Nodyn Esboniadol
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Gwneir y Gorchymyn hwn yn unol ag adran 58(2) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972. Mae'n rhoi eu heffaith i gynigion Comisiwn Ffiniau Llywodraeth Leol Cymru (“y Comisiwn”), ac yntau wedi adrodd ym Mis Chwefror 2008 ar ei adolygiad o ffiniau cymunedol mewn rhan o Fwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf. Argymhellodd adroddiad y Comisiwn newidiadau i ffiniau cymunedau Llanharan, Llanhari, Llantrisant a Phont-y-clun a newidiadau canlyniadol i drefniadau etholiadol. Mae'r Gorchymyn hwn yn rhoi eu heffaith i argymhellion y Comisiwn heb addasiadau.
Mae printiau o'r mapiau yn dangos y ffiniau wedi eu hadneuo a gellir eu harchwilio yn ystod oriau swyddfa arferol yn Swyddfeydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf, Tonypandy, ac yn swyddfeydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru ym Mharc Cathays, Caerdydd (Is-adran Polisi Llywodraeth Leol).
Mae Rheoliadau Newid Ardaloedd Llywodraeth Leol 1976 y cyfeirir atynt yn erthygl 2 o'r Gorchymyn hwn yn cynnwys darpariaethau cysylltiedig, canlyniadol, trosiannol ac atodol ynglyn ag effaith a gweithredu gorchmynion megis y rhain.