- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae adran 20 o Ddeddf Aer Glân 1993 (“Deddf 1993”) yn darparu, pan fo simnai naill ai—
(a)yn simnai adeilad; neu
(b)yn simnai sy'n gwasanaethu ffwrnais bwyler sefydlog neu beiriannau diwydiannol,
fod meddiannydd yr adeilad, neu (yn ôl y digwydd) y person sy'n meddu ar y bwyler neu'r peiriannau yn euog o dramgwydd os yw'r simnai mewn ardal rheoli mwg ac yn gollwng mwg. Er hynny, mae'n amddiffyniad os gellir profi mai drwy ddefnyddio tanwydd awdurdodedig yn unig yr achoswyd y gollyngiad honedig.
Yng Nghymru, ystyr tanwydd awdurdodedig yw tanwydd y datgenir ei fod wedi'i awdurdodi drwy Reoliadau a wnaed gan Weinidogion Cymru.
Mae'r rheoliadau hyn yn pennu pob tanwydd sydd wedi'i awdurdodi i'w ddefnyddio yng Nghymru at ddibenion adran 20 o Ddeddf 1993. Maent yn dirymu ac yn cymryd lle Rheoliadau Ardaloedd Rheoli Mwg (Tanwyddau Awdurdodedig) (Cymru) 2006 (O.S. 2006/2979) (Cy.270)).
Mae'r rhan fwyaf o'r tanwyddau yn y Rheoliadau hyn wedi bod yn danwyddau awdurdodedig o'r blaen. Er hynny, mae'r disgrifiad o frics glo Aimcor Excel, brics glo Aimcor Pureheat a Long Beach Lump nuts wedi cael eu hadolygu i adlewyrchu newidiadau yn eu gweithgynhyrchu.
Awdurdodir defnyddio'r canlynol am y tro cyntaf: Big K Instant Lighting Fire Logs, briciau glo Ecoal, La Hacienda Easy Logs, Optima Fire Logs, Pyrobloc Fire Logs, ac Unicite. Cafodd math arall o Zip Firelog hefyd ei awdurdodi am y tro cyntaf.
Mae darpariaeth arbed (gweler Rheoliad 3(2)) yn sicrhau y bydd tanwyddau awdurdodedig a weithgynhyrchwyd cyn dyfodiad y Rheoliadau hyn i rym yn parhau i fod yn danwyddau awdurdodedig. Bydd defnyddio tanwyddau o'r fath felly yn parhau i fod yn amddiffyniad yn erbyn unrhyw honiad bod mwg wedi'i ollwng yn anghyfreithlon, hynny yw, yn groes i adran 20 o Ddeddf 1993.
Cafodd asesiad effaith rheoleiddiol ei baratoi mewn cysylltiad â'r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi ohono gan Lywodraeth Cynulliad Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ.
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys