xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Gwrthdrawiad buddiannau posibl ar sail perthynas bersonol

6.—(1Bydd gan asesydd wrthdrawiad buddiannau posibl wrth ystyried claf—

(a)os yw'n perthyn i berson perthnasol yn y radd gyntaf;

(b)os yw'n perthyn i berson perthnasol yn yr ail radd;

(c)os yw'n perthyn i berson perthnasol fel hanner brawd neu hanner chwaer;

(ch)os yw'n briod, yn gyn briod, yn bartner sifil neu'n gyn bartner sifil i berson perthnasol;

(d)os yw'n byw gyda pherson perthnasol megis petai yn briod neu'n bartner sifil.

(2At ddibenion y rheoliad hwn—

(a)ystyr “person perthnasol” yw asesydd arall, y claf, neu os mai perthynas agosaf y claf sy'n gwneud y cais, y perthynas agosaf;

(b)ystyr “yn perthyn i berson perthnasol yn y radd gyntaf” yw fel rhiant, chwaer, brawd, merch neu fab; ac mae'n cynnwys llysberthynas;

(c)ystyr “yn perthyn yn yr ail radd” yw fel ewythr, modryb, taid neu nain, tad-cu neu fam-gu, ŵyr neu wyres, cefnder, nîth, nai, rhiant yng nghyfraith, taid neu nain yng nghyfraith, tad-cu neu fam-gu yng nghyfraith, ŵyr neu wyres yng nghyfraith, chwaer yng nghyfraith, brawd yng nghyfraith, merch yng nghyfraith neu fab yng nghyfraith ac mae'n cynnwys llysberthynas;

(ch)mae cyfeiriadau at lysberthynas a theulu yng nghyfraith ym mharagraffau (b) ac (c) uchod i'w darllen yn unol ag adran 246 o Ddeddf Partneriaeth Sifil 2004(1).