hyn ac sy'n honni ei bod wedi'i lofnodi gan berson y mae'n ofynnol iddo wneud hynny, neu y mae wedi'i awdurdodi i wneud hynny, gan neu o dan y Rhan honno neu'r Rheoliadau hyn, gael ei derbyn yn dystiolaeth ac i gael ei hystyried yn ddogfen o'r fath heb brawf pellach, oni phrofir y gwrthwyneb.
(9) Bernir bod unrhyw ddogfen y mae'n ofynnol iddi gael ei chyfeirio at reolwyr ysbyty'n unol â'r Ddeddf neu'r Rheoliadau hyn wedi'i chyfeirio'n briodol at y rheolwyr hynny os yw wedi'i chyfeirio at weinyddydd yr ysbyty hwnnw.
(10) Pan fo'n ofynnol o dan Ran 2 o'r Ddeddf neu'r Rheoliadau hyn i reolwyr ysbyty wneud unrhyw gofnod neu adroddiad, caniateir i'r swyddogaeth honno gael ei chyflawni gan swyddog a awdurdodwyd gan y rheolwyr hynny yn y cyswllt hwnnw.
(11) Pan fo'n ofynnol o dan y Rheoliadau hyn i gael cytundeb rheolwyr ysbyty ar gyfer penderfyniad i dderbyn cyflwyniad drwy ddull penodol, caniateir i'r cytundeb hwnnw gael ei roi gan swyddog a awdurdodwyd gan y rheolwyr hynny yn y cyswllt hwnnw.